SAMUEL JONES. Ganwyd ef yn Dolyddelen, Gorphenaf 10fed, 1817. Yr oedd ei rieni John a Margaret Pritchard, yn bobl barchus a chrefyddol, ac y mae ei dad yn aros hyd yr awr hon, er mewn gwth o oedran, ac yn hen bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Llanberis. Dangosodd Samuel ogwyddiad yn ieuangc at fod yn bregethwr, a rhagfynegai pawb mai dyna a fyddai. Pan oedd o gylch tair-ar-ddeg oed, symudodd ei rieni o Dolyddelen i Lanberis, a dygodd hyny ef i gyffyrddiad a phrofedigaethau oeddynt hyd yma yn ddyeithr iddo. Yr oedd wedi arfer myned i'r gyfeillach gyda'i rieni er yn blentyn, ond ar ol myned i'r chwarel i weithio, ac ymgymysgu a bechgyn gwyllt o'i oed, gwelwyd ei fwynder yn ymadaw; ac er gofid dwys i'w dad a'i fam, gadawodd gyfeillach y saint, fel y caffai fwy o ryddid i "rodio yn ol helynt y byd hwn." Ond daliwyd ef yn fuan, gan yr Hwn a'i neillduasai o'r groth i fod yn llestr etholedig i'w wasanaeth—dychwelodd i'r gorlan o'r hon y crwydrasai—ac ar y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1833, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys yn Jerusalem, Llanberis, gan ei frawd Mr. Richard Jones, yn awr o Lanidloes, yr hwn oedd yn digwydd bod yno y Sabboth hwnw. Wedi ymuno a'r eglwys, ymroddodd Samuel Jones i weithio a'i holl egni. Yr oedd yni a bywiogrwydd lonaid ei natur, fel nas gallasai fod yn segur a diffrwyth. Nid oedd dim pall ar ei lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, nid yn unig yn y gangen i'r hon y perthynai, ond hefyd yn y cyfarfodydd chwech-wythnosol a gynhelid y pryd hwnw yn nosbarth Caernarfon. Dechreuodd yn fuan ag arfer ei ddawn yn gyhoeddus i areithio yn y cyfarfodydd hyny, ac yn nghyfarfodydd y gymdeithas gymedroldeb, a'r gymdeithas Ddirwestol, yn ei ardal. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn ei gymydogaeth i arwyddo yr ardystiad dirwestol, a pharhaodd yn Ddirwestwr ffyddlon a phybyr hyd ei ddiwedd. Wrth weled ei ddoniau yn ymddadblygu, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac yn mis Mawrth, 1836, y traddododd ei bregeth gyntaf yn gyhoeddus. Nid oedd wedi cael ond ychydig fanteision addysg, ac yr oedd yn dyheu am fwy o wybodaeth i'w gymhwyso i'w waith. Penderfynodd gynilo cymaint o arian ag a allai i'w gynorthwyo i gael addysg er ymbarotoi i fyned i ryw athrofa. Gadawodd Lanberis, Nadolig, 1837, a'i becyn ar ei ysgwydd, i fyned i Marton, sir Amwythig, i'r ysgol, a dechreuodd ei efrydiau yno cyn diwedd mis Ionawr, ar ol hyny. Enillodd serch a pharch ei athraw a'i gydefrydwyr, a gwnaeth gynydd cyflym yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth. Gwnaeth gais am dderbyniad i athrofa Aberhonddu yn 1840, ond bu yn aflwyddianus, nid am nad oedd i fyny a'r safon, ond oblegid rhyw amgylchiadau nad oedd a fynai efe a hwynt. Ond dichon mai felly yr oedd oreu, am fod ei Feistr Mawr yn gweled nad oedd ganddo ond tymor byr i weithio drosto. Bu am rai misoedd yn Sirhowy yn gwasanaethu yn lle ei frawd, a bu ei weinidogaeth yno yn nodedig o lwyddianus. Yr oedd ar y pryd hwnw yn llawn o dân diwygiad, fel y llosgai yn angerddol pa le bynag yr elai, ac yr oedd llaw yr Arglwydd gydag ef. Derbyniodd alwadau o amryw fanau i ymsefydlu yn weinidog, ac yr ydym yn cofio yn dda y petrusder mawr a deiulai yn ei feddwl, pa un ai i Bethel a'r eglwysi cysylltiedig, gerllaw y Bala, ai i Maentwrog yr âi, ond trodd y glorian, o herwydd ryw resymau, o du y lle olaf, a dechreuodd ei weinidogaeth yno, mewn cysylltiad a Llan, Ffestiniog, yn niwedd y flwyddyn 1840. Urddwyd ef yr un pryd ag agoriad capel newydd Maentwrog, Mai 26ain, 1841, ac anaml y gwelwyd gweinidog ieuangc yn dechreu ei weinidogaeth dan amgylchiadau
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/479
Prawfddarllenwyd y dudalen hon