Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Senedd i efengyleiddio Cymru. Yn Allhallows y traddododd y pregethau galluog, a argraffwyd wedi hyny yn gyfrol pedwar plyg.

Ar ol ei ddychweliad i Gymru, ni bu mwyach yn weinidog sefydlog, ond yn efengylwr teithiol, ac yn fath o arolygydd cyffredinol ar yr efengylwyr Cymreig. Efe oedd y prif ddyn yn nhrefniad a gweinyddiad y mesurau a fabwysiadwyd gan y Senedd er taenu yr efengyl yn Nghymru. Gelwid ef yn fynych i Lundain i bregethu o flaen y Senedd, ac i eistedd ar bwyllgorau er trefnu achosion crefyddol y wlad, ond yn Nghymru y cartrefodd o'r flwyddyn 1646 hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 24, 1659. Bu farw yn Nhrefela mewn cyflawn fwynhad o gysuron nefol, a chladdwyd ef yn nghangell eglwys Llangwmucha. Cafodd ei symud o'r ffordd ychydig fisoedd cyn i'r ystorm fawr dori allan gydag adferiad Siarl II. Tybir i'r cymylau duon a welai yn ymgasglu uwch ben yr eglwysi effeithio i gymaint graddau ar ei feddwl nes cyflymu ei farwolaeth.

Bu Mr. Cradock yn briod a chafodd ddwy ferch, y rhai a enwodd Lois ac Eunice. Priododd yr henaf âg un Mr. Richard Creed, boneddwr Saesonig, a'r ail â Mr. Thomas Jones, o Abergavenny, a chafodd fab o'r enw Christopher Jones, yr hwn oedd yn enwog fel crefyddwr yn ei oes.

Dywedir fod Mr. Cradock yn ddyn lled dal, o wneuthuriad cadarn, yn alluog i weithio yn galed, ac yr oedd y fath gyfansoddiad yn angenrheidiol iddo ef yr hwn yr oedd galwad am iddo deithio mor fynych dros fynyddoedd noethion Cymru i bregethu yr efengyl. Yr oedd ychydig o ôl y frechwen ar ei wyneb. O ran ei dymer yr oedd yn serchog, ond yn boeth a bywiog. Nid oedd mewn un modd yn ddyn cul a rhagfarnllyd tuag at y rhai a wahaniaethent oddiwrtho ef ar faterion cymharol ddibwys, ac nid oedd nemawr o ddyn yn fwy hyddysg yn nadleuon ei oes nag ef.

Cafodd ei weithiau, y rhai sydd yn gynnwysedig o bregethau, anerchiadau, ac esboniadau ar adnodau o'r Beibl, eu cyhoeddi yn ei fywyd ef, yn un gyfrol drwchus bedwar plyg. Maent oll yn hollol efengylaidd yn eu hysbryd, ac yn dangos fod eu hawdwr yn ddyn talentog iawn, yn bregethwr poblogaidd, ac yn nodedig o rydd ei ysbryd at y rhai a annghytunent âg ef ar bethau anhanfodol. Yr oedd Baxter yn siarad yn uchel iawn am dano pan welodd ef yn yr Amwythig yn 1635, yn nhy ei athraw, Richard Symmonds, ond yn 1684, y mae yn ei gyhuddo o fod yn "Antinomiad noeth." Ond yr oedd y ffaith ei fod yn Annibynwr, yn amddiffynwr rhyddid cyflawn i bob sect, ac yn uchel Galfiniad, ac weithiau, o bosibl, yn traethu ei olygiadau mewn iaith heb fod yn gwbl ochelgar, yn ddigon i wneyd meddwl Baxter yn rhy ragfarnllyd yn ei erbyn i roddi darluniad teg o'i olygiadau. Yr oedd yn llawn mor belled o fod yn Antinomiad a Baxter ei hun. Nid ymddengys iddo gyhoeddi dim yn Gymraeg ond dau neu dri argraffiad o'r Ysgrythyrau mewn cysylltiad âg eraill.

Bu ddwy waith yn pregethu o flaen y Senedd, ac yn 1653, cafodd ei benodi gan y Senedd yn un o'r rhai oedd i brofi cymhwysder dynion i waith y weinidogaeth. Yr oedd ei alluoedd rhagorol, ei ddoethineb, ei weithgarweh, a'i boblogrwydd digyffelyb fel pregethwr, yn ei wneyd yn nghyfrif ei gydoeswyr y dyn pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn Nghymru. "Yr oedd Mr. Cradock" medd un o'i gydoeswyr, "er yr holl ddiystyrwch a geisia Mr. Baxter daflu arno yn un o alluoedd naturiol, grymus, a bywiog anarferol, y rhai o herwydd ei holl orchwylion a'i lafur cyhoeddus, ni chafodd gyfleusdra i'w gwrteithio i'r graddau y buasai yn ddymunol; yr oedd yn ddyn o fedr rhyfeddol i egluro dyfnion bethau Duw i'r dynion