Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/480

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwy ffafriol. Ymroddodd a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, ac ymosododd gyda phenderfyniad yn erbyn meddwdod a holl annuwioldeb yr ardal, a gwelodd ffrwyth buan ar ei lafur, ond ni ddiangodd rhag difenwad y rhai a genfigenant oblegid ei lwyddiant, ond bu ei Dduw amddiffyn iddo, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai," y gallasai ei gaseion gael gafael arno. Yr oedd yr achos yn Llan, Ffestiniog yn isel, a baich y ddyled yn ei lethu, a phenderfynodd Mr. Jones wneyd ymdrech i'w ryddhau oddiwrth y baich, ond costiodd hyny ei fywyd iddo. Yn Hydref, 1843, cymerodd daith trwy ranau o siroedd Amwythig a Threfaldwyn i gasglu ato. Pan ar ei daith teimlai boen dyeithr yn ei ben, a chwanegai fel yr elai yn mlaen. Aeth i dreulio Sabboth at ei gyfaill Mr. H. James, yn Llansantffraid, a phregethodd yno y boreu a'r hwyr, a dyna y tro diweddaf y pregethodd. Dydd Llun aeth i Benybontfawr, a thranoeth teithiodd adref yr holl ffordd i Faentwrog, ac ymddangosai fel yn ymwybodol ei fod yn dyfod adref i farw. Yr oedd yn awyddus am gael pregethu i'w gyfeillion y Sabboth ar ol hyny, ond nis gallai; yr oedd clefyd yr ymenydd (brain fever) wedi ei gymeryd, ac aeth i'w wely, ac ni chododd mwy o hono. Bu farw dydd Mercher, Rhagfyr 2il, 1843, yn 26 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel yr Annibynwyr yn Mhorthmadog, y dydd Sadwrn canlynol, a dilynwyd ef i'w orweddle oer gan dorf fawr o bobl alarus, ac yn eu plith luaws o'i frodyr yn y weinidogaeth, y rhai a deimlent y parch dyfnaf iddo. Cyhoeddwyd cofiant rhagorol i Mr. Jones, gan ei gyfaill hoff, Mr. Ambrose, Porthmadog, o'r hwn y cymerasom brif ffeithiau y cofnodion uchod, ac ychwanegwn y difyniadau canlynol ar ei nodwedd. "Yr oedd ei gorph yn dal ac yn lluniaidd, ei wallt yn oleu, ei ruddiau yn wridog, ei lygaid yn siriol, ac eisteddai gwen serchus ac esmwyth ar ei enau. Yr oedd yn gyfaill trwyadl a ffyddlon. Nid yn aml y bu gan un mor ieuangc gynifer o gyfeillion mynwesol. Gwariai bunoedd bob blwyddyn am gludiad llythyrau i gadw cariad.' Gellir dywedyd am dano, fel y dywedwyd am Spencer, o Liverpool, ei fod yn cario ei galon mewn llestr grisial, fel yr oedd yn hawdd i bawb ei gweled.' Yr oedd yn byw yn nghymdeithas Duw, yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf.' Yr oedd yn argyhoeddedig o werth crefydd bersonol i lenwi y swydd sanctaidd. Yr oedd ei ymarweddiad difrycheulyda'iymddiddanion crefyddol, yn fwy defnyddiol na'i wasanaeth yn yr areithfa. Fel pregethwr, yr oedd yn dringo yn gyflym i enwogrwydd. Nid oedd dim hynod ynddo yn nechreu ei weinidogaeth. Cyfodai yn uwch uwch bob dydd mewn enwog—rwydd, a rhyfeddai pawb wrth ganfod ei gynydd fel pregethwr. Pan gyfodai i gyfarch cynnulleidfa, ymddangosai yn wylaidd ac esmwyth, a chyhyrau ei wyneb fel pe buasent yn chwareu rhwng hyfrydwch a phoen, rhoddai benill byr i'w ganu, a darllenai ei destyn yn bwyllog. Byddai ei sylw cyntaf bob amser yn darawiadol, a rhedai fel mellten trwy y dorf, yna ymddangosai fel pe buasai yn ymwybodol ei fod wedi dyfod o hyd i wythien y teimlad. Dilynai ychydig sylwadau priodol fel arweiniad at athrawiaeth ei destyn. Byddai ei raniadau bob amser yn naturiol, o ganlyniad yn eglur ac esmwyth. Yna, mewn iaith ddestlus, canlynai drychfeddyliau mor gyflym a chenadon Job. Wedi hyny, troai ei holl rym i ymaflyd yn nghydwybodau ei wrandawyr, daliai hwy yn ngwyneb yr athrawiaeth a eglurwyd, yna gwelid y deigryn yn dysgleirio ar ei amrant, a chanoedd o rai tebyg yn llygaid y bobl, a phan orphenai lefaru, gadawai ei wrandawyr bob amser mewn teimlad hyfryd wrth droed y groes."