UTICA
Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Faentwrog, ar y ffordd i Drawsfynydd. Rhoddwyd tir i adeiladu y capel gan William Jones, yr hwn a fuasai am flynyddoedd yn America, ac yn aelod yn Utica, a galwodd y lle yma ar enw hwnw, oblegid y llwyddiant bydol a'r daioni crefyddol a fwynhaodd yno. Adeiladwyd y capel yn 1843, yn nhymor byr gweinidgaeth Mr. Samuel Jones, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Maentwrog. Nid yw yr achos yn gryf yma, ond teimlid ar ol symud capel Maentwrog i'r pentref, fod yn angenrheidiol cael lle o addoliad er cyfleustra i bobl yr ochr uchaf, y rhai a arferent ddyfod i'r hen gapel. Mae mynwent helaeth yn nglyn a chapel Utica, a llawer wedi eu claddu ynddi. Trwy offerynoliaeth William Jones, yr hwn a roddodd dir i adeiladu, yn benaf y cychwynwyd yr achos yma, a bu trwy ei oes yn gefn mawr iddo. Yr oedd yn ddyn rhagorol—ffyddlon yn holl wasanaeth tŷ yr Arglwydd, a pharod i bob gweithred dda fel gwladwr a chrefyddwr.
RHYDYMAIN.
O Lanuwchllyn y seiniodd gair yr Arglwydd i'r ardal hon, a Mr. Abraham Tibbot oedd y pregethwr cyntaf a ymwelodd a'r ardal. Nid yw dyddiad ei ymweliad cyntaf wedi ei gofnodi, ac nid yw enwau y personau hyny a agorodd eu tai i dderbyn yr efengyl wedi eu trosglwyddo i ni. Mae yn amlwg y byddai amryw o'r gymydogaeth hon yn arfer cyrchu i Lanuwchllyn, yn mhell cyn dechreu pregethu yma, ond ar ol dechreu pregethu ennillwyd dysgyblion newydd yma, fel y gwelwyd yn angenrheidiol codi capel, er cael yma foddion crefyddol yn rheolaidd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1788, a ffurfiwyd yr aelodau perthynol i Lanuwchllyn oedd yn yr ardal yn eglwys, a gweinyddid iddynt gan Mr. Tibbot, hyd ei ymadawiad a Llanuwchllyn, ac wedi hyny gan ei olynydd, Dr. George Lewis. Yn Hydref, 1802, dewiswyd Mr. Hugh Pugh, yn weinidog i'r eglwys hon, a'r eglwys oedd erbyn hyn wedi ei ffurfio yn y Brithdir, a bu yma yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn, a'i weinidogaeth yn gymeradwy gan yr holl wlad. Ond byr fu ei dymor, canys yn mhen saith mlynedd i adeg ei ordeiniad, "machludodd ei haul a hi yn ddydd," a bu farw Hydref 28ain, 1809, yn 29 oed. Dilynwyd ef yn ei faes eang gan Mr Cadwaladr Jones, o'r Deildre, Llanuwchllyn, yr hwn a urddwyd yn Nolgellau, Iau Dyrchafael, 1811. Llafuriodd Mr. Jones yma gyda diwydrwydd, a chysondeb, a llwyddiant graddol am wyth-mlynedd-ar-hugain, nes y teimlodd fod cylch ei weinidogaeth yn rhy eang iddo, ac anogodd yr eglwys yma a'r eglwys yn y Brithdir i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain, ond trefnodd ar yr un pryd, i'w olynydd yn y lleoedd hyn newid ag ef un Sabboth o bob mis, fel yr oedd datodiad yr hen gysylltiad yn esmwyth o'r ddau tu.[1] Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Hugh James, o Ddinasmawddwy, ond a fuasai am yspaid dan addysg yn Marton, sir Amwythig, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddïwyd
- ↑ Ysgrif y diweddar Mr. C. Jones.