Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/482

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am fendith ar yr undeb gan Mr. H. Lloyd, Towyn; pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r eglwysi. Pragethwyd hefyd gan Meistri E. Evans, Abermaw; D. Price, Penybont; W. Roberts, Pennal; J. Parry, Machynlleth; H. Morgan, Sammah; E. Griffith, Llanegryn; T. Griffith, Rhydlydan, a J. Williams, Aberhosan.[1] Bu Mr. James yma dair blynedd, a chyfrif yr amser y bu yma cyn ei urddo, ac yr oedd yr adeg y bu yma yn adeg lewyrchus ar grefydd. Triugain ac wyth oedd rhifedi yr aelodau ar ddyfodiad Mr. James yma, a derbyniwyd ganddo driugain a naw, yn y tair blynedd y bu yma. Tynodd amryw o honynt yn ol yn fuan, ond er hyny gadawodd yr eglwys agos yn ddau cymaint ag y cafodd hi. Yr oedd gwres a brwdfrydedd yn amryw o blant y diwygiad yn Rhydymain y pryd hwnw, nas gallesid meddwl dan amgylchiadau cyffredin fod pobl sir Feirionydd yn alluog iddo. Yn Mai, 1843, symudodd Mr. James i Lansantffraid, sir Drefaldwyn, lle y mae yn parhau i lafurio hyd y dydd hwn. Yn mhen amser wedi ymadawiad Mr. James, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. John Davies, yr hwn a urddasid ychydig flynyddoedd cyn hyny yn Ceidio, sir Gaernarfon, ond gan nad oedd yr eglwys yn unol yn ei gylch, ac nad oedd yr eglwys yn y Brithdir yn cyduno i roddi galwad iddo, ni bu yma ond ychydig. Ymadawodd a'r enwad, ac unodd a'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu yn pregethu yn eu plith. Ymfudodd i America yn 1855, a bu farw yno, gan adael teulu lluosog ar ei ol. Aelod gwreiddiol o'r Drewen, sir Aberteifi ydoedd, a bu am ychydig yn athrofa Neuaddlwyd. Yr oedd yn ddyn da, ond nad oedd dim yn nodedig yn ei alluoedd meddyliol na'i ddawn fel pregethwr. Gwelodd gryn dipyn o galedfyd, ac nid oedd digon o yni yn ei natur i ymladd ystormydd bywyd.

Yn nechreu y flwyddyn 1847, derbyniodd Mr. Robert Ellis, Rhoslan, alwad gan yr eglwys hon a'r eglwysi yn y Brithdir a Llanfachreth, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yn mis Ebrill y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau yma yn ddefnyddiol a pharchus, a'r achos dan ei ofal yn ennill tir ac yn casglu nerth. Yn y flwyddyn 1868, gan fod y capel wedi myned yn hen, ac yn rhy fychan, heblaw ei fod yn anghyfaddas i'r oes, penderfynwyd codi capel newydd hardd, ac ymroddodd yr eglwys a'r ardal o ddifrif i wneyd hyny. Agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, ac erbyn mis Medi, 1870, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, er ei fod yn werth 700p. Mae llawer o hen bobl dda wedi bod yn nglyn a'r achos, y rhai y mae eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth. Robert Thomas, Penybont, oedd ddyn ffyddlon a synwyrol—gwasanaethodd swydd diacon yn dda; ymfudodd ef i America. Coffeir gyda pharch am Hugh Robert a Dafydd Robert, Cefnybraich—hen gymeriad rhyfedd oedd Dafydd Robert Blinodd lawer ar ei feddwl ei hun ac ar feddyliau eraill, yn nghylch pechod Adda, ac yr oedd cadwedigaeth y Paganiaid, yn bwngc a barodd iddo lawer o boen. Gadawodd 100p. yn ei ewyllys at yr achos yn Rhydymain, llog y rhai sydd i fyned i gynorthwyo y weinidogaeth, heblaw symiau llai a adawodd at achosion eraill. Robert Edwards, Rhydymain, (tad Mr. Roberts, Coedpoeth,) oedd ddyn deallus a doniol. Arferai ddweyd am gyfeillion Rhydymain, nad oedd gwell crefyddwyr na hwy pe buasai modd cario achos crefydd yn mlaen heb arian. Am y bobl gynt y mae yn debyg y dywedai hyny, ac nid am y bobl sydd yma yn bresenol.

  1. Dysgedydd, 1839. Tu dal. 380