Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/483

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn yr eglwys yma codwyd i bregethu :—

Richard Owen, Brithfryniau. Pregethwr cynorthwyol a fu efe dros ei holl fywyd.

Edward Roberts. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. James. Bu yn athrofa y Bala, ac efe oedd y cyntaf a urddwyd oddiyno. Mae yn awr yn Coedpoeth.

Robert Edwards. Brawd i Edward Roberts. Bu yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn Llanymddyfri, a bu farw yn mlodeu eu ddyddiau. Ceir ei hanes yn nglyn a Llanymddyfri.

BRITHDIR.

Nid oes dim yn agweddion allanol y llanerch hon o'r ddaear i osod arbenigrwydd arni, mwy na lluaws o lanerchau eraill yn ein gwlad. Nid oes yma dir ffrwythlawn, na daear gynyrchiol. Mae yn wir fod y mynyddau bân, ysgythrog, a welir o gylch y fan yn ymddangos yn fawreddog, pan yn gwisgo eu niwl goronau, a'r ffrydiau grisialaidd a fwrlymant i fyny o'r ddaear, ac a ddisgynant dros y creigiau, yn bur ac iachusol, a'r awelon balmaidd a wyntyllir gan y llwyni a'r coedwigoedd gwyrddlas yn adloniant i ysbryd y preswylwyr, ac yn sirioldeb calon i ymwelwyr achlysurol, etto nis gallasai y pethau hyn oll roddi i'r llecyn dinod yma o Feirionydd yr hynodrwydd y mae wedi ei gyrhaedd. Crefydd y lle sydd wedi gosod arbenigrwydd arno, ac y mae enw y Brithdir yn anfarwol yn nglyn a'r enwogion a gyfododd o hono. Dechreuwyd pregethu yn y lle cyn hir ar ol dechreu yn Rhydymain; a Mr. Abraham Tibbot, a'i gynorthwywyr yn Llanuwchllyn, Robert Roberts, Tyddynyfelin; Rowland Roberts, Penrhiwdwrch; John Jones, Afonfechan, a John Lewis, Hafodyrhaidd, oedd y rhai a ymwelent a'r lle yn mlynyddoedd cyntaf yr achos. Pregethid mewn tŷ annedd yn ymyl y fan lle y safai hen gapel y Brithdir, ac yn aml gorfodid pregethu y tu allan i'r drws, gan na chynwysai y tŷ y rhai a ddeuant yn nghyd. Derbyniwyd ychydig bersonau oddiyma yn aelodau yn Rhydymain, ond yn fuan wedi sefydliad Dr. G. Lewis yn LlanuwchIlyn, corpholwyd yr aelodau oedd yn y lle yn eglwys. Nid oeddynt ond wyth o bersonau, a dyma eu henwau—Sion Ellis, Mary Pugh, Perthillwydion, (mam H. Pugh, o'r Brithdir, wedi hyny,) Robert Roberts, o'r Henblas; Sion Jones, o'r Gorwys; Sion Risiart Wmffre, a gwragedd y tri a enwyd olaf. Robert Roberts, o'r Henblas, oedd yr unig un o honynt a allasai ddarllen ychydig, ac arno ef yn benaf yn ymddibynid pan na byddai pregethwr yn digwydd bod. Yn y flwyddyn 1795, derbyniwyd Hugh Pugh, mab Perthillwydion, yn fachgen ieuangc un-ar-bymtheg oed, yn aelod o'r eglwys gan Dr. Lewis, a theimlai y frawdoliaeth fechan yn y lle fod ei gael yn ennill anmhrisiadwy iddynt, ac felly y profodd. Yn y flwyddyn 1800, adeiladwyd yma gapel, a mawr y llawenydd a deimlid wrth gael pabell i'r arch i drigo ynddi. Gan fod yn anmhosibl i Dr. Lewis weini i'r eglwys yn y Brithdir a Rhydymain ond yn anaml, oblegid eangder maes ei lafur, anogodd hwy i roddi galwad i Mr. Hugh Pugh, Perthillwydion, yr hwn oedd wedi treulio blwyddyn yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam. Rhoddodd yr eglwysi alwad iddo, cydsyniodd yntau, ac urddwyd ef yma yn mis Hydref, 1802, a bu yma yn weithiwr difefl, hyd nes y gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, ac y byrhawyd ei ddyddiau, a dis-