Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/484

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynodd i'w fedd yn 30 oed. Yn mhen blwyddyn wedi marwolaeth Mr. Pugh, rhoddwyd galwad i Mr. Cadwaladr Jones, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, ac urddwyd ef yn Nolgellau, Mai 23ain, 1811, a bu gofal yr eglwys yma arno am wyth-mlynedd-ar-hugain, a pharhaodd i bregethu yn fisol yn y lle hyd ddiwedd ei oes. Dechreuodd Mr. Hugh James ei weinidogaeth yma yn Mai, 1839, ac urddwyd ef yn Rhydymain, Hydref 30ain a'r 31ain, y flwyddyn hono, a bu yma yn ddefnyddiol hyd fis Mai, 1842, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llansantffraid, Penygroes, a Llansilin. Yn ystod y tair blynedd y bu Mr. James yma, derbyniodd driugain a dau o aelodau, a gadawodd yr eglwys a gafodd yn driugain a chwech, a'i rhifedi yn ugain a chant. Nid oedd ond ychydig o'r gwrandawyr cyson, nad oeddynt y pryd hwnw wedi eu derbyn yn aelodau. Wedi ymadawiad Mr. James, bu yr eglwys yma am rai blynyddau heb weinidog gan na chydsyniodd a'r eglwys yn Rhydymain, yn ei dewisiad o Mr. John Davies, Ceidio. Yn nechreu y flwyddyn 1847, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Rhydymain a Llanfachreth, i roddi galwad i Mr. Robert Ellis, Rhoslan; a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma, Ebrill 12fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Jones, Abermaw; H. Lloyd, Towyn; C. Jones, Dolgellau; E. Davies, Trawsfynydd; M. Jones, Bala; H. Ellis, Llangwm; J. H. Hughes, Llangollen; E. Griffith, Llanegryn, ac eraill; ac y mae Mr. Ellis yn parhau yma yn y weinidogaeth. Adgyweiriwyd a helaethwyd y capel ar ol ei adeiladu y tro cyntaf, ond yn y flwyddyn 1860, penderfynwyd codi capel newydd ychydig oddiwrth yr hen gapel, a thaflodd yr ardalwyr eu holl galon i'r gwaith, fel y codwyd capel cryf, cadarn, a gwasanaethgar, gydag ysgoldy o'r tu cefn iddo, ac y mae claddfa eang wrtho, a gweddillion lluaws o rai anwyl eisioes wedi eu rhoddi i orwedd ynddi. Mae achos cryf a llewyrchus yn y Brithdir, a'r maes gan mwyaf wedi ei feddianu gan yr eglwys yn y lle. Yr oedd yn y Brithdir lawer o hen bobl dda, a hyderwn fod y rhai sydd yno yn awr, yn deilwng o'u henafiaid. Sion Dafydd, oedd yn nodedig am ei ffyddlondeb. Bu Thomas Richard yn ddiacon yma am flynyddau, a chafodd fyw i oedran teg. William Richard, am yr hwn y crybwylla Ieuan Gwynedd, yn hanes wylnos ei fam, na chlywodd ei gyffelyb fel gweddïwr. Hugh Jones, Tŷ-nant, oedd gristion didwyll, a diacon ffyddlon—efe oedd y cyntaf gladdwyd yn mynwent y capel newydd. Evan Price, hynaf, Bronalchen, oedd yn ddyn call a thirion iawn; ac yr oedd yma eraill mae yn ddiau o gyffelyb feddwl, er na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni. Arferai Richard Jones, Llwyngwril ddweyd, mai mewn profiad y rhagorai hen bobl dda y Brithdir.—"Pwnc yn Rhydymain, profiad yn Brithdir, a meindiwch yr amser yn Nolgellau," oedd ei ddynodiad ef o neillduolion y tri lle.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

Hugh Pugh. Cawn achlysur i sylwi arno ef etto.

Richard Roberts, Henblas. Bydd genym air am dano yn nglyn a'r Cutiau, gan mai yno y terfynodd ei oes.

Griffith Ellis, Maesyrhelma. Yr oedd yn un o bregethwyr yr eglwys yn ei chychwyniad, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau.

Edward Roberts. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Nghwmafon, Morganwg, yn 1844, ac yno y mae etto.

Evan Price, Bronalchen. Bu yn bregethwr ieuangc cymeradwy yn yr eglwys am flynyddoedd. Yr oedd yn ŵr ieuangc tra rhagorol—o ddeall