Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/485

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cryf, yn fardd gwych, ac yn gerddor deallus. Ymgododd i barch ac ymddiried, ac yr oedd yn oruchwyliwr i foneddwr yn ei ardal. Ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Rhoddodd Charles Edwards, Ysw., Dolserau, y boneddwr yr oedd yn oruchwyliwr iddo, gofadail ar ei fedd yn mynwent y Brithdir.

Robert Ellis. Mab Mr. Ellis, y gweinidog. Bu am dymor dan addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Carno.

John E. Jones. Mae ef yn awr yn yr eglwys yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy.

Yn yr eglwys yma y dygwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) i fyny, ac y derbyniwyd ef yn aelod, ond fel y crybwyllasom, fwy nag unwaith, aelod yn Sardis, Llanwddyn, ydoedd, pan ddechreuodd bregethu. Mae maen coffadwriaeth iddo ar fur capel y Brithdir, ac nid yw Tycroes, lle y treuliodd flynyddoedd ei febyd, yn nepell oddiyma.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Hugh Pugh, Brithdir
ar Wicipedia

HUGH PUGH. Ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779, yn Tynantbach, Brithdir. Yr oedd ei rieni Robert a Mary Pugh, yn bobl barchus a chyfrifol, ac yn well arnynt yn y byd na'r rhan fwyaf o'u cymydogion. Yr oedd pan anwyd ef yn eiddilach na phlant yn gyffredin, fel yr ofnid am ei einioes beunydd, ond cryfhaodd yn raddol, er na ddaeth byth yn gryf. Derbyniodd addysg gyffredinol dda, pan yn fachgen yn Nolgellau, ac wedi hyny yn sir Amwythig, fel y daeth yn lled hyddysg yn yr iaith Saesonaeg, ac yn gyfarwydd yn elfenau gwybodaeth gyffredin. Yr oedd er yn fachgen yn nodedig ar gyfrif ei diriondeb a'i hynawsedd, fel yr ennillai ei dymer serchus iddo air da gan bawb. Symudodd ei rieni i Perthillwydion, ac yn nglyn a'r lle hwnw yr oedd eu henwau yn fwyaf adnabyddus. Yr oedd ei fam yn aelod yn y gangen oedd wedi ei ffurfio yn Rhydymain, os nad oedd yn wir yn un o'r rhai a arferai gyrchu i Lanuwchllyn i gymundeb. Byddai Hugh Pugh yn arfer myned gyda'i fam i Rhydymain i'r gyfeillach, ond bu yn hir yn cloffi rhwng dau feddwl cyn rhoddi ei hun yn gyflawn i'r Arglwydd. Ofnid unwaith yr ymollyngai gyda'i gyfoedion gwyllt, ac un tro gwelwyd arwyddion ei fod wedi aros yn rhy hir yn y dafarn. Parodd yr amgylchiad dristwch mawr i'w fam, ac er nad oedd ei dad yn proffesu crefydd, yr oedd arno ofn mawr rhag i'w hoff fab droi allan yn oferddyn penrydd. Ond rhagflaenodd yr Arglwydd ef, a thrwy ddylanwad pregeth gyffrous o eiddo rhyw ŵr dyeithr oedd yn myned trwy y wlad, dygwyd ef i benderfynu rhoddi ei hun i'r Arglwydd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan Dr. Lewis, pan nad oedd ond un-ar-bymtheg oed. Cyn pen dwy flynedd, anogwyd ef gan y cyfeillion i ddechreu pregethu, a dymunent arno ddarllen penod, a dywedyd ychydig oddiwrth ryw ranau o honi, yn y cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddïo. Ni wyddai ei dad, gan nad oedd yn aelod, ddim am y peth, a rhyw noswaith wedi myned i'r cyfarfod yn yr hen lofft yn y Brithdir, beth a welai er ei syndod, ond Huwcyn (chwedl yntau,) yn codi i fyny, ac yn darllen penod ac yn esbonio ychydig arni. Tarawyd yr hen ŵr a syndod, ac a theimladau digofus, ac ni wyddai pa le yr âi, na pha beth a wnai. Plygai ei ben mewn cywilydd yn y gongl, a dywedai ei fod yn mron cnoi ei fysedd, a'i fod yn meddwl ei fod yn teimlo ei wallt yn sefyll ar ei ben, ac nad oedd yn teimlo ei ddillad am dano. Bu ar fedr llithro allan