yn ddistaw, ond aros yno fel ar ddrain hyd y diwedd a ddarfu iddo. Ond wedi cael y diwedd, allan ag ef, ac adref ar ffrwst, ac yn orlawn o ddigllonedd at y bachgen am ei ryfyg, ac erbyn cyrhaedd y tŷ, ebe efe wrth ei wraig, yr hon oedd gartref yn gwarchod, "Wel, Mari, Mari, welist ti 'riod ffasiwn beth, naddo yn fy myw—wyddwn i ddim lle 'roeddwn i—'roeddwn i bron a myn'd o nghroen." "Wel yn enw dyn, Robert bach, beth sydd yn bod ?" ebe ei wraig mewn braw, rhag fod rhyw anffawd wedi digwydd. "Beth sy'n bod yn wir? ond y bachgen Huweyn yna yn myn'd i ddarllen penod ac i 'sponio yn y cyfarfod gweddi heno—welis i 'riod ffasiwn beth—hogyn drwg fel yna yn rhyfygu myn'd wrth ben Bibl Duw;" ac erbyn hyn dyma Hugh druan i'r tŷ, heb wybod fawr beth oedd yn ei aros. Ond nid cynt yr oedd i fewn nag y dechreuodd ei dad arno mewn llais cryf ac ysbryd cyffrous—"Wel Huwcyn, yr ydw i yn dŷ roi di dan dŷ rybudd, na wnei di ddim peth fel yna etto—ti yn cymryd gair Duw i'w drin fel yna." Ond ni ddywedodd Hugh ddim, ond cilio o'r neilldu, ac ni ddywedodd ei fam ddim, a daeth y tad bob yn dipyn i gymodi a'r peth, ac i allu gwrando ei fab heb deimlo fod achos iddo guddio ei ben rhwng ei liniau.[1] Ymgododd Mr. Pugh yn fuan i boblogrwydd fel pregethwr, fel yr aeth son am dano ef trwy yr holl wlad oddiamgylch. Yr oedd cymeriad ei deulu mor barchus yn yr ardal—ei ddull yntau o bregethu mor hynod o ddengar—ei lais mor beraidd—ei ysbryd mor danbaid—a'i olwg ieuengaidd yn ychwanegol at hyny, yn ei wneyd yn nodedig o dderbyniol a phoblogaidd. Pan oedd tuag ugain oed, aeth i'r athrofa yn Ngwrecsam, ac arosodd yno flwyddyn. Teimlai yn awyddus i dreulio yr amser rheolaidd yno, ond oblegid rhyw amgylchiadau perswadiwyd ef i ddychwelyd gartref, a chymeryd gofal yr eglwysi ffurfiedig yn Rhydymain a'r Brithdir. Cydsyniodd a hyny, ac urddwyd ef yn y lle olaf a nodwyd yn Hydref, 1802. Urddwyd ef yn y Brithdir oblegid ei gysylltiad blaenorol a'r lle hwnw, er mai Rhydymain oedd yr achos hynaf. Yr oedd capel wedi ei godi yno er y flwyddyn 1788, ac agorwyd ef y flwyddyn ganlynol, o fewn wythnos i agoriad capel Penystryd. [2] Yn fuan
- ↑ Ysgrif Mr. R. Ellis, Brithdir.
- ↑ Wedi i hanes Rhydymain fyned i'r wasg, derbyniasom air oddiwrth gyfaill yn dŷwedyd fod nifer o ddynion o sir Fflint, wedi dyfod yn fwnwyr i'r gymydogaeth, tua chanol y ganrif ddiweddaf, a bod un o honynt yn aelod ac yn bregethwr perthynol i Newmarket, ac mai efe a bregethodd yno gyntaf, ac iddo ddyoddef erledigaeth dost o herwydd hyny, ac mai rhyw deiliwr yno oedd yr erlidiwr gwaethaf. Yr oedd gwraig o'r enw Ellinor Davies, yn byw ar y pryd yn Hafodwyn, ac yn aelod yn Llanuwchllyn. Nid oedd hi yn yr oedfa, oblegid fod gormod o ddwfr yn yr afon, ond yr oedd yn gallu gweled y driniaeth oedd y pregethwr yn ei gael, ac wedi marcio y teiliwr allan fel un o'r rhai ffyrnicaf yn ei erbyn. Yn fuan ar ol hyn, digwyddodd i'r teiliwr fyned i Hafod-wŷn i ofyn ychydig laeth, ac nid oedd neb ond y wraig yn y tŷ ar y pryd. Gwahoddodd ef i mewn yn garedig, ac wedi ei gael i fewn clodd y drws, a gafaelodd mewn ffon gref, a dywedodd, "Wel, yr hen was, a wyt ti yn cofio fel yr oeddit ti yn rhedeg ac yn lluchio y pregethwr? Mi dalaf i ti heddyw am hyny—mi dy wnaf di na redi di byth mwy ar ol yr un pregethwr." Dychrynodd y teiliwr trwy ei galon—canys yr oedd Ellinor Davies yn wraig rymus—ac addawodd os ca'i bardwn y tro hwnw, na wnai efe y fath beth byth mwyach. Ar yr amod hon, cafodd ddiangc y tro hwnw, heb fyned o dan ddysgyblaeth y pastwn. Nid yw ein hysbysydd yn gwybod fod yma neb arall ar y pryd yn proffesu crefydd; ac ni wnaed cynyg ar bregethu yno, hyd nes y daeth Mr. A. Tibbot i'r wlad. Yr oedd y bobl ar ei ddyfodiad cyntaf, wedi parotoi i'w erlid yntau, ond dychrynodd rhai pan welsant ei fod yn "wr cadarn nerthol," a theimlodd eraill nerth ei weinidogaeth, fel nad oedd awydd arnynt i godi llaw yn ei erbyn. Dylasem grybwyll hefyd, fod ysgoldy perthynol i Rydymain, yr hwn a elwir Soar, wedi ei godi yn agos i Ddrwsynant, a chynhelir Ysgol Sabbothol ynddo yn rheolaidd, a phregethir ynddo yn achlysurol.