wedi ei urddo cafodd yr hyfrydwch mawr o dderbyn ei dad a'i unig chwaer i'r eglwys trwy ddeheulaw cymdeithas, ac mor effeithiol oedd yr olygfa, pan y gwelwyd ef yn estyn ei law dros y bwrdd i'w dad, fel y llwyr orchfygwyd pawb yn y lle, a methodd yntau ei hun a dyweyd yr un gair ond ymollwng i gydwylo dagrau llawenydd. Pregethodd y Sabboth hwnw ar y geiriau, "Ond myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd." Ni chyfyngodd ei lafur i'r Brithdir a Rhydymain yn unig, ond ymdrechai i helaethu terfynau yr achos. Dechreuodd bregethu yn Nolgellau, a phrynodd hen.gapel i'r Methodistiaid Calfinaidd at wasanaeth yr enwad. Pregethodd yn Llanelltyd, a sefydlodd achos yno, ac ymwelai yn aml a'r Ganllwyd. Eangodd gylch ei lafur i'r Cutiau, a gwelodd yno ffrwyth i'w lafur, a byddai yn pregethu yn achlysurol yn Abermaw a'r Dyffryn, ac ymestynai ei lafur cyn belled a Llwyngwril, Llanegryn, a Thowyn. Wrth ysgrifenu at gyfaill iddo oedd yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Ngwrecsam, dywed, "Yr wyf yn wastad yn bur llawn o waith, ac yr wyf yn gobeithio y byddaf felly tra y byddaf yn y byd, oblegid digonedd o waith yw fy nghysur penaf. Yr ydwyf yn pregethu dair gwaith bob Sabboth, a thair neu bedair gwaith yr wythnos heblaw hyny, mewn gwahanol fanau. Wrth hyn, chwi a welwch nad oes genyf ond ychydig o amser er difyrwch. Yr wyf yn cael hyfrydwch mawr wrth fyfyrio, ac yn gyffredin yn cael fy nghynorthwyo i bregethu yn gyhoeddus, gyda boddlonrwydd i fy meddwl fy hun, ac mor belled ag yr wyf yn deall i'r bobl, er i mi weled amser pan yr oedd mwy o arwyddion fod y gwirionedd yn effeithio er eu hiechydwriaeth."[1] Mae pob peth sydd wedi eu mynegi i ni am dano yn dangos yn eglur ei fod wedi ei gynysgaeddu a galluoedd dealldwriaethol, a chymwysderau gweinidogaethol pell uwchlaw y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Er fod ei edrychiad yn wylaidd, etto yr oedd gwroldeb neillduol ynddo. Yr oedd uwchlaw ofn dyn yn y pethau a dybiai yn rhwymedigaethau arno i Dduw. Ni phetrusai fynegi eu diffygion i ddynion yn eu gwynebau pan y credai eu bod i'w beio, ond gwnai hyny gyda'r fath dynerwch, fel yr argyhoeddid pawb mai am ei fod yn eu caru yr oedd yn eu ceryddu. Ond pan yn nghanol ei boblogrwydd a'i lwyddiant, a phawb yn meddwl nad oedd ond dechreu ymagor i oes o ddefnyddioldeb, nodwyd ef gan angau i ollwng ei saeth arno. Yr oedd yr haf diweddaf y bu byw wedi bod yn dymor o lafur neillduol iddo. Bu yn Llundain am rai wythnosau, a dychwelodd tua chanol mis Awst. Yr oedd yn Nhreffynon yn y gymanfa yn mis Medi yn pregethu gyda'i fywiogrwydd arferol. Yn mhen pythefnos wedi hyny, yr oedd yn Liverpool yn y cyfarfod blynyddol, yr hwn a gynhelid y pryd hwnw yn mis Hydref, ac ar ddydd Iau y 18fed dychwelodd adref. Bu mewn cyfeillach yn y Brithdir nos Wener, a chanai yn beraidd gyda'i frodyr. Nos Sadwrn ymddangosai yn fwy pruddaidd nag arferol, a dywedai wrth ei wraig, fod rhyw argraff ar ei feddwl na byddai yn hir gyda hwy, ac mai ei unig bryder oedd wrth feddwl ei gadael hi a'r plant yn amddifaid. Pregethodd y Sabboth yn Rhydymain, a dychwelodd adref fel arferol. Ond dechreuodd gwyno ddydd Mawrth, ac ni allai godi o'r gwely, yr oedd wedi meddwl pregethu ddydd Mercher, oblegid yr oedd Jubili teyrnasiad Sior III. am haner can' mlynedd, ond nis gallasai godi o'i wely, ac erbyn dydd Iau, gwelwyd ei fod dan y clefyd coch (scarlet fever), a chyn dydd boreu Sadwrn, yr oedd ei
- ↑ Dysgedydd, 1824. Tu dal. 357.