Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/488

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbryd wedi ei ollwng o'r corph a ddirdynwyd gan y clefyd, i'r wlad lle "na ddywed y preswylwyr claf ydwyf." Dydd Mawrth canlynol, dygwyd. ei gorph i'w gladdu mewn bedd newydd yn mynwent Dolgellau, gan dyrfa fawr o alarwyr dwys, y rhai a deimlant fod cymylau a thywyllwch o amgylch yr oruchwyliaeth ddygodd "Pugh o'r Brithdir" i'w fedd, cyn ei fod yn llawn ddeng-mlwydd-ar-hugain oed.

DOLGELLAU.

Yr oedd Dolgellau yn un o'r gorsafoedd yn y rhai y pregethai yr enwog Hugh Owen, o Fronyclydwr, yn ei ymweliadau tri-misol, ac ymddengys fod ganddo yma gynnulleidfa fechan wedi ei chasglu, ac adnabyddid y lle y cyfarfyddent, fel y "Ty cyfarfod." Pa beth a ddaeth o'r "ychydig enwau" ar ol marwolaeth Mr. Owen, nis gallasem wybod, er gwneyd pob ymchwil, ond y mae yn eglur i'r Annibynwyr roddi i fyny bregethu yn y dref am gan' mlynedd. Pregethid llawer gan eu gweinidogion yn amgylchoedd y dref, a dichon i ambell un yn achlysurol bregethu yn y dref; ond ni wnaed un cynyg i ail gychwyn yr achos yma, hyd nes yr ymsefydlodd Mr. Hugh Pugh yn weinidog yn y Brithdir. Yr oedd y gwr ieuangc llafurus hwn mor llawn o ysbryd ei waith, fel y torai allan ar y ddeheu ar aswy i bregethu yr efengyl. Dechreuodd bregethu a chadw cymundeb yn Llanelltyd, cyn dechreu yn Nolgellau, ac elai amryw o'r dref yno i wrando, a derbyniwyd rhai o honynt yn aelodau; ond wedi corpholi yr eglwys yn y dref, a chael capel cyfleus, deuai yr aelodau o Lanelltyd i Ddolgellau i gymundeb, ac ystyrient eu hunain yn rhan o'r eglwys yma. Dechreuodd Mr. Pugh bregethu yn Mhen-bryn-glas, Dolgellau, a chyn hir "derbyniwyd yn y Brithdir o gymydogaeth Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evans, Talywaun, a'i wraig; Evan Dafydd, Gellidwylan, a'i wraig; Ann Jones, Pantypiod; William Vincent, Morris Dafydd (Meurig Ebrill), Evan Owen, Gyllestra; Catherine Thomas, Dolrisglog; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig; Morris Evan, o'r Gilfachwydd; Elizabeth Ellis, John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh, addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo am 500p., a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid, hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymwys iddynt i addoli ynddo. Unwaith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull Ysgrythyrol o ymarfer yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dybenion sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion, ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.[1]" Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf a dderbyniwyd o'r newydd gan Mr. Pugh yn Nolgellau. Tynodd doniau ennillgar ac ysbryd gwrol Mr. Pugh sylw y dref, a deuai cynnulleidfa dda i'w wrando, a daeth amryw o'r gwrandawyr i geisio yr Arglwydd gyda'i bobl. Ymroddodd Mr. Pugh i dalu y ddyled oedd yn faich trwm ar ysgwyddau gweiniad. Bu yn Llundain yn

  1. Cofiant Mr. Cadwaladr Jones. Tu dal. 11 a 12.