Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/489

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

casglu, ond ni bu mor lwyddianus ag y disgwyliai. Ychydig uwchlaw 60p. a gasglodd. Ond yn nghanol ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb, tara- wyd ef yn glaf gan y clefyd coch, a bu farw ar fyr rybudd, Hydref 28ain, 1809, er mawr alar i'r eglwysi bychain oedd dan ei ofal a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.

Yr oedd sefyllfa yr achos yma ar y pryd, y fath fel y teimlid fod angen gweinidog yn ddioed. Yr oedd y wlad eang o Ddrwsynant i'r Abermaw, ac o Fwlchyroerddrws i'r Ganllwyd, darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd, a deuddeg o led, heb neb i gymeryd gofal y praidd bychain oedd yn wasgaredig ar hyd-ddo. Heblaw hyny, yr oedd yr holl gapeli trwy y cylch, ond Rhydymain, dan faich trwm o ddyled. Yr oedd 230p. ar gapel y Brithdir a'r ty newydd a adeiladwyd wrtho i Mr. Pugh, a'i briod. Yr oedd 20p. ar Lanelltyd; 160p. yn aros ar gapel y Cutiau, ac yn agos i 500p. ar gapel Dolgellau. Cawsant gydymdeimlad a chynorthwy effeithiol gan amryw weinidogion. Aeth Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, i'r Deheudir, a chasglodd dros 100p. Casglodd Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, 20p. yn yr Amwythig, ac aeth Mr. W. Williams, Wern, i amryw leoedd yn y Gogledd, a chasglodd 40p., a bu yr help amserol yma yn ymwared mawr i'r achos.[1] Ond er yr holl gynorthwy a roddid iddynt, teimlai yr eglwysi amddifadrwydd mawr o eisiau gweinidog, ond teimlant ar yr un pryd, mai nid gorchwyl hawdd oedd cael olynydd teilwng o Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i Mr. David Morgan, Talybont, (Machynlleth, wedi hyny); ond gogwyddai eraill yn ffafr rhoddi galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr ar y pryd, yn athrofa Gwrecsam. Daeth yr eglwysi i benderfyniad i roddi y ddau ger bron, ac i'r lleiafrif roddi i fyny i'r mwyafrif. Dywedir mai etholiad tỳn a fu, ac mai un yn ychwaneg gafwyd dros Mr. Jones, na thros Mr. Morgan, ac mai un rheswm mawr dros Mr. Jones ydoedd, fod ei lais yn debyg iawn i eiddo Mr. Pugh. Ni bu un gronyn o ddrwgdeimlad rhwng Mr. Morgan a Mr. Jones, o herwydd yr amgylchiad, ac yr oedd y rhai a bleidiasant dros Mr. Morgan pan welsant eu bod wedi colli, mor selog a neb dros Mr. Jones. Derbyniodd yr alwad cyn diwedd haf 1810, ond cafodd gan yr eglwysi foddloni iddo aros yn yr athrofa hyd ddiwedd y flwyddyn hono. Brithdir oedd eisteddle y weinidogaeth yn nyddiau Mr. Pugh, ond ar sefydliad Mr. Jones, symudwyd eisteddle y weinidogaeth i Ddolgellau. Yma yn awr yr oedd yr eglwys luosocaf, er nad oedd ond pedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o rifedi, a hyny yn cynwys yr aelodau a ddeuai o Lanelltyd, Ganllwyd, ac Islaw'rdre. Nid oedd ond pedwar-ar-ddeg-ar-hugain yn y Brithdir; tri-ar-hugain yn Rhydymain, a dau-ar-bymtheg yn y Cutiau, yn gwneyd cyfanswm aelodau yr esgobaeth ar ddyfodiad Mr. Jones yma yn nechreu y flwyddyn 1811, yn gant-a-thri-ar-ddeg. Urddwyd ef yma Medi 23ain, 1811, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri G. Lewis, Llanuwchllyn; B. Jones, Pwllheli; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffith, Machynlleth; W. Hughes, Dinas; W. Jones, Trawsfynydd; J. Lewis, Bala; D. Roberts, Llanfyllin; J. Davies, Aberhafesp; W. Williams, Wern, a J. Powell, Rhosymeirch. Yr oedd Mr. Jones pan urddwyd ef, yn ddyn ieuangc hoyw, gwisgi, wyth-ar-hugain oed, ac er ei fod yn araf a phwyllog, yr oedd yn llawn o ysbryd ei waith. Cynyddodd yr achos yn y dref yn fawr trwy ei lafur, a gwnaed llawer o adgyweiriadau ar y capel, a thalwyd rhan fawr o'r ddyled oedd

  1. Ysgrif y diweddar Mr. Cadwaladr Jones.