Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwanaf eu galluoedd; ac yn un y mae preswylwyr mynyddoedd Cymru yn bendithio daioni yr Hollalluog am ei lafur diail o lwyddianus. Efe a anfonodd luaws i'r nefoedd, lle, yn ddiamheu genyf, y mae efe ei hun yn awr, allan o gyrhaedd cabledd a gwaradwydd."

THOMAS BARNES. Nid oes genym ddim i ychwanegu am y gwr da hwn at yr hyn a gynnwysa yr hanes blaenorol, amgen nag iddo tua y flwyddyn 1669 gael ei orfodi i symud am ryw gymaint o amser i Gaerodor. Pan dawelodd yr ystorm ychydig, dychwelodd yn ol i Fynwy, lle y bu farw, fel y nodasom, yn 1703.

DAVID WILLIAMS. Mae ein holl ymchwiliadau i hanes Mr. Williams hyd yn hyn wedi profi yn gwbl ofer. Yr oll a wyddom am dano ydyw, iddo gael ei urddo tua y flwyddyn 1710, ac iddo farw yn 1754, ac felly iddo fod bedair a deugain o flynyddau yn weinidog ar eglwys Llanfaches. Os byddwn mor ffodus a dyfod o hyd i ychwaneg o wybodaeth yn ei gylch, ni a'i rhoddwn yn hanes Heolyfelin, Casnewydd. Yno hefyd y rhoddwn gymaint o hanes ag sydd genym am Roger Rogers, Thomas Saunders, a Howell Powell.

WILLIAM GEORGE, oedd yn enedigol o blwyf Llansoi, Mynwy; mae yn ymddangos iddo fod am ryw faint o amser yn Llanfaches yn gydweinidog â Howell Powell, ac wedi hyny â Walter Thomas. Symudodd i Ross, yn sir Henffordd, yn 1799, a bu yno ddwy flynedd. Nis gwyddom ddim yn ychwaneg o'i hanes.

WALTER THOMAS ydoedd, fel y nodasom eisoes, yn aelod gwreiddiol o'r Groeswen, ac yn y gymydogaeth hono y bu yn eyfaneddu trwy ei oes. Yr oedd yn weinidog yn Llanfaches yn 1798. Nis gwyddom pa un ai yno ai yn rhyw le arall yr urddwyd ef. Er fod llawer o hen bobl yn fyw sydd yn ei gofio yn dda, mae yn hynod cyn lleied o'i hanes a ellir gael ganddynt. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y Tabernacl yn Llanfaches. Ei enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr yn ngweithred y capel, yr hon a lawnodwyd ar y 19eg o Dachwedd, 1802. Mae yn ymddangos iddo roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny yn fuan ar ol 1807. Wedi ymadael a Llanfaches cymerodd ofal yr eglwys fechan yn Llangynwyd, Morganwg, a bu yn teithio tuag yno o ardal y Groeswen am rai blynyddau. Bu farw tua 1816 neu 1817, a chladdwyd ef yn mynwent y Groeswen. Dywedir ei fod yn weddiwr nodedig o effeithiol, ac yn ganwr doniol yn ol yr hen ddull o ganu, ond ni chyfrifid ef ond pregethwr lled gyffredin. Perchid ef gan bawb ar gyfrif ei dduwioldeb a'i lafur diatal gyda yr achos goreu.

JAMES WILLIAMS a aned yn Nhalgarth, yn y flwyddyn 1777. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ddeuddeg mlwydd oed, a dechreuodd bregethu yn lled ieuangc. Nis gwyddom pa faint o fanteision dysg a gafodd na pha le yr addysgwyd ef. Cafodd ei urddo yn Llanfaches yn gyd-weinidog â Mr. Walter Thomas, Mawrth 12, 1807. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, traddodwyd y gynaraeth a derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover, gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. D. Davies, Llangattwg; pregethwyd yn ddifrifol i'r gweinidog gan Mr. G. Hughes, Groeswen; ac i'r eglwys gan Mr. W. Harris, Abergavenny. Bu Mr. Williams, yn gwasanaethu yr eglwys yn Llanfaches mewn cysylltiad âg achos bychan yn Nghaerlleon-ar-wysg hyd y flwyddyn 1817, pryd y cyfyngodd ei wasanaeth i Gaerlleon. Ar ol bod yno am rai blynyddau symudodd i Forest Green, yn sir Gaerloew, lle y bu am chwe' mlynedd. Symudodd oddiyno i Newport, yn yr un sir, ac