arno. Bu Mr. Jones yn y De a'r Gogledd yn casglu, ac yn Liverpool, a'r Amwythig, a Llundain. Casglodd yn Llundain yn unig 132p. 4s. 2c. Yn mhen blynyddoedd gwelwyd yn angenrheidiol adnewyddu a helaethu y capel, ac aeth y draul yn nglyn a hyny yn 448p. Daeth yr achos yma yn gryf a dylanwadol—Ysgol Sabbothol luosog a gweithgar, ac yr oedd nifer o ddynion yn yr eglwys, oeddynt yn nodedig ar gyfrif eu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol. Graddol oedd ei chynydd, ond yr oedd yn sicr; ac am y rhai a ychwanegid at yr eglwys, yr oeddynt yn gyffredin yn gyfryw ag a allent roddi rheswm am y gobaith oedd ganddynt. Cafodd Mr. Jones oes hir i'w dysgu, ac yr oedd yn meddu cymhwysderau arbenig i ddysgu y rhai oedd dan ei ofal yn mhyngciau athrawiaethol yr efengyl, yn gystal ag yn egwyddorion, trefn, a llywodraeth eglwysig. Cyfrifid yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones, yn un o'r rhai mwyaf goleuedig a deallgar, ac yr oedd yn nodedig am ei heddychlonrwydd.
Wedi llafurio yn ddyfal yn y weinidogaeth am chwe'-blynedd-a-deugain, dechreuodd deimlo fod cymdeithion henaint gydag ef, a meddyliodd y buasai cystal iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, fel y gallai yr eglwys yn y dref gael rhyw un ieuengach i fwrw golwg trosti. Yn nechreu y flwyddyn 1858, cydunodd ef a'r eglwys i roddi galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu; ac urddwyd ef Gorphenaf 21ain a'r 22ain, o'r flwyddyn hono. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri J. Williams, Castellnewydd; J. M. Davies, Maescwmwr; J. Jones, Machynlleth; W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llundain; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees, Liverpool. Rhoddodd hen weinidog adroddiad effeithiol o'i adolygiad ar saith-mlynedd-a-deugain o weinidogaeth yn y lle, ac ymddiosgai o'i ofalon gyda'r dymuniadau goreu i'w olynydd. Bu Mr. Davies yn weithgar a defnyddiol am y tymor byr y bu yma. Bendithiwyd yr eglwys ag adfywiad grymus, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys, yn enwedig o bobl ieuaingc. Nid arosodd Mr. Davies yma ond ychydig gyda phedair blynedd, canys symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Saesonaeg yn Painswick, swydd Gaerloyw. Bu yr eglwys yma dros rai blynyddau heb weinidog, ond daliai yr achos ei dir er pob peth, a daethpwyd i benderfyniad i adeiladu capel newydd mewn man mwy cyfleus o'r dref, a chodwyd capel rhagorol, yr hwn yn nghyd a'r tir ar yr hwn y saif, a gostiodd 2800p. Agorwyd ef Mehefin 4ydd a'r 5ed, 1868. Derbyniodd Mr. Evan A. Jones, Llangadog, alwad gan yr eglwys yma yn Ionawr, 1868, ond oblegid cystudd ag angau yn ei deulu, bu am naw mis heb ei hateb yn gadarnhaol, ond o'r diwedd cydsyniodd a'r gwahoddiad, a symudodd yma yn Ionawr, 1869, ac y mae er ei sefydliad yn hapus a defnyddiol yma. Mae dyled y capel newydd trwy haelioni y cyfeillion yn y lle, a'r swm a gafwyd am yr hen gapel, wedi ei dynu i lawr i 700p., ac yn ol fel yr ymddengys pethau yn awr, nid â y pedair blynedd nesaf heibio heb weled y ddyled oll wedi ei thalu. Mae yr achos yma ar y cyfan mewn gwedd iachusol, a holl gylchoedd cyhoeddus crefydd, o leiaf, yn cael eu llenwi yn lled ddifwlch. Cafwyd yma dipyn o drafferth yn nglyn a gwerthiad yr hen gapel, oblegid fod yr hen weithred yn gwahardd ei werthu i un pwrpas, ond i fod yn gapel i'r Annibynwyr, a'r rhai hyny yn fedyddwyr babanod. Nid yn unig gofynai fod yr arian a geid am dano i fyned i'r un amcan ag oedd gan y rhai a'u hadeiladodd, yr hyn a gyfrifa llawer yn deg a rhesymol; ond nid oedd yn ol y weithred i gael ei werthu i ddim ond i fod yn gapel, nac yn gapel i neb ond yr Annibynwyr. Trwy