sylw, pa un bynag a'i mewn gair, acen, neu bwyslais y byddai. "Yr oedd ei fryd yn fawr i gael cyhoeddiad bychan at wasanaeth yr Ysgol Sul yn arbenig. Gwnaeth unwaith weithred yn cyflwyno 800p. i ddiaconiaid yr eglwys Annibynol yn Nolgellau fel ymddiriedolwyr, er dwyn allan gyhoeddiad o'r natur yma, a chyhoeddi llyfrau eraill perthynol i'r Ysgol Sul. Teimlai braidd yn chwerw tuag atynt, yn enwedig tuag at un person, cisiau na buasai y peth yn cael ei ddwyn oddiamgylch, a chyhoeddiad yn cael ei gychwyn. Yr esboniad tecaf ag y gallwn ei roi ar yr achos na chychwynwyd cyhoeddiad oedd hyn:—ni ddarfu iddo ef drosglwyddo yr arian drosodd i'w dwylaw fel ymddiriedolwyr. Yn awr, yr oedd ef yn disgwyl iddynt hwy gychwyn cyhoeddiad, a hwythau yn disgwyl iddo yntau gychwyn trwy roi yr arian yn eu gallu hwy, a thrwy fod y naill yn disgwyl wrth y llall, aeth y ddwy flynedd o amser oedd wedi ei roi er cychwyn yr anturiaeth heibio, ac aeth y cytundeb yn ofer. Ffurf arall ar yr un bwriad, oedd yr arian a roddwyd ganddo er cychwyn yr Annibynwr. Rhoddwyd ganddo 500p. at yr amcan hwnw, ar yr amod fod yr Ysgol Sul yn cael rhan o'r cyhoeddiad yn wastadol at ei gwasanaeth. Rhoddwyd 500p. at y dyben hyny, a hen wasg, yr hon a gyfrifai efe yn werth 60p., yr ydym yn meddwl. Mae 400p. o'r arian hyny ar dir, ac y mae eu llog at wasanaeth y Dysgedydd a'r Annibynwr, fel y maent yn awr yn unedig, ac y mae yr elw oddiwrth y cyhoeddiad i gael ei gyflwyno i gynnorthwyo hen weinidogion a phregethwyr analluog. Collwyd y lleill yn ngwahanol reverses anturiaeth yr Annibynwr."[1] Yr oedd ei holl galon o blaid llwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a'r cwbl a ddymunai fod ar gareg i fedd ydoedd: "Yma claddwyd Thomas Davies, Dolgellau, awdwr Hyfforddwr ymarferol yr Ysgol Sul;" a gwnaethpwyd yn ol ei gais. Rhoddodd symiau helaeth rai troion at y Gymdeithas Genhadol, a thystiai y rhai a'i hadwaenent oreu, fod llwyddiant teyrnas y Gwaredwr yn agos at ei galon. Bu farw yn Gorphenaf, 1865, yn 88 mlwydd oed, ac er na bu iddo na gwraig na phlentyn, etto disgyna ei enw yn barchus i'r oesau a ddel fel apostol yr Ysgol Sabbothol.
Evan Thomas. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano ef yn nglyn a hanes Machynlleth, lle yr ydoedd pan y bu farw.
Rowland Hughes. Mae efe yn aros yn bregethwr parchus a defnyddiol yn yr eglwys yn Nolgellau.
William Meirion Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Blaenycoed, sir Gaerfyrddin, lle y mae yn aros etto.
Isaac Jones. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r olaf a enwyd. Yr oedd yn wr ieuangc talentog, a phe cawsai fyw yr oedd yn debyg o wneyd gweinidog defnyddiol. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a gwywodd fel blodeuyn cyn cyflawn ymagor. Yr oedd yn fab i Evan Jones, un o aelod—au hynaf yr eglwys, ac yn frawd i Ieuan Ionawr.
Evan Edmunds. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Dwygyfylchi, ac y mae yno etto.
Robert P. Jones. Derbyniodd ei addysg yn Manchester, ac urddwyd ef yn Llanegryn, lle y mae hyd yn bresenol.
Lewis Humphreys. Bu yn athrofa y Bala. Urddwyd ef i fyned allan i'r Wladychfa Gymreig yn Patagonia. Dychwelodd oddiyno, ac y mae yn awr yn weinidog yn Cwmtwrch, Morganwg.
- ↑ Cofiant Mr. T. Davies, gan Mr. E. Williams, Dinas. Dysgedydd, 1870. Tu dal. 10.