Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/493

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Griffith. Er mai nid yma y dechreuodd bregethu, etto, gan mai yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel pregethwr, yma y mae yn briodol i ni wneyd crybwylliad am dano. Ganwyd ef yn y Mynhadogisaf, Dolddelen, ac yr oedd ei rieni William a Lowry Griffith, yn mysg yr Annibynwyr hynaf yn y plwyf hwnw. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc. Aeth i Lanrwst i ddysgu argraffu, ac yno y dechreuodd bregethu. Symudodd i Ddolgellau yn nechreu y flwyddyn 1843, a bu yma hyd ei farwolaeth yn Hydref, 1864. Claddwyd ef yn mynwent Tabor. Pregethwr cynnorthwyol yn ngwir ystyr y gair ydoedd, ac ennillodd trwy ei ffyddlondeb barch a chydymdeimlad. Dyoddefodd gystudd hir, ac yr oedd ei amgylchiadau yn ddigon cyfyng, ond cafodd Dduw a dynion yn dirion iddo, a bu farw mewn tangnefedd.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

Pedwar gweinidog fu i'r eglwys hon er cychwyniad yr achos. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at Mr. Pugh, yn nglyn a'r Brithdir, ac y mae Dr. Davies, a Mr. Jones, y gweinidog presenol, etto yn aros, a hyderwn fod dyddiau lawer o ddefnyddioldeb mawr yn ol iddynt ill dau. Nid oes genym gan hyny ond un gweinidog i wneyd cofnodiad o hono yn nglyn a'r eglwys hon.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd
ar Wicipedia

CADWALADR JONES. Ganwyd ef yn Deildreuchaf, plwyf Llanuwchllyn, yn mis Mai, 1783. Yr oedd ei rieni John a Dorothy Cadwaladr, er nad yn proffesu crefydd, yn bobl barchus a chyfrifol yn eu hardal, ac ni bu iddynt un plentyn ond y bachgen hwn. Nis gwyddom pa fodd y gogwyddodd ei feddwl i ymofyn am grefydd, ond gwyddom i Cadwaladr Jones gael ei dderbyn yn aelod o'r eglwys yn yr Hen Gapel gan Dr. Lewis, yn mis Mai, 1803, pan yn ugain mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn Gorphenaf, 1806, wedi bod yn aelod am fwy na thair blynedd. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam yn mis Tachwedd y flwyddyn hono, a threuliodd yno y rhan fwyaf o'r pedair blynedd dilynol. Nid oedd yno gyda'r un cysondeb a'r myfyrwyr yn gyffredinol, oblegid ar ei draul ei hun yr oedd, a byddai yn gorfod aros adref y rhan fwyaf o bob haf i gynorthwyo ei dad ar y tyddyn. Yn y flwyddyn 1810, derbyniodd alwad i fod yn olynydd i Mr. Pugh o'r Brithdir, yn ei faes eang, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, Mai 23ain, 1811. Traddodwyd siars bwysig iddo gan ei weinidog, Dr. Lewis; a chafodd Mr. Jones oes hir i gyflawni ei weinidogaeth. Llafuriodd trwy yr holl gylch am saith mlynedd, hyd y flwyddyn 1818, y rhoddodd i fyny ofal y Cutiau a Llanelltyd. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1839, barnodd yn briodol roddi i fyny ofal y Brithdir a Rhydymain. Yn mhen pedair-blynedd-ar-bymtheg drachefn, yn 1858, ymddeolodd o bwys gofal gweinidogaethol yr eglwysi yn Nolgellau ac Islaw'rdre, wedi saith-mlynedd-a-deugain o lafur dibaid yn eu mysg, ond parhaodd am yn agos ddeng mlynedd yn hwy i gydlafurio a'i hen gyfaill Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn Llanelltyd, ac a'i gyfaill hoff Mr. R. Ellis, Brithdir, yn Tabor, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei lafur, ac y gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 oed, wedi bod 56 mlynedd yn y weinidogaeth, ac wedi pregethu yr efengyl am 62 mlynedd, ac am 65 mlynedd yn aelod yn