eglwys Dduw. Mae yn rhaid ddarfod i'r fath un, a gafodd y fath oes hir, adael dylanwad annileadwy ar yr holl gylch yn yr hwn y llafuriai. Mae cofiant helaeth iddo wedi ei gyhoeddi gan Mr. R. Thomas, Bangor, gyda chynorthwy nifer o'i frodyr yn y weinidogaeth, yn yr hwn y mae y tegwch mwyaf wedi ei wneyd a'i gymeriad. Nis gallwn ni yma ond prin gyfeirio at y llinellau amlycaf yn ei nodwedd fel dyn cyhoeddus, a chyfeirio ein darllenwyr a fyno weled YR HEN OLYGYDD yn ei holl neillduolion at y cofiant rhagorol hwnw, o'r hwn yr ydym yn gwneyd rhai difyniadau.
Yr oedd arafwch Mr. Jones "yn hysbys i bob dyn." Hynodid ef gan "ysbryd, nerth, a chariad, a phwyll." Os digwyddai fod camddealldwriaeth rhwng rhai o'r aelodau, neu achos dysgyblaeth yn yr eglwys, cymerai y fath bwyll gyda'r gorchwyl, fel yr oedd yn ddigon eglur ei fod yn penderfynu ei gwblhau cyn ei roddi i fyny. Bugail tyner a gofalus ydoedd wrth ymgeleddu y briwiedig o ysbryd a'r drylliedig o galon, ond mewn achosion a fyddai yn galw am farn, eisteddai fel barnwr hunanfeddianol gan bwyso y tystiolaethau a ddygid ger ei fron, ac nid oedd na chydnabyddiaeth na chyfeillgarwch a barai iddo gilio oddiwrth yr hyn a ymddangosai iddo yn deg a chyfiawn. Athraw doeth yn nghanol ei ddysgyblion ydoedd yn mysg pobl ei ofal. Dysgai iddynt "ffordd Duw" gyda manylwch, a thuag at y rhai oeddynt yn hwyrfrydig i ddysgu, yr oedd yn addfwyn fel mamaeth yn meithrin ei phlant. Fel duwinydd, yr oedd yn meddu golygiadau cyson a chlir ar drefn yr efengyl. Nid oedd cylch ei ddarlleniad yn eang, ond am yr hyn a ddarllenai, darllenai hwy yn drwyadl, a mynai ddeall yr hyn a ddarllenai. "Yr oedd yn bwyllog i gael gafael ar y gwirionedd; yr oedd llygaid ei feddwl yn graff a threiddlym i wahaniaethu y gwir oddiwrth y gau; yr oedd egwyddorion sylfaenol duwinyddiaeth wedi cael eu hastudio ganddo yn fanwl a thrwyadl, a chanfyddai gyda chywirdeb mawr, pa syniadau oeddynt mewn cysondeb a'r egwyddorion gwreiddiol hyny; ac o'r ochr arall, pa syniadau oeddynt mewn gwrthdarawiad iddynt, ac yn milwrio yn eu herbyn." Yn y tymor hir y bu yn eistedd wrth lyw y Dysgedydd, cafodd lawer cyfle i ddangos mor addfed oedd ei feddwl ar byngciau duwinyddol. "Y 'system newydd' fel ei gelwid oedd yn peri cyffro mawr yn mlynyddoedd cyntaf ei olygiaeth. Un o'r rhai blaenaf yn mysg dadleuwyr y dyddiau hyny oedd yr hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, a hen ddadleuwr teg a boneddigaidd iawn ydoedd. Tyn a phenderfynol dros ei bwngc, mae yn wir, ond yr oedd yn hawdd gweled mai ymofynydd gonest am y gwirionedd ydoedd. Ei ddadl ef a D. S. Davies, Llundain, ac eraill, yn erbyn Sion y Wesley oedd un o'r rhai cyntaf yn y Dysgedydd. Rhoddodd y Golygydd bob tegwch iddynt. Nid oedd byth ddim brys arno i gau y dadleuon i fyny, a gallesid bod bur sicr os soniai y Golygydd am dynu pen ar unrhyw ddadl, fod corff y darllenwyr wedi llwyr flino arni. Yn rhifyn Mai, 1825, y mae yn cloi y ddadl hono i fyny, ac y mae yn gwneyd hyny gyda'r pwyll a'r craffder oedd mor briodol iddo. Dywed yn bur ddigynwrf Nid ydym yn deall fod y ddadl wedi parhau cyhyd oblegid cyfatebolrwydd ymddangosiadol yn synwyr, dysg, a rhesymau y dadleuwyr, ond oblegid gorhoffedd Sion yn, a'i sel dros y gwaith o wrthwynebu ei wrthwynebwyr goreu ag y medrai, pan na fyddai ganddo ond ychydig iawn o feddyliau newyddion.' Mor ddidwrw onide, y mae yn ei droi o'r neilldu. Yna y mae yn myned yn mlaen i sylwi ar bwyntiau y ddadl. Bu yr un ddadl ger bron mewn gwahanol ffurfiau lawer gwaith ar ol hyny; ac ymddengys i ni bob amser