Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/496

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ionedd sydd yn ol duwioldeb. Ymosodid arnynt gan yr Arminiaid ar y naill law, a chan yr uchel-Galfiniaid ar y llaw arall; ac nid oedd ganddynt yr un cyhoeddiad i'w gylchdaenu yn mysg pobl eu gofal trwy yr hwn y gallasent amddiffyn yr hyn a gredid ganddynt fel gwirionedd, yn gystal a throi yn ol gamgyhuddiadau eu gwrthwynebwyr. Cydymroddodd deuddeg o weinidogion i gychwyn cyhoeddiad misol, pris chwe'cheiniog yn y mis, dan yr enw Dysgedydd Crefyddol, a chytunasant i fod yn gydgyfrifol am ba golled arianol bynag a allasai fod yn nglyn a'i ddygiad allan, a dewiswyd Mr. Jones, Dolgellau i fod yn Olygydd, ac yn sicr efe o honynt oll, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, oedd y cymhwysaf i'w osod ar hyn o orchwyl. Daeth y rhifyn cyntaf allan yn mis Tachwedd, 1821; a bu Mr. Jones wrth lyw yr hen gyhoeddiad clodwiw am un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain. Nid yn aml y disgyn i ran un dyn i eistedd yn y gadair olygyddol am dymor mor hir. Rhaid fod cymhwysder neillduol yn yr "Hen Olygydd" i'r swydd, cyn y gallasai barhau ynddi cyhyd, a rhoddi ar y cyfan foddlonrwydd cyffredinol. Pe gofynid i ni grynhoi elfenau ei gymeriad fel Golygydd, fel y gellir eu casglu oddiar dudalenau y Dysgedydd yn ystod tymor maith ei olygyddiaeth, dywedem mai synwyr cyffredin cryf, arafwch, pwyll, ac ysbryd barn, anmhleidgarwch ac annibyniaeth meddwl, ac eglurdeb a symledd fel ysgrifenydd.

Ond dirwynodd oes hir Mr. Jones i ben. Nid oedd un afiechyd neillduol arno, ond fod natur yn graddol ymollwng, fel derwen yn gwywo, am na all mwy dderbyn nodd i fod yn iraidd. Bu farw yn union fel y bu byw, mewn hunanfeddiant tawel, a'i galon yn glymedig â'r pethau y cysegrodd ei fywyd iddynt, a'i ymddiried yn ei Dduw yn dal fel y graig yn ddiysgog er grym y llif. Diwrnod a hir gofir yn Nolgellau yw dydd Mercher, Rhagfyr 11eg, 1867, pan ddygwyd yr Hen Olygydd mewn elorgerbyd o Gefnmaelan, i'w roddi i orwedd yn mynwent y Brithdir. Dilynid et gan luaws mawr o gerbydau a gwyr meirch—yr oedd haner cant o bregethwyr o wahanol enwadau yn bresenol i amlygu eu parch i'w goffadwriaeth—gallesid tybied wrth fyned trwy Ddolgellau mai y Sabboth ydoedd, am fod pob siop wedi cau i fyny, a gwelid blinds gwynion galarus ar ffenestri y tai yr elid heibio iddynt—cyfrifid fod y dorf alarus yn fil o rifedi wrth fyned trwy y dref, a chyn cyrhaedd ei le beddrod, yr oedd wedi chwyddo yn fwy na phymtheg cant, ac yn nghanol y dagrau a dywalltid, rhoddwyd ef gan ei bum' mab i lawr i orwedd yn ei fedd newydd—a chefnai y dorf fawr ar ei weddillion marwol gan sibrwd yn ddistaw, fod y tirionaf a'r hawddgaraf o ddynion, wedi ei adael yn "nhŷ ei hir gartref." Heddwch i'w weddillion cysegredig! "Nac ymyred neb a'i esgyrn ef," hyd nes yr aflonyddir hwy gan "floedd a llef yr archangel," ac y daw i fyny i fwynhau y "gobaith gwynfydedig" yn yr "adgyfodiad gwell."

ISLAW'RDREF.

Mae y lle yma wrth droed Cadair Idris, o fewn pedair milldir i Ddolgellau, ar yr hen ffordd sydd yn arwain i'r Towyn. Dechreuwyd pregethu yma mewn hen felin, gan Mr. H. Pugh, Brithdir, rywbryd cyn y flwyddyn 1804; a choffeir hefyd am Mr. Pugh yn pregethu yn Tŷ'nyceunant.