Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/497

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Symudwyd o'r felin i le a elwir y King's, ac yno y bu Mr. C. Jones ac eraill yn pregethu am flynyddau, hyd y flwyddyn 1821, pan y symudwyd i'r lle y maent ynddo yn bresenol. Yr oedd yr ychydig aelodau oedd yma yn arfer myned i Ddolgellau i gymundeb, oddigerth ambell gymundeb achlysurol a gedwid yma er cyfleustra i'r rhai ni allent fyned i'r dref.

Yn y flwyddyn 1831, ffurfiwyd yr ychydig aelodau oedd yma yn eglwys, ac er hyny y mae holl ordinhadau crefydd yn cael eu cynal yma yn rheolaidd. Ad-drefnwyd a helaethwyd y capel yn 1836, ac agorwyd ef Hydref 28ain a'r 29ain, y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Meistri H. Pugh, Llandrillo; H. Lloyd, Towyn; E. Davies, Trawsfynydd; D. Morgan, Machynlleth; J. Williams, Dinasmawddwy; S. Roberts, Llanbrynmair; E. Griffith, Llanegryn, ac E. Evans, Abermaw. Rhifedi yr aelodau yn 1846, oedd pedwar-ar-hugain, ac felly y parhasant hyd adeg y diwygiad yn 1859, pan y dyblodd yr eglwys fechan yma mewn rhifedi, ond fel yn y rhan fwyaf o fanau y maent yn llai ar hyn o bryd. Mae yma nifer o bobl lled gefnog yn eu hamgylchiadau bydol, ac y maent yn awr yn myned i adeiladu capel newydd. Mae y lle yma o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Dolgellau, ac felly y mae yn parhau. Oddieithr i'r cloddfeydd sydd yn yr ardal fyned rhagddynt yn llwyddianus, nid oes un gobaith am eglwys luosog yma, canys ardal denau ei phoblogaeth ydyw, mewn cilfach anghysbell a mynyddig, ond y mae yma bobl ffyddlon, ac yn medru gwerthfawrogi a mwynhau gweinidogaeth bur ac efengylaidd.

TABOR.

"Capel y Cwecers" y gelwir ef fynychaf yn y gymydogaeth, oblegid mai eu heiddo hwy ydoedd yn wreiddiol. Ymddengys fod y Crynwyr yn lluosog mewn parthau o sir Feirionydd tua'r flwyddyn 1662, ac am flynyddau ar ol hyny, a dyoddefasant erledigaethau chwerwon. Ymfudodd llawer o honynt i Pennsylvania, ac y mae yno rai sefydliadau ac y mae yr enwau sydd arnynt yn dangos mai pobl Meirionydd oedd y rhai cyntaf i ymsefydlu ynddynt. Casglasant gynnulleidfa yn foreu o amgylch Dolgellau, a chodasant y "Tŷ Cyfarfod," fel yr arferent hwy ei alw, gyda gardd gladdu yn nglyn ag ef. Ond lleihau yn raddol yr oedd eu hachos, fel erbyn canol y ganrif bresenol yr oeddynt wedi llwyr ddarfod, a'r "Tŷ Cyfarfod" heb neb yn cyfarfod ynddo. O gylch y flwyddyn 1851, gwnaeth yr Annibynwyr gais am dano, a chafwyd ef i ddechreu dan ardreth, ac unodd ychydig gyfeillion perthynol i Ddolgellau a'r Brithdir oedd yn gyfleus iddo, i gychwyn achos Annibynol ynddo—Peter Price, Robert Thomas, Tyddynygraig, a Robert Jones, Tyddynmawr, a fu yr offerynau penaf i sefydlu yr achos yn Tabor. Cymerodd Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. R. Ellis, Brithdir, ofal gweinidogaethol y lle rhyngddynt, ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Jones, ac yn awr y mae y gofal yn llwyr ar Mr. Ellis. Yn mhen amser llwyddwyd i gael gan y Crynwyr ei werthu, ac y mae yn awr yn feddiant i'r eglwys yn y lle. Ad-drefnwyd ef oddi-mewn y llynedd, fel y mae yn gapel cyfleus, a chynnulleidfa dda, ac eglwys weithgar ynddo, ac Ysgol Sabbothol fywiog, a'r achos ar y cyfan yn myned yn mlaen yn ddedwydd.