Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/499

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Robert Thomas yn gyflawn i waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peter, o'r Bala; holwyd y gweinidog gan Mr. I. Thomas, Towyn; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Thomas, Bangor; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Edwards, Aberdare; ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Mae lle bychan yn perthyn i Lanelltyd, rhyngddo a'r Abermaw, lle y pregethir yn achlysurol, a elwir y Borthewynog. Mae Mr. Thomas a'r eglwysi yn ymddwyn yn serchog a charedigol iawn tuag at eu gilydd hyd yma, a gobeithio y parhant felly, ac yr estynir i Mr. Thomas oes hir, ddedwydd a llwyddianus[1]. Rhoddodd un Cadben Williams, lôg 400p. i Meistri C. Jones, Dolgellau, ac E. Davies, Trawsfynydd, dros eu bywyd, am weinidogaethu yn Llanelltyd; ond dewisodd mab Cadben Williams dalu y 400p. i fyny, ac y maent wedi eu rhoddi i ymddiriedolwyr; ac y mae eu llôg i'w dalu i weinidog Llanelltyd o oes i oes.

GANLLWYD.

Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. Hugh Pugh o'r Brithdir, yn y flwyddyn 1805, yn Llofftyfelin, sef ty Richard Roberts, y melinydd, a pharhawyd i gadw moddion yn y lle hwn am amryw flynyddau, hyd nes y cymerwyd y felin gan Mr. Robert Roberts o Ddol-y-melyn-llyn, yn lle i durnio coed. Yna cafwyd lle i bregethu ac i gadw Ysgol Sabbothol mewn hen ystafell a adeiladwyd yn weithdy gof, a bu yno Factory wlan wedi hyny. Buwyd yn cynal moddion crefyddol yn y lle hwn am amryw flynyddau heb na phulpud o un math nag eisteddleoedd ynddo. O'r diwedd teimlodd y gwr oedd yn byw yn y ty, y gwnai yn well er ei les ei hun, iddo fod yn arweinydd i ddangos y rhiadrau oedd gerllaw ar y Sabothau ac amserau eraill, a rhoddi ceffylau yr ymwelwyr i aros yn y man lle yr oeddid yn pregethu! Felly gorfodwyd ymadael a'r lle hwnw er gwaeled ydoedd, a buwyd yn cynal moddion yn y Tycerig, a lleoedd eraill yn y gymydogaeth, fel y gellid am ryw gymaint o amser. Ar ol ymadawiad yr arweinydd hwnw, cafwyd myned i'r Factory drachefn, a gwnaed yno rhyw fath o bulpud gwael ac ychydig o eisteddleoedd, ac felly cafwyd llonydd hyd nes yr adeiladwyd y capel. Ni chorpholwyd eglwys yn y Ganllwyd, hyd nes y daeth Mr. Edward Davies o'r Allt i gymeryd eu gofal fel gweinidog mewn cysylltiad a Llanelltyd a'r Cutiau, yr hyn oedd tua'r flwyddyn 1818. Ymadawodd Mr. Davies yn mhen o bedair i bum' mlynedd. Yn y flwyddyn 1822, daeth Mr. E. Davies i fyw i Drawsfynydd, a chymerodd ef ofal y lle yn benaf, a rhoddai ran o un Sabboth yma yn rheolaidd bob mis. Byddai yn arfer myned boreu y Sabboth hwnw i'r Penrhosisaf, yn ochr Llanfachreth, ac i'r Ganllwyd erbyn 2, Llanelltyd at 6, ac felly ennillwyd cryn lawer o bobl o ochr Llanfachreth, a derbyniwyd hwy yn aelodau yn y Ganllwyd. Bu yr achos yn lled isel yn y Ganllwyd, hyd yn ddiweddar. Nid oedd ganddo dy i aros ynddo, ac ar ewyllys da yr ymddibynai am le i drigo. Ymadawodd amryw o aelodau y Ganllwyd oedd yn byw yn mhlwyf Llanfachreth, pan godwyd Capel yn y lle olaf. Breuddwydiwyd llawer am le i godi capel yn y Ganllwyd, ond nid oedd ond

  1. Llythyr Mr. E. Davies, Trawsfynydd.