Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi aros yno am dair blynedd, symudodd i Lanfaple yn sir Fynwy. Yn mhen dwy flynedd wedi iddo sefydlu yn Llanfaple gwaelodd ei iechyd fel y bu raid iddo roddi ei weinidogaeth i fyny. Ar ol dihoeni mewn cystudd graddol am ddwy flynedd bu farw yn mhlwyf Llangwm, ger llaw Brynbiga, yn y flwyddyn 1839, a chladdwyd ef yn mynwent y Tabernacl, Llanfaches. Cyfrifid ef yn ddyn da ac yn bregethwr derbyniol."

JAMES PEREGRINE. Er holi llawer yr ydym wedi methu dyfod i wybod yn mha le na pha bryd y ganwyd Mr. Peregrine. Y tebygolrwydd yw mai yn rhywle yn ardal Neuaddlwyd y ganwyd ef. Yr oedd yn un o'r ysgolheigion cyntaf fu yn athrofa Dr. Phillips. Aeth oddiyno i athrofa Llanfyllin, a chafodd ei urddo yn Llanfaches, Mai 21. 1817. Yr oedd gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn: Gweddiodd Mr. Armitage, Casnewydd, traddodwyd y gynaraeth gan Mr. E. Davies, Hanover; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Davies, Casnewydd; gweddiwyd yr urddweddi, yn Gymraeg, gan Mr. G. Hughes, Groeswen; pregethodd Mr. Jenkin Lewis, Casnewydd i'r gweinidog; a Mr. Ebenezer Jones, Pontypool, i'r bobl. Yr oedd yr holl wasanaeth ond yr urddweddi yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith Saesonig. Ni bu Mr. Peregrine yn hir yn Llanfaches. Symudodd oddiyno i'r Sarnau yn sir Drefaldwyn, ac yn mhen ychydig amser ymadawodd oddiyno ac ymfudodd i'r America. Ni wyddom ddim yn mhellach o'i hanes. Dywedir mai dyn byr cadarn o gyfansoddiad ydoedd, a'i wallt yn hytrach yn oleu. Yr oedd yn ddyn galluog o feddwl, ond nid yn ddoniol fel pregethwr. Argraffodd ddwy bregeth genhadol yn yr iaith Saesonig a bregethodd yn Llanfaches yn 1817, ac argraffwyd cyfieithiad of honynt yn Abertawe, yn 1818. Maent yn bregethau rhagorol, ac yn dangos fod yr awdwr yn feddyliwr ac yn ieithydd da.

JAMES GRIFFITHS. Ganwyd ef yn Lacharn, sir Gaerfyrddin, Mai 7, 1796. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau isel iawn, ac yn hollol ddigrefydd. Efe oedd yr unig un o'r teulu a ymaflodd mewn crefydd. Pan oedd tua deuddeg neu dair ar ddeg oed cymerodd boneddwr dyngarol of Lacharn hoffder ynddo, a thalodd am ei osod yn egwyddorwas gyda dilledydd o'r enw Harry Morgan, yr hwn oedd yn byw yn agos i'r Moor, ac yn aelod ffyddlon yn Bethlehem, St. Clears. Wedi dyfod i deulu crefyddol cymhellwyd ef i fyned i wrandaw yr efengyl. Pan yn ddwy ar bymtheg oed ymunodd a'r eglwys yn Bethlehem. Derbyniwyd ef yn mis Tachwedd 1814, ac ymddengys mai efe oedd yr aelod cyntaf a dderbyniwyd gan Mr. James Phillips. Yn fuan ar ol ei dderbyn terfynodd tymhor ei egwyddorwasanaeth, ac aeth i weithio at fab ei feistr i Abertawe, lle y bu am oddeutu dwy flynedd. Yna dychwelodd i'w ardal enedigol, ond nid arosodd yno nemawr o amser. Aeth ymaith i Gasgwent, lle yr oedd mab arall i'w hen feistr yn ddilledydd, ac yn cadw gweithwyr. Ni bu yno fawr amser cyn ymgydnabyddu â Mr. David Thomas, o Nebo gerllaw Casgwent, yr hwn hefyd oedd yn ddilledydd ac yn cadw gweithwyr. Aeth i weithio ato ef. Nid oedd Mr. Thomas y pryd hwnw wedi ei urddo, ond yr oedd yn bregethwr diwyd a pharchus iawn, ac yn pregethu fel cenhadwr trwy holl fro Mynwy. Canfu Thomas yn fuan fod defnyddiau pregethwr yn ei weithiwr James Griffiths, ac anogodd ef i arfer ei ddawn. Daeth yn fuan i dynu sylw fel gwr ieuange galluog a phoblogaidd. Yn fuan wedi i Grif- fiths ddechreu pregethu, cafodd ei feistr, Thomas, ei urddo yn weinidog ar eglwys fechan a gasglesid ganddo yn Nebo, ac yn 1823, cafodd yntau alw- ad gan yr eglwys yn y Tabernacl, Llanfaches, a chafodd ei urddo yno. Ar