Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/500

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gobaith gwan am lwyddiant. Ond yn ddisymwth ac annisgwyliadwy cafodd Mr. John Jones o'r Tynewydd, ddarn o dir gan Arglwydd Kenyon, mewn lle cyfleus ar fin y ffordd o Ddolgellau i Drawsfynydd, i wneyd capel a mynwent, am y pris rhesymol o 10p. Talodd am y lle gan gwbl fwriadu iddo fod yn feddiant i'r Annibynwyr. Teimlodd Mr. John Jones ei hun yn gwanhau, a bod angau yn dechreu tynu ei babell bridd i lawr, a dangosodd le yn nghongl y darn tir ydoedd wedi ei brynu, a dywedodd, "Cleddwch fi yn y fan yma." Bu farw yn fuan ar ol hyn, a chladdwyd ef yn y lle a ddangosasai yn ol ei ddymuniad. Yr oedd hyn cyn cau y tir i fewn na gwneyd un parotoad at adeiladu. Gan i Mr. Jones farw cyn gwneyd cyflwyniad o'r lle i'r dyben a fwriedid, a chan na feddyliodd grybwyll dim yn nghylch y lle yn ei ewyllys, yr oedd yn disgyn yn etifeddiaeth i nai o fab brawd iddo, yr hwn oedd yn cartrefu yn yr America. Ofnid unwaith y collasid y tir wedi ei gael, neu o leiaf y buasai yn rhaid talu llawer mwy na'r pris gwreiddiol am dano, ond trwy gyfryngiad goruchwyliwr Arglwydd Kenyon, gwnaed pob peth yn ddiogel.[1]

Yn y flwyddyn 1857, cauwyd y darn tir i fewn, ac adeiladwyd capel hardd a chyfleus iawn ar y lle, ei fai mwyaf ydyw ei fod yn rhy fychan. Dangosodd trigolion yr ardal ffyddlondeb mawr tuag at yr achos, fel y talwyd am y cwbl, heb fyned bron ddim allan o'r gymydogaeth.

Yn niwedd 1869, unodd yr eglwys hon a Llanelltyd a Llanfacheth, i roddi galwad i Mr. Robert Thomas, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad. Bu yma lawer o bobl weithgar gyda chrefydd, ac yr oedd John Jones, Tynewydd, yn arbenig, yn gedrwydden gref yn mynydd Duw yn y Ganllwyd; a theimlwyd colled fawr pan y cwympwyd ef gan angau.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma y personau canlynol:—

Richard Roberts. Dechreuodd bregethu yn fuan wedi cychwyniad yr achos yma. Symudodd i fyw i Lanuwchllyn ac oddiyno i Lanbrynmair, lle y dibenodd ei yrfa.

Thomas B. Morris. Bu yn athrofa y Bala, urddwyd ef yn Rhosllanerchrugog. Symudodd i'r Rhyl, ond ni bu yn hir yn yr un o'r ddau le. Ymunodd a'r Bedyddwyr, ac aeth i America, ac y mae yno yn bresenol yn golygu newyddiadur Cymreig. Adnabyddir ef fel Gwyneddfardd.

Richard Williams. Aeth i'r America, a bu farw yno.

Nicholas Parry. Bu farw yn ieuangc, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Trawsfynydd.

Mae golwg siriol a llewyrchus ar yr achos yn y Ganllwyd, ac y mae yn ymddangos yn well nag y gwelwyd ef erioed o'r blaen.

LLANFACHRETH.

Saif Llanfachreth oddeutu pedair milldir i'r gogledd o Ddolgellau, yn nghanol mynyddoedd cribog a golygfeydd gwylltion a rhamantus. Yn ddiweddar mewn cydmariaeth y cychwynodd yr achos Annibynol yn yr ardal hon. Meddienid yr ardal gan y Methodistiaid Calfinaidd a'r Eglwys Sefydledig. Bu y Wesleyaid yn cychwyn achos mewn anedd-dŷ o'r enw Corsygarnedd, ychydig cyn i'r Annibynwyr ddechreu. Cynhalient Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddi yn lled gyson, ac ymwelid â hwy yn

  1. Llythyr Mr. E. Davies, Trawsfynydd.