awr a phryd arall, gan weinidogion perthynol i'r cyfundeb yn nghylchdaith Dolgellau, ond byr fu arhosiad y Wesleyaid yn yr ardal. Y gallu crefyddol mwyaf yn Llanfachreth y dyddiau hyny oedd y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt Ysgol Sabbothol boblogaidd ac enwog, ac y mae yn ymddangos mai o Ysgol Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd y torodd y blaguryn Annibynol allan gyntaf. Yr oedd yn perthyn i'w hysgol y pryd hwnw amryw bersonau yn gogwyddo yn gryf at y golygiadau a adnabyddid fel y system newydd, y rhai a ddiystyrid yn ddiarbed gan awdurdodau yr ysgol. Cyfododd hen flaenor ar ei draed ar ddiwedd yr ysgol un Sabboth, a chyhoeddodd gydag awdurdod, nad oedd yr un athrawiaeth i gael ymdrin a hi yn eu hysgol hwy, ond a gytunai yn mhob peth a'r golygiadau a gyhoeddid o'r pulpud. Ofer fu y gorchymyn, ac yn hytrach na diffodd y golygiadau, enynwyd hwynt yn fwy. Buasai atal eu lledaeniad mor anhawdd a throi y Mawddach yn ei hol. Ni bu y gwaharddiad yn ddim amgen na chawod o wlaw taranau i chwyddo'r afon dros ei cheulanau. Enciliodd pleidwyr y system newydd o'r ysgol, ac aeth amryw o honynt i Ysgol Sabbothol y Wesleyaid, yr hon a gynhelid ar y pryd yn Nghorsygarnedd, a'r gweddill i'r Ganllwyd.
Y cyntaf i ymuno a'r Ganllwyd o ardal Llanfachreth oedd Edward Pugh, crydd, wrth ei gelfyddyd. Efe oedd y cyntaf i fyned i'r gyfeillach yno. Dilynwyd ef gan Hugh Pugh, ei frawd, yr hwn oedd yn byw mewn lle o'r enw Caetanglwys. Dilynwyd y ddau gan J. Morris, Rice Price, &c. Derbyniwyd pedwar o honynt gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd, yn y Ganllwyd. Buont yn cerdded o Lanfachreth yno—pellder o dair milldir o ffordd, am rhyw gymaint o amser. Yn y flwyddyn 1838, penderfynasant gynal moddion yn Caetanglwys, cartref yr H. Pugh y cyfeiriwyd ato yn barod. Cymerasant lofft fechan yno ar ardreth, a gwnaethant bulpud, ac ychydig feinciau, er mwyn gwneyd y lle mor gyfleus ag yr oedd modd. Y cyntaf o'r Annibynwyr i bregethu yn y lle hwn oedd Mr. Davies, Trawsfynydd. Dilynwyd ef gan amryw o'i frodyr, ac yn eu plith, daeth yr hen efengylydd gonest o Lwyngwril yno un noson. Fel yr oedd yn pregethu, ac yn cynesu yn ei fater, digwyddodd iddo daro y ganwyll oddiar ymyl y pulpud nes y syrthiodd, a chan mai hono oedd yr unig ganwyll oedd ganddynt yn yr ystafell, nid oedd gan y pregethwr ddim ond gyru yn mlaen yn y tywyllwch, neu dori i fyny. Ond yr oedd gormod o hwyliau ar lestr yr hen frawd i sefyll mewn mynyd, ac meddai "oddth ydi hi wedi t'wddthu o'dd ddaiadd fddodydd bach, gwnawn tddo oddth cawn ni oddeuni o'dd nefoedd." Cafodd lonyddwch a hwylusdod i orphen ei bregeth, a mynych y diolchai iddynt am eu hymddygiad gweddus yn ngwyneb yr anffawd. Yn mhen oddeutu blwyddyn wedi iddynt ddechreu yn Caetanglwys, cawsant rybudd i ymadael a'r llofft. Yr oedd hyn yn gryn siomedigaeth, a pharodd y rhybudd hwn i rai ddigaloni am ychydig, ond gwnaeth eraill yn fwy selog a phenderfynol. Y Sabboth olaf yn yr hen lofft a ddaeth, ac nid oedd gwawr gobaith yn ymdori o unman, fod lle arall yn ymagor iddynt. Modd bynag, cyhoeddodd Edward Pugh y byddai ysgol yn ei dŷ ef yn Llanfachreth y Sabboth dilynol, ac y byddai croesaw calon i bawb ddewsai ddyfod yno. Felly y bu, daethant yn nghyd yn lled gryno, ac ymddangosent yn llawer siriolach y Sabboth hwn na'r diweddaf. Yn mhen ychydig amser wedi iddynt ail ddechreu yn nhŷ Edward Pugh, penderfynasant gael eu ffurfio yn eglwys Annibynol reolaidd. Daeth Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. H. James, o'r Brithdir,