i'w ffurfio yn eglwys. Nid ydys yn gwybod yn sicr faint o gymundebau a gafwyd yn nhŷ E. Pugh, ond fe dderbyniwyd rhai yn aelodau yno, a buwyd yn cynal moddion yno am oddeutu pymtheg mis. Cawsant eu bendithio a diwygiad lled rymus yn y cyfnod yma, ac arwyddion amlwg fod y nefoedd yn cymeradwyo eu gwasanaeth.
Wrth weled fod yr eglwys yn cynyddu, a bod y tŷ yn fychan ac anghyfleus, dechreuasant edrych am ryw gornel i godi capel. Yr oedd cael hyn yn bur anhawdd, trwy fod tirfeddianwyr y lle mor selog dros yr Eglwys Wladol, ac yn dra gelyniaethus i Ymneillduaeth. Ond trwy garedigrwydd y boneddwr haelfrydig, Mr. R. Pugh, Helygog, (tad yr un presenol,) llwyddasant i gael lle ar dir Ffrwdyrhebog, am yr ardreth resymol o 7s. 6c. y flwyddyn. Wedi sicrhau tir, yr oedd yn eithaf digalon i feddwl dechreu ar y gwaith, gan nad oeddynt ond ychydig weithwyr yn ymladd a'r byd i geisio cynal eu hunain a'u teuluoedd. Addawai rhai o gyfeillion y Ganllwyd eu cynorthwyo yn eu hymdrech, ond oblegid rhyw ddylanwadau o eiddo rhywun neu rywrai, ychydig o gefnogaeth chwaethach cymorth o gafwyd oddiyno. Yn y cyfamser daeth Samuel Williams, Hendregyfeilliad, (Dolgellau yn bresenol,) i aros i ardal Llanfachreth, yr hwn sydd yn Annibynwr selog a phenderfynol, a bu o help mawr i roddi ail gychwyn ar y gwaith. Apeliasant at eglwys Dolgellau am gynorthwy a chymorth i godi y capel. Cawsant hyny. Dechreuasant arno ar unwaith, ac fe'i hagorwyd yn y flwyddyn 1840. Maint y capel yw saith lath wrth wyth. Maint y tir a gafwyd ar y dechreu oedd deuddeg llath wrth un-ar-bymtheg. Costiodd yr adeilad oddeutu 96p. Yn ddiweddarach fe brynwyd y tir gafwyd i ddechreu ar brydles, ac fe ychwanegwyd ato ddigon i wneyd mynwent fechan yn ymyl y capel. Mae dau neu dri wedi eu claddu ynddi yn barod. Mae cyfeillion Siloh, Llanfachreth, (oblegid dyna enw'r capel,) wedi cael Mr. R. Pugh, Helygog, yn foneddwr parod i roddi iddynt y tir at wasanaeth yr enwad, a hyny ar y telerau mwyaf rhesymol.[1] Costiodd adgyweirio y capel tua 10p., ond y mae yn dda genym allu dyweyd nad oes arno ddim dyled o gwbl. Wedi cael capel newydd, trodd y cyfeillion yn Llanfachreth eu hwynebau am weinidogaeth i gyfeiriad Rhydymain a'r Brithdir, a'r cyntaf i gymeryd gofal yr eglwys fel ei gweinidog fu Mr. Hugh James. Llafuriodd yn galed gyda graddau helaeth o lwyddiant yn eu plith. Ar ei ol ef cymerwyd ei gofal gan Mr. John Davies, yn nglyn a Rhydymain yn unig; byr fu ei arosiad yn eu mysg, ond bu yn ddiwyd ac ymdrechgar yn ystod yr amser hwnw. Ymadawodd a'r Annibynwyr ac ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd. Y trydydd gweinidog i gymeryd gofal yr eglwys yma fu Mr. Robert Ellis, Brithdir. Gan fod ganddo i ofalu am Rydymain, Brithdir, Tabor, Ganllwyd, a Llanfachreth, ychydig o ffrwyth ei lafur a allasai y gangen hon ei gael, ond bu yn hynod ddedwydd a llwyddianus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon hyd y diwedd. Yn y flwyddyn 1869, anogodd hwy i ymuno a Llanelltyd a'r Ganllwyd, i roddi galwad i ddyn ieuangc i gymeryd eu gofal. Gwnaethant ei gyngor, a rhoddasant wahoddiad unfrydol i Mr. Robert Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala. Atebodd yntau hwy yn gadarnhaol, ac ymsefydlodd yn eu plith Ionawr, 1870. Mae cysylltiad Mr. Thomas a'r eglwysi yn bob peth a ellid ei ddymuno, ac yr ydym yn hyderu yr erys felly am lawer o flynyddoedd. Mae golwg siriol
- ↑ Llythyr R. Thomas, Llanelltyd.