Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/503

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr achos. Llawer fu yn darogan, os nad yn dymuno ei angau, ond byw ydyw—golwg byw sydd arno—a chan mai achos y "Duw byw" ydyw, byw a fydd. Ni chodwyd yma yr un pregethwr, ond y mae yn perthyn i'r eglwys un pregethwr cynorthwyol, sef Griffith Price. Dechreuodd bregethu yn Jerusalem, Trawsfynydd, er mai brodor oddiyma ydyw, ac y mae yn parhau gyda'r gwaith. Gobeithiwn fod i'r dyn hynaws a thangnefeddus hwn lawer o flynyddoedd etto i wasanaethu ei Arglwydd.

CUTIAU.

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanaber. Yr Annibynwr a'r Ymneillduwr cyntaf a bregethodd yn y plwyf, yn ol dim hanes a ellir gael, oedd y diweddar Mr. Benjamin Evans, o'r Drewen, Ceredigion, ond Llanuwchllyn y pryd hwnw. O gylch y flwyddyn 1770, cofrestrodd Mr. Evans, gegin amaethdy o'r enw Maesyrafallen, i bregethu ynddi. Perchenog a phreswylydd yr amaethdy crybwylledig oedd un Cadben William Dedwith, (Dedwydd), gwr genedigol o Abergwaun, Penfro; ac ewythr, brawd ei mham, i wraig y rhagddywededig B. Evans. Ymbriodasai y Cadben Dedwith âg aeres y Gorllwyn, gerllaw Abermaw, rai blynyddoedd cyn dyfodiad Mr. Evans i Llanuwchllyn, ac felly rhoddasai heibio forio, a bu yn seren oleu yn awyrgylch crefydd yn y parthau yma o sir Feirionydd. Yn y flwyddyn 1777, ymadawodd Mr. Evans o Llanuwchllyn i Hwlffordd, Penfro, ac o herwydd diffyg gweithwyr selog, gadawodd yr Annibynwyr y maes a ddechreuasant ei lafurio, am o gylch pedair-blynedd-ar-hugain, hyd nes y cyfododd yr Arglwydd ddau ŵr ieuangc yn y sir, sef William Williams, wedi hyny o'r Wern, a Hugh Pugh, o'r Brithdir; y rhai, er yn ieuangc, a bregethent Air y Bywyd gyda rhyw ddylanwad anarferol yn mhob cwm, ac ar bob bryn yn y cymydogaethau o gylch y lleoedd y magwyd hwynt. Yr oedd yr enwog John Jones, o Ramoth, fel ei gelwid, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Sandemanaidd, yn gwneyd cryn dwrw yn y parthau yma y blynyddoedd hyny, ac yr oedd ef a'i ganlynwyr yn bur ddirmygus o'r ddau ŵr ieuangc, o herwydd eu poblogrwydd a'u hieuengctyd, mewn rhan, ond bu ymweliadau achlysurol y Dr. Lewis, o Lanuwchllyn, yn foddion tra effeithiol i symud y rhagfarn oedd gan rai pobl hunain-ddoethion yn erbyn y gwyr ieuaingc, oblegid yr oedd efe yn wr mewn oed, ac yn ysgrythyrwr mawr, a dylanwad neillduol, ar y cyfan, yn cydfyned a'r hyn a ddywedai. Tŷ'nyllwyn, yn Nghwm-y-sylfaen oedd y tŷ cyntaf y cafodd y brodyr Pugh a Williams ganiatad i fyned iddo i bregethu, ond nid oedd yn y tŷ hwnw, nac mewn un tŷ arall yn y gymydogaeth, yr un tamaid i'w fwyta cyn dechreu nac wedi gorphen pregethu, am oroiau lawer, a thystiai Mr. Pugh yn nghlyw un hen chwaer a adroddai yr hanes i Mr. Jones, Abermaw, iddynt ddyoddef eisiau caled y troion cyntaf y daethent i'r gymydogaeth i bregethu, ond ni ddigalonasant er dim. Wedi i Mr. Williams fyned i'r athrofa, parhaodd Mr. Pugh i ddyfod, a chyn hir ennillodd deimlad ffafriol iddo, ac ennillodd eneidiau hefyd at yr Arglwydd. Cofrestrodd dŷ i bregethu ynddo, yr hwn a elwir Penbrynisaf. Saif y tŷ hwnw gerllaw y capel a adeiladwyd yn y flwyddyn 1806. Y Cadben Rees Griffith, o'r Farchynys, taid "Y Gohebydd," Mr. Thomas Davies, Dolgellau; a Mr. C. Jones, o'r Sylfaen, ac amryw eraill, llai mewn gallu, ond nid mewn ffyddlondeb, fu yn brif offerynau i gael y