Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/504

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel, y rhai oll a ennillwyd i'r ffydd yn y gymydogaeth hon, ond a gyrchent i gymuno i'r Brithdir, ddeuddeng milldir o ffordd, nes y ffurfiwyd eglwys yn Llanelltyd. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, bu yma gryn ddiffyg am weinidogaeth gyson, ond gofalai y ffyddloniaid yn Rhydymain a'r Brithdir i ddyfod yma i gynorthwyo cynal cyfarfod gweddio. Yn mhen o gylch dwy flynedd, daeth Mr. Cadwaladr Jones i faes mawr, hir, Mr. Pugh, a llafuriodd yma gyda chysondeb a ffyddlondeb digyffelyb, pan gofiom eangder ei gylch. Yn mhen o gylch saith mlynedd wedi i Mr. Jones lafurio y maes o flaen Drwsynant, hyd ganol Dyffrynardudwy, sef gwlad o gylch pedair-milldir-ar-hugain o hyd, anogodd y cyfeillion yn y Cutiau i roddi galwad i Mr. Edward Davies, o'r Allt Tafolog, ger Dinasmawddwy, i ddyfod i'w bugeilio; ac yn mis Mai, 1818, ymsefydlodd Mr. Davies yn eu mysg, a bu yma yn bur lafurus a defnyddiol am bedair blynedd, nes y symudodd i Treflech, gerllaw Croesos wallt. Wedi hyny, am o gylch dwy flynedd, syrthiodd gofal gweinidogaethol y cwr yma o'r maes hir drachefn ar ysgwyddau Mr. Jones, ond yr oedd ganddo erbyn hyn lu o bregethwyr cynorthwyol. Enwir Robert Roberts, o'r Brithdir; Owen Owens, (Rhesycae wedi hyny); Richard Roberts, o'r Ganllwyd; Richard Herbert; Richard Jones, Llwyngwril; Evan Evans, yn awr o Langollen, ac eraill. Yn niwedd y flwyddyn 1826, rhoddodd yr eglwys yn y Cutiau, mewn cysylltiad a'r ychydig gyfeillion oedd yn yr Abermaw a'r Dyffryn, alwad i Mr. Evan Evans, Bwlchgwyn—am yr afon a'r lle—i fod yn weinidog. Yr oedd Mr. Evans yn yr Abermaw, er y flwyddyn flaenorol, yn cadw ysgol, ac yn pregethu agos bob Sabboth yn y Cutiau, Abermaw, a'r Dyffryn. Rhoddwn yma gopi o'r alwad a dderbyniodd Mr. Evans:—

"CUTIAU, Tachwedd 16eg, 1826.

Mr. EVAN EVANS, Bwlchgwyn,

Yr ydym ni, aelodau yr eglwys sydd yn ymgyfarfod yn y Cutiau, yn sefyll mewn angen, fel y gwyddoch, am weinidog i flaenori yn ein plith, ac i dori i ni o fara y bywyd. Ar ol cael cyfleusdra i sylwi ar eich golygiadau chwi ar athrawiaethau yr efengyl—y doniau a pha rai yr ydych wedi eich cynysgaeddu, a'ch ymddygiad addas i'r gwirionedd; ac ar ol i ni gael cyfleusdra i ymgynghori â'n gilydd, gan hyderu hefyd ein bod wedi ymgynghori a'r Arglwydd! yr ydym yn calonog roddi i chwi alwad i lafurio yn ein plith, ac i gymeryd ein gofal yn yr Arglwydd, gan hyderu y bydd i chwi a ninau fod o lawer o gysur i'n gilydd. A chyda golwg ar eich cynhaliaeth, yr ydym yn addaw casglu yn ein plith ein hunain, yn y Cutiau yn unig, WYTH BUNT yn y flwyddyn. Gan obeithio y bydd i chwi gael eich tueddu i gydsynio a'n dymuniad, ydym, dros yr eglwys, yr hon sydd yn cynwys ugain o aelodau, eich brodyr a'ch cyfeillion yn rhwymau yr efengyl,

REES GRIFFITH,
LEWIS WILLIAMS,
RICHARD WILLIAMS."

Ar y 23ain o Fai, 1827, cynhaliwyd cyfarfod yn y Cutiau i'w neillduo i waith pwysig y weinidogaeth. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; gweddiwyd yr urdd—weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Jones, Bala; ac i'r eglwys gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri H. Lloyd, Towyn; H. Morgan, Sammah; J. Ridge, Bala; a W. Roberts, Trawsfynydd.[1] Llafuriodd Mr. Evans yma yn ddiwyd hyd y flwyddyn 1844,

  1. Dysgedydd, 1827. Tu dal. 217.