Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/505

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan y symudodd i Faentwrog. Dilynwyd ef gan Mr. James Jones, Capelhelyg, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn nglyn ag Abermaw a'r Dyffryn, yn fuan wedi ymadawiad Mr. Evans, ac a fu yma yn gymeradwy am bum'-mlynedd-ar-hugain, pryd y rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol. Yn mis Tachwedd, 1869, dechreuodd Mr. David Evans, Rhosymedre, ei weinidogaeth yma, ac yn yr Abermaw a'r Dyffryn, ac y mae yn parhau i ofalu am y tri lle. Ni bu yr achos yma yn gryf yn un adeg yn ei hanes; ond bu yma amryw o bobl ffyddlon a chrefyddol o bryd i bryd, y rhai nad oedd dim yn ormod ganddynt ei wneyd er mwyn achos yr Arglwydd. Nid ydym yn cael i un pregethwr godi yn yr eglwys hon, ond bu yma un hen bregethwr, yr hwn a dreuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn yr ardal yma, sef Robert Roberts. Adwaenid ef gynt fel Robert Roberts, Henblas, Brithdir. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd yn aelodau yn y Brithdir ar gorpholiad yr eglwys yno. Dechreuodd bregethu megis yn ddiarwybod iddo ei hun, trwy ddarllen penod mewn cyfarfodydd gweddïo, a dyweyd ychydig oddiwrthi, a bu felly am fwy na dwy flynedd cyn pregethu yn ffurfiol oddiar destyn. Pregethodd lawer trwy yr holl wlad o Rydymain i'r Dyffryn, ac o Drawsfynydd i Lwyngwril, ac yr oedd yn dderbyniol pa le bynag yr elai. Yr oedd yn ddyn o gorff cryf, ac o feddwl grymus, ac yn nodedig am graffder ac ysbryd barn. Gwelodd dymhorau gwahanol ar grefydd yn ei oes, ond nid ar awelon yr ymddibynai; ond gwnai waith crefydd yn ol rheswm a chydwybod. Arferai adrodd gyda difyrwch, fod Mr. D. Davies, Abertawy, a John Bulk, yn pregethu ar ganol dydd yn y Brithdir mewn tŷ anedd, ar adeg o ddiwygiad grymus; ac yr oedd dawn swynol Mr. Davies wedi peri i'r rhan fwyaf anghofio eu hunain yn llwyr, ac yn mysg eraill yr oedd ei gyd-bregethwr John Bulk yn moli ac yn neidio gyda'r bobl mewn gorfoledd. Eisteddai Robert Roberts ar y bwrdd, a daeth John Bulk ato gan ddyweyd wrtho "Hawyr bach, wyt tithau ddim yn molianu fach'en?"

"Nac wyf fi," ebe Robert Roberts, "mae arnaf ddolur o'm coes." "Hawyr, dere fach'en, ti gei goes," atebai John Bulk. "Cha'i 'run gen ti," ebe Robert Roberts, "ac am hyny gad lonydd i mi." Addefai Robert Roberts iddo yntau deimlo rhyw gynyrfiadau yn yr adeg hono, er na buont yn ddigon grymus i beri iddo neidio. Cafodd oes hir i wasanaethu yr Arglwydd, a gwelodd ei blant a phlant ei blant yn rhodio yn llwybrau ei ffydd. Mae llawer o wyrion iddo yn Nghymru ac yn Liverpool yn aelodau defnyddiol yn eglwys Dduw, ac un o'i wyrion ydyw Mr. Edward Roberts, Cwmafon, Morganwg. Bu Robert Roberts farw Tachwedd 15fed, 1842, yn 85 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanaber.

ABERMAW.

Llongborth bychan ydyw y lle hwn, ac y mae yn gyrchfa i filoedd o ddyeithriaid bob blwyddyn, i ymdrochi ac i yfed o ddwfr ac awelon iachus glan y mor, ac i ddringo y bryniau a'r mynyddoedd llawn o drysorau gwerthfawr oddifewn iddynt, sydd yn cysgodi y lle. Nis gallasom gael allan pwy oedd yr Ymneillduwr cyntaf fu yn pregethu yn y lle hwn, ond yn y flwyddyn 1846, dywedodd hen wraig o'r enw Catherine Roberts, o'r Hafodboeth, wrth Mr. James Jones, ei bod hi yn cofio Mr. Evans, o Lanuwchllyn, yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn mharlwr