Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/506

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Siopfawr, i ŵr a gwraig y tŷ, ei mham hi, ac ychydig eraill oedd yn byw yn Abermaw, yn nghyd a rhyw bobl ddyeithr o'r wlad.

Wrth gydmaru oed yr hen wraig y pryd hwnw, atebai yn gywir i'r amser yr oedd Mr. Evans yn gweinidogaethu yn Llanuwchllyn, ac yn pregethu yn Maesyrafallen. Pan ymadawodd Mr. Evans o'r sir hon, rhoddodd yr Annibynwyr heibio lafurio yn y parth hwn o Feirion am dros ugain mlynedd, ond ni bu y trigolion er hyny heb glywed pregethu efengyl Crist gyda nerth a phurdeb, oblegid yn Hanes Methodistiaeth, Cyf. I. tu dal. 508, 509, a 520, cawn fod ambell i Fethodist yn myned i Maesyrafallen i bregethu, ac ychwanega "Yr oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yn byw yn y dref (Bermo) ar y pryd yn cael mwynhau gweinidogaeth un B. Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yr hwn a fyddai yn arfer pregethu mewn ardal gyfagos." Adroddodd un o'r crefyddwragedd henaf yn y lle hwn yn ddiweddar, yr hanes difyr a dyddorol a ganlyn, yr hon a'i cawsai gan Catherine Roberts.[1] Yr oedd rhyw bregethwr,[2] nis gwyddai ei enw, wedi addaw pregethu wrth oleu dydd ar y gareg-farch, (horseblock,) yn ymyl drws y Siopfawr, a mawr oedd y son am y cwrdd disgwyliedig gan grefyddwyr, a chan elynion crefydd hefyd. Ar ryw ddiwrnod o flaen y cyfarfod, galwodd Mrs. Griffith, gwraig y Siop, ar un o'r meddwon a'r ymladdwr penaf y pryd hwnw yn y lle, pan yn myned heibio o flaen ei thy, "G. tyred yma, mae dyn neis iawn, gwas yr Arglwydd, yn dyfod yma i bregethu am Iesu Grist i ni, ac 'rwan G. bach, ni wn i am neb tebyg i ti am gadw chwareu teg iddo, a rhwystro pethau drwg i wneyd dim niwed iddo. Os gwnei G., mi rodda i jwgied o gwrw newydd 'rwan i ti, a chei un arall ar ol y cyfarfod, a wnei di G?" "Gwnaf," atebai G. gyda llŵ rhyfygus. Arferodd yr un moddion tuag at un neu ychwaneg o gyffelyb nodwedd yn y lle, a chafodd yr un cyffelyb ateb gan y rhai hyny. Yr oedd y gelynion hwythau yn parotoi at yr erlid, wedi crynhoi cryn lawer o bob peth aflanach na'u gilydd i fod wrth law i'w lluchio at y pregethwr. Ond dyma

  1. Llythyr Mr. James Jones, yr hwn a roddodd i ni lawer o ddefnyddiau.
  2. Mae yn dra thebyg mai Mr. B. Evans oedd y pregethwr, gan ei fod yn gweinidogaethu yn y gymydogaeth, ac o ysbryd mor gyhoeddus a diofn, ac wedi bod yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn flaenorol yn mharlwr y Siop grybwylledig. Dywed awdwr Hanes Methodistiaeth, tu dal. 572, nad oedd yr un cynghorwr o Rhoslan, yn Arfon, hyd Machynlleth, yn Maldwyn, yn y flwyddyn 1783, sef yn mhen o gylch wyth mlynedd wedi ymadawiad Mr. Evans, o Lanuwchllyn. Yn mhellach wrth yr hanes dyddorol a roddai y diweddar Mr. Lewis Morris, yn Nhraethodydd, 1847, tu dal. 107, fod John Ellis, o Abermaw, wedi hyny, yn pregethu yn y cymydogaethau hyn yn y flwyddyn 1788, ac wedi iddo ef (L. M.) ei rwystro i bregethu yn Llwyngwril. Gwr genedigol o gwr mynydd Hiraethog, yn sir Ddinbych, yr hwn a ymunodd a chrefydd yn bur ieuangc yn Llanbrynmair, o dan weinidogaeth yr hybarch Richard Tibbot, oedd y dywededig John Ellis. Ar ol iddo fod yn aelod gloyw yn yr hen eglwys Ymneillduol hono am tua saith mlynedd, symudodd i sir Feirionydd, ac ymgymerodd a'r gwaith o gadw un o'r ysgolion Cymraeg ag oedd Mr. Charles, o'r Bala, newydd gychwyn yn y wlad, a chyda'r Methodistiaid y bu ef yn llafurio o hyny hyd derfyn ei oes. Adweinid ef wrth yr enw "John Ellis, Abermaw." Bu pregethwr arall tra llafurus yn ei ddydd gyda Chorph y Methodistiaid yn y parthau hyn, o'r enw "William Pugh, o Llanfihangel;" yr hwn, wedi clywed fod Mr. B. Evans, yn pregethu yn Maesyrafallen, a aeth yno ar un bore Sabboth, er fod ganddo o ddeuddeg i bymtheng milltir o ffordd dra mynyddig a chorsiog i'w cherdded, ac am na buasai erioed o'r blaen mewn addoliad Ymneillduol, rhyfeddodd yn fawr wrth weled mai cegin wael oedd ganddynt yn eglwys? a stôl yn bulpud! Testyn y bregeth oedd, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist." Teimlodd fod mwy yn yr efengyl nag a feddyliodd erioed o'r blaen. Crybwyllai W. Pugh, am yr oedfa hono fel cychywniad ei yrfa grefyddol. (Hanes Methodistiaeth. Cyf. I. Tu dal. 568.)