Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/507

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiwrnod yr oedfa wedi d'od, ac awr y dechreu yn nesu, eithr cyn i'r pregethwr ddyfod allan o'r tŷ, daeth y Cadben Dedwith, am yr hwn y crybwyllasom o'r blaen yn nglyn a'r Cutiau, allan, ac a llais clir nerthol, gwaeddodd "Gosteg, fy anwyl gymydogion, diwrnod pwysig iawn yw hwn yn y Bermo, fe fydd trin a chyfrif am bob peth a wneir yma heddyw yn y farn fawr, pan fyddo'r meirw yn dyfod allan yn fyw o'u beddau, a'r ddaear yn wenfflam bob modfedd o honi, ac yn awr mae gwas yr Arglwydd yn myned i ddyweyd wrthym ni pa fodd i fod yn ddiogel yn y diwrnod ofnadwy hwnw." Gyda hyny dyma'r pregethwr yn dechreu, a rhwng araeth y cadben, a dichell sanctaidd modryb Betti Pugh, fel y gelwid Mrs. Griffith, y Siopfawr, yn aml, cafodd y pregethwr lonydd i fyned yn ei flaen a gorphen y cyfarfod.

Ond nid ydym yn cael allan fod neb o'r Annibynwyr wedi bod yn pregethu yma gyda dim cysondeb, beth bynag, hyd nes y cofrestrwyd yma dŷ i bregethu, rhyw dro tua dechreu y ganrif bresenol, gan Mr. H. Pugh, o'r Brithdir, a chofrestrwyd amryw anedd-dai yma y naill ar ol y llall, a phregethai Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. Davies, Cutiau, ac eraill yma. Yn y flwyddyn 1825, daeth Mr. Evan Evans, o'r Bwlchgwyn yma i gadw ysgol ddyddiol, ac i bregethu ar y Sabbothau yn y tri lle—Cutiau, Abermaw, a'r Dyffryn. Ychydig oedd nifer y cyfeillion ar y pryd—Griffith Griffiths, Bodgwilym, a'i wraig, Maria, (yr hon oedd ferch i Mr. John Roberts, o Lanbrynmair); Robert Sion, saer maen; Catrin Robert, Sian Sion, a Mrs. Jones, y Te, fel ei gelwid. Dyna oedd o honynt y pryd hwnw yn y dref. Addolent mewn ystafell berthynol i hen adeilad helaeth a fuasai gynt yn fath o balasdy, o thalent am dani dair punt yn y flwyddyn. Cadwodd Mr. Evans yr ysgol ddyddiol mewn rhan o'r hen adeilad grybwylledig am fwy na dwy flynedd, ac yn Mai, 1827, urddwyd ef i holl waith y weinidogaeth, fel y crybwyllasom yn hanes y Cutiau. Rhyngodd bodd i'r Arglwydd lwyddo llafur y gweinidog ieuangc a'r ychydig gyfeillion, gan ychwanegu eu rhifedi, fel y penderfynasant yn fuan gael capel newydd, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn 1828. Teithiodd Mr. Evans trwy Ogledd a Deheudir Cymru, ac i Lundain, ac amryw ranau eraill o Loegr i gasglu at dalu dyled y capel. Cyfarfu yr achos yma a chryn lawer o anhawsderau, ac yr oedd y dadleuon duwinyddol oedd yn yr adeg hono yn anfantais iddo, ond er y cwbl, gweithiodd ei ffordd yn raddol, ond yn sicr, a llwyddodd i ladd yr holl ragfarn oedd yn ei erbyn. Rhoddwn y difyniad a ganlyn o adroddiad a anfonwyd i ni gan Mr. Evans, Llangollen, o hanes yr achos yn y lle o'i sefydliad ef yno hyd ei ymadawiad. "Pan oedd yr achos yn Abermaw yn myned rhagddo yn lled gysurus, bu rhuthr o erledigaeth arno yn y flwyddyn 1829, o herwydd y Bil a ddygid ger bron y wlad i'w ddwyn yn llwyddianus, os gellid trwy y Senedd, sef Rhyddfreiniad y Pabyddion i gael breintiau gwladol fel deiliaid eraill y deyrnas. Yr oedd holl drigolion y dref, oddieithr ychydig bersonau, yn ffyrnig yn erbyn hyn, fel na feiddiai neb yngan gair o ochr y Bil, heb beryglu ei hun ryw ffordd neu gilydd. Safodd E. Evans, a rhyw ychydig o'i bobl rhag ochri gyda'r lluaws yn hyn. Ni ddadleuai ef na hwythau yn gyhoeddus o blaid y mater, ond amlygent eu rhesymau mewn ymddyddanion personol a'u cymydogion, dros beidio gwrthwynebu Rhyddfreiniad y Pabyddion, fel deiliaid eraill y deyrnas, er eu bod yn hollol yn erbyn y gyfundrefn Babaidd. Beuid ef yn dost gan yr holl dref, ac yn wir gan rai o'i gyfeillion ei hun hefyd, yr hyn oedd yn chwerwi ei brofedigaeth; a dywedai y dref