ei fod yn pleidio Pabyddiaeth, Daroganid gan y rhan fwyaf y deuai y Pabyddion i losgi eu Beiblau. Ni chant, myn—— ebe un gwr mawr ag oedd yn swyddog yn y porthladd dan y llywodraeth, byth losgi fy Mibl i, mi cuddia i o yn rhywle na ddo nhw byth hyd iddo.' Ie, ie, gallai ef fforddio byw hebddo yn burion, ffordd bynag y troai y mater. Yr oedd y dref yn ferw drwyddi. Ond mewn gwirionedd, llawer gwell y gwyddai rhai o honynt y pryd hwnw pa fodd i hwylio llongau, a phentyru cyfoeth, ac eraill oedd dan eu hawdurdod, a wyddent yn well pa fodd i ddal pysgod, a chasglu cregin duon, a chregin cocos, nag y deallent beth oedd natur gwir ryddid gwladol a chrefyddol. Yn y cythrwfl hwn, ciliodd lluaws o'r gwrandawyr o gapel yr Annibynwyr, ac ni ddaethant iddo byth mwyach! Mynai un dyn mileinig, yr hwn oedd cyn ddyled a llô ar y pwngc, roddi barilad o bowdr yn y seler o dan y capel, a'i chwythu i'r cymylau! Oni buasai fod arno ofn y gyfraith efe a gyflawnasai ei ddymuniad, a mwy na thebyg yr yfasai efe yn deilwng o'i gymeriad cyffredin, farilaid o gwrw ar ol hyny gyda'i gymdeithion i gydorfoleddu a hwynt am ei orchestion, ond fel y dygwyddodd, trodd y fantol dros y Bil! Er hyny, effeithiodd hyn er niwaid dirfawr i'r achos Annibynol yn y dref hono am flynyddau lawer, ie, edrychid arno gan lawer gyda dirmyg. Cyhoeddwyd hanes yr helyntion hyn drwy y wasg Seisnig, er hysbysrwydd i luaws o Saeson a ddeuant i'r porthladd hwn yn yr haf, ac er amddiffyniad teg i'r achos, ac i'r gweinidog ieuangc. Dygwyddodd i Mr. T. W. Jenkyn, y pryd hwnw o Groesoswallt, (wedi hyny Dr. Jenkyn, awdwr y llyfr rhagorol ar yr Iawn,) ddyfod i Abermaw yn mhen rhyw dair blynedd ar ol y cythrwfl, yr hwn wedi gweled yr hanes blaenorol am dano, a chwiliodd i mewn i'w wirionedd, ac ar ol cael sicrwydd fod yr hanes a welsai yn berffaith gywir, a ysgrifenodd ei farn a'i dystiolaeth ar y pwngc, gan roddi caniatad i'r gweinidog a'i gyfeillion i wneyd y defnydd cyhoeddus a fynent o hyny. Er hyn oll yn mlaen yr elai yr achos yn y tri lle, yn enwedig yn yr Abermaw a'r Dyffryn. Ar nos Sabboth yr unfed-ar-bymtheg o fis Chwefror, 1840, ymwelodd yr Arglwydd a'i bobl mewn modd amlwg a nerthol iawn. Yr ydys yn cofio yn dda beth oedd y testyn y noson hono, sef Gen. iv. 3.,—"A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymryson fy ysbryd â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe." Nid oedd dim yn hynod gyffrous, yn fwy na chyffredin, yn ystod y rhan gyntaf o'r bregeth, ond gwelid rhyw ddifrifwch anarferol yn y gwrandawyr, a theimlai y gweinidog ei hun felly. Tua'r rhan olaf o'r bregeth gwelid y gynnulleidfa yn gwelwi yn awr ac eilwaith, a chlywid gruddfanau dystaw a dwysion, yn enwedig pan adroddid y gair "yn dragywydd," ddwy waith neu dair yn olynol. Wedi gwasgu atynt am iddynt roddi eu hymrysonfa âg Ysbryd Duw i fyny yn ddioed, terfynwyd y bregeth. Yna rhoddwyd penill i'w ganu, ond er mawr syndod i'r pregethwr, ni chyfodai y pen-canwr ar ei draed i gynyg y mesur. Ailadroddwyd y penill, ond ni wnai neb un osgo i godi ar ei draed, mwy na phe buasent wedi eu hoelio wrth eu heisteddleoedd! Cyfeiriai y gweinidog at un o'r brodyr oedd yn rhywle yn agos i'r pulpud, gan ddyweyd wrtho, "Rowland, codwch chwi y mesur." Cynygiodd agor ei enau, ond eisteddodd yn y fan. Yn hytrach nag i'r moddion derfynu felly, cynygiodd y gweinidog ei hun wneyd yr un peth, oblegid gwyddai yn dda pa dôn a wnelsai y tro. Seiniodd nodyn neu ddau, a dyna y cwbl. Ar hyny, ymollyngodd y gynnulleidfa i ruddfan ac wylo, ac amryw o honynt a weddient yn daerion, fel dynion ar ddarfod am danynt.