Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/509

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth rhyw ychydig allan o'r addoldy, ond dychwelasent i mewn drachefn fel dynion wedi haner hurtio! Dywedir am un dyn a aeth allan, ac a aeth i ben pellaf y dref yn bennoeth, ac iddo redeg yn ei ol gan ddychryn i'r capel, ac iddo roddi naid uchel ar ganol y llawr, gan ddiolch i Dduw na buasai wedi ei daflu ef i uffern; ie, tybiodd fod yr Arglwydd ar wlawio arno dân a brwmstan o'r nefoedd! Yr oedd Duw yn wir yn y lle! Parhaodd yr ymweliad dwyfol hwnw yn Abermaw ac yn y Dyffryn hefyd am gryn amser, a daeth lluaws o bechaduriaid dychweledig i'r eglwysi; eithr parhaodd rhai o'r gwrandawyr yn ystyfnig drwy y cwbl, er maint o anesmwythder a brofasant yn eu meddwl yn yr adeg hono.

Bu y gymdeithas ddirwestol yn foddion i feithrin mwy o undeb a brawdgarwch rhwng enwadau crefyddol a'u gilydd. Gan y cynhelid cyfarfodydd i areithio ar yr achos yn y gwahanol gapeli ar gylch, yn enwedig yn y gauaf, pryd y byddai y morwyr gartref, yr oedd dynion crefyddol yn dyfod i fwy o gydnabyddiaeth a'u gilydd, ac i ymgymdeithasu yn amlach, a thrwy hyny caent gyfleusderau i glywed gwahanol ddoniau, ac felly dygid hwynt i feddwl yn well am eu gilydd. Crybwyllir etto un hanesyn er dangos gwrthuni cenfigen a dallbleidiaeth. Yr oedd person Seisonig, wedi dyfod i fyw i ymyl Abermaw, er mwyn ei iechyd yn benaf, yr hwn ar ei gychwyniad i Loegr, i dderbyn ei ddegymau gan ei blwyfolion, a ddywedodd wrth ei was am werthu ei ferlyn, erbyn y dychwelai efe adref o'i daith, gan benodi ei bris. Cyflawnodd y gwas ei archiad. Wedi i'r boneddwr ddychwelyd, ymofynodd cyn hir a'i was yn nghylch y merlyn. Dywedai yntau ei fod wedi ei werthu, a chael tâl am dano.

"I bwy, Robert ?" "I Mr. Evans," ebe yntau, "gweinidog yr Annibynwyr." Ar hyny ymwylltiodd y meistr, ac a fygythiodd ei was, gan ddyweyd wrtho, y troid ef allan o'i wasanaeth ef, oni cha'i efe y merlyn yn ei ol, a hyny yn ddioed hefyd, gan ddyweyd, "Ni chaiff fy merlyn i gario un Dissenting Minister byth! Ond druan o hono, yr oedd y merlyn wedi cael y fraint o gario Dissenting Minister eisioes! Daeth gwraig y gwas trallodedig at Mr. Evans, dan wylo i erfyn arno roddi y merlyn yn ei ol, er ei mwyn hi a'i phriod a'i phlant. O'r diwedd efe a wnaeth hyny. Beïd ef gan lawer o'i frodyr am na buasai yn fwy llewaidd na hyny, ond fodd bynag, y mae y merlyn erbyn hyn wedi darfod am dano er's blynyddau, a'r person yn nhragwyddoldeb er's talm mawr, a'r Dissenting Minister yn fyw, ac yn iach, ac yn diolch i'r Hwn a ofalodd am dano trwy ei oes hyd yr awr hon."

Yn y flwyddyn 1844, ymadawodd Mr. Evans i Maentwrog, ar ol llafurio yma am yn agos i ugain mlynedd. Cyn diwedd y flwyddyn hono, derbyniodd Mr. James Jones, Capelhelyg, alwad i ddyfod yn weinidog yma, ac wedi bod yma yn ddiwyd ac ymdrechgar am bum-mlynedd-ar-hugain, teimlai Mr. Jones nad oedd yn alluog fel cynt i gyflawni ei ddyledswyddau, ac wedi ei dderbyn yn flaenorol ar Drysorfa yr hen Weinidogion, ymryddhaodd o'i ofalon gweinidogaethol ar y Sabboth cyntaf yn Ionawr, 1869, ond y mae yn parhau i drigianu yma, ac yn pregethu yn rhywle bob Sabboth, ac yn hynod o gymeradwy gan bob enwad crefyddol. Ar Sabboth cyntaf yn Tachwedd, 1869, dechreuodd Mr. David Evans, Rhosymedre, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau yma, a'r achos ar y cyfan mewn gwedd gysurus. Mae y capel mewn lle pur anghyfleus, a theimlir er's blynyddoedd y dylasai fod yma gapel llawer rhagorach i ateb cynydd poblogaeth, a gwelliant adeiladau y lle, ond yr anhawsder oedd