ol llafurio yn dderbyniol yn y cylch hwn am bum' mlynedd, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Southchurch a Hawkchurch, yn sir Dorset, a symudodd yno. Bu yno am saith mlynedd, ac yn 1835, symudodd i Kenchester, yn sir Henffordd, lle y llafuriodd hyd derfyn ei oes. Bu farw Ionawr 22, 1852, yn 56 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys plwyf Kenchester. O ran ei ymddangosiad, gwr tal, lled denau ydoedd, a'i wynebpryd yn nodedig o brydferth a hawddgar. Yr oedd yn ddyn cyfeillgar iawn, ac yn rhyfeddol o nefolfrydig, ac yn bregethwr efengylaidd a deniadol iawn.
DAVID THOMAS, oedd fab Miles Thomas, Dilledydd, o ardal y Bont-faen, yn Mro Morganwg. Ganwyd ef Mai 19, 1783. Yr oedd ei dad yn ddyn crefyddol iawn, ac felly nis gallasai lai na bod i raddau dan argraffiadau crefyddol o'i febyd, ond ni ddaeth yn aelod eglwysig cyn ei fod yn bedair-ar-bymtheg oed. Derbyniwyd ef yn y Maendy, gan Mr. Methusalem Jones, yr hwn oedd yn gofalu am yr eglwys hono y pryd hwnw. Yn fuan ar ol ei dderbyn, dechreuodd bregethu, ac aeth i'r athrofa i Wrexham, dan ofal y Dr. Jenkin Lewis. Pregethu oedd yn myned a'i holl fryd ef, ac felly ni ddarfu iddo ddysgu fawr tra y bu yn yr athrofa. Dywedir iddo mewn un flwyddyn, pan yn Wrexham, bregethu gant a haner o weithiau. Wrth fyned yn mlaen felly nis gallasai ymdrafod llawer â Virgil, Homer, ac Euclid. Ar ol gorphen ei amser yn yr athrofa, ymsefydlodd yn Llan- tarnam, yn Mynwy, ac ail ymafaelodd yn ei alwedigaeth fel dilledydd, ond ni roddodd heibio ei hoff waith o bregethu. Teithiai yn mhell ac agos trwy fro Mynwy i bregethu'r gair. Yn yr amser y bu yn byw yn Llantar- nam, bu yn offerynol i adeiladu capel a chasglu eglwys fechan yn Maes- llech. Yn 1815, symudodd i blwyf Wolvasnewton, rhwng Casgwent a Threfynwy. Cafodd yno faes eang i arfer ei ddoniau fel efengylwr, gan fod yn y cylch hwnw tua deugain o blwyfydd bychain heb un addoldy Ymneillduol yn un o honynt. Darfu iddo yn ddioed drwyddedu pedwar o anedd-dai at bregethu mewn gwahanol gyrau o'r ardal, a chyn pen pedair blynedd, yr oedd wedi llwyddo i gasglu eglwys ac adeiladu addoldy, yr hwn a alwodd Nebo. Agorwyd y capel Mawrth 25, 1819, ar dydd can- lynol urddwyd yntau yn weinidog yno. Ni chyfyngodd ei lafur i Nebo yn unig, ond teithiai lawer trwy siroedd Mynwy a Chaerloew. Trwy ei ymdrechion ef yr adeiladwyd capel yn Hewesfield, ac y casglwyd eglwys yno. Casglodd hefyd 500p. at adeiladu capel yn Nhrefynwy. Yn 1828, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Llanfaches, a symudodd yno, ond gofalai am eglwys Nebo, yn gysylltiedig a Llanfaches, tra y bu fyw. Wedi oes hir o lafur diflino, hunodd y gwas ffyddlon hwn yn yr Arglwydd yn mis Tachwedd, 1864, yn bedwar ugain ac un mlwydd oed.
Yr oedd David Thomas yn gymeriad ar ei ben ei hun. Nid oedd ei alluoedd fel pregethwr ond lled gyffredin, ond yr oedd ei dduwioldeb puritanaidd, a'i ddiwydrwydd diattal, yn ddigon i wneyd i fyny am ei ddiffygion mewn galluoedd a dysg. Gwasanaethu ei Arglwydd oedd hyfrydwch ei fywyd, a bu farw yn y gwaith. Digwyddodd peth hynod iddo ar ei wely angau. Un noson pan oedd ei blant, ac un o aelodau yr eglwys, yn eistedd wrth ei wely, a'i feddwl yntau wedi dechreu dyrysu, tybiodd mai mewn cyfarfod parotoad yr ydoedd, a bod yno wr ieuangc o'r ardal, yr hwn a enwodd, yn dyfod yn mlaen i gael ei dderbyn. Aeth trwy y ffurf arferol o'i holi a gofyn ei gydsyniad ag amodau y cyfamod eglwysig, gan ei gynghori yn y modd difrifolaf i fod yn ffyddlon a byw yn deilwng o'i