Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/510

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael lle cyfleus i adeiladu arno. Chwiliodd Mr. Jones, y gweinidog, a'r diweddar Mr. David Jones, Fferyllydd, lawer am le, ond yn ofer, ond y mae yn dda genym ddeall fod darn o dir mewn safle fanteisiol wedi ei sicrhau, ac y bwriedir yn ddioed i godi arno addoldy prydferth. Bu teulu Bodwilym yn hynod o garedig i'r achos o'r dechreuad. Llettywyd ugeiniau o weinidogion o dan eu cronglwyd, ac yr oedd eu tŷ yn lletty fforddolion i bawb a ddeuai heibio. Yr oedd Mrs. Griffith, yn arbenig, yn wraig ddoeth a synwyrol, yn deall yr efengyl, ac yn meddu cydymdeimlad dwfn a'i gwirioneddau, ac yn ei thymer a'i hysbryd, yn deilwng o'i hybarch dad, y diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair. Dylai "Y Gohebydd," ar bob cyfrif, ysgrifenu cofiant iddi, oblegid gwyddom y cydnebydd ei fod yn ddyledus i'r "brophwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo."

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

Robert Roberts. Symudodd i Tanygrisiau, Ffestiniog, a bu farw yno.

John Roberts. Urddwyd ef yn Llanerchymedd, ac y mae yn awr yn Brymbo.

Robert Evans. Aelod o Danygrisiau ydoedd, ond ei fod yma yn yr ysgol. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Llanfair Caereinion, ac y mae yn awr yn Bethel, Aberdare.

Lewis Williams. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Llanarmon, ac y mae yn awr yn y Bontnewydd, gerllaw Caernarfon.

DYFFRYN ARDUDWY.

Pregethwyd rai troion yn yr ardal hon gan Mr. Hugh Pugh, Brithdir, ond ni phregethwyd gydag un cysondeb, hyd ddechreuad gweinidogaeth Mr. C. Jones, Dolgellau, ac o'i amser ef y gellir cyfrif dechreuad yr achos yma. Arferai bregethu yn y Pandy, lle y trigai Abraham ac Anne Jones, ac wedi iddynt hwy ymadael, pregethai yn yr Hen siop. Byddai Mr. Jones yn myned yno yn gyffredin unwaith yn y mis. Cadwai gyfeillach yno nos Sadwrn, a phregethai am haner awr wedi naw boreu Sabboth, ac elai i'r Cutiau erbyn dau o'r gloch.[1] Ar ol hyny pregethid yn Pantgwyn, lle yr oedd un o'r enw Griffith Evans, yn byw. Yn 1821, priododd Miss Anne Evans, merch Mr. Griffith Evans, Tymawr, Towyn, â Mr. Griffith Griffiths, o Daltreuddynfawr, a daeth yno i fyw. Yr oedd hi eisioes yn aelod yn y Towyn, ac yn ferch ieuangc grefyddol, ac o'r adeg yma y gellir dyddio ffurfiad yr eglwys yn y Dyffryn. Gogwyddwyd meddwl ei phriod cyn hir i geisio yr Arglwydd, a bu yn swcr mawr i'r achos. Ond ar Mrs. Griffith yr oedd y gofal yn benaf, ac yr oedd o ran galluoedd meddyliol, a gwybodaeth a theimlad crefyddol, yn un o'r rhai rhagoraf a allesid gyfarfod. Arni hi yn aml y disgynai darllen penod yn nechreu cyfarfod gweddi, ac arwain y canu, a gweddiai yn gyhoeddus, os na byddai neb arall i'w gael, a llawer gwaith y darllenodd bregeth i'r gynnulleidfa o ryw lyfr, os digwyddai iddynt gael eu siomi am bregethwr. Bu ei thŷ hyd ddiwedd ei hoes yn gartref i achos yr Arglwydd. Cymerodd Mr. Evans ofal y lle pan y sefydlodd yn Abermaw. Wrth weled yr achos yn dyfod rhagddo, teimlodd fod angen am le mwy cyfleus i addoli na Pantgwyn, ac ymgymerodd Mr. Griffiths, Taltreuddyn, a'r gofal a'r cyfrifoldeb o edrych ar ol y gwaith.

  1. Ysgrif Mr. C. Jones.