Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/511

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y capel yma a chapel yr Abermaw yn cael eu codi yr un flwyddyn, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1828. Bu yma adfywiad grymus yn 1839 a 1840, pryd yr ychwanegwyd cryn lawer at yr eglwys. Wedi ymadawiad Mr. Evans, i Faentwrog yn 1844, cymerodd Mr. James Jones, ofal yr eglwys, a bu yn ffyddlon yn gofalu am y lle, nes y rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn nechreu 1869. Daeth Mr. David Evans yma yn Tachwedd, yr un flwyddyn, ac y mae yn parhau i ofalu yn gyson am y lle. Yr oedd hen gapel y Dyffryn wedi myned yn adfeiliedig, ac yr oedd yr eglwys ar ganol codi capel newydd pan ddaeth Mr. Evans yma, ac agorwyd ef Mai 18fed a'r 19eg, 1870, pryd y pregethodd Meistri W. Rees, Liverpool; R. Thomas, Bangor; O. Evans, Llanbrynmair, ac E. Evans, Caernarfon. Costiodd fwy na 500p., ond y mae haner y ddyled wedi ei thalu yn barod, a hyny agos yn hollol trwy ymdrechion cartrefol. Ofnai rhai pan y cauwyd drws Taltreuddyn wedi marwolaeth Mrs. Griffiths, na buasai neb i ofalu am yr achos, ond gofalodd yr Arglwydd i agor drysau a chalonau i groesawi ei achos ef, ac y mae yr eglwys yma mor siriol a gweithgar ac y gwelwyd hi erioed.

Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef, Henry Roberts, yr hwn sydd mewn masnach yn Liverpool, ac yn bregethwr parchus yn yr eglwys dan ofal Dr. Rees, yn Grove-street.

TALYSARNAU.

Pentref bychan tua haner y ffordd o Maentwrog i Harlech. Ni bu gan yr Annibynwyr achos rheolaidd yn y lle hwn hyd yn ddiweddar iawn, er fod y diweddar Mr. H. Lloyd, Towyn, wedi bod yn pregethu yn achlysurol yn yr ardal pan oedd yma yn cadw ysgol. Pan ddigwyddai aelodau i'r Annibynwyr symud i'r gymydogaeth, pa un bynag ai teuluoedd cyfain, ai personau unigol i wasanaethu fyddant, yr oeddynt o angenrheidrwydd yn ymuno ag enwadau eraill. Er fod y Penrhyn yn agos, etto, gan fod Traethbach yn gulfor peryglus ac anghyfleus i'w groesi, ychydig o dramwy fyddai o'r naill ardal i'r llall. Ond yn y flwyddyn 1866, daeth teulu i fyw i'r gymydogaeth, sydd yn Annibynwyr rhy gadarn i newid eu henwad am ychydig o fantais, sef John Jones, dilledydd; un o hen ddisgyblion y diweddar Eta Delta, o gymydogaeth y Mynaddwyn, gerllaw Llanerchymedd, a chan fod pont wedi ei gosod yn haf y flwyddyn hono dros y Traethbach, mewn cysylltiad a phont y Cambrian Railway, cymellodd John Jones, Mr. Edward Morris, Penrhyn, i ddyfod i bregethu yn achlysurol i'w dŷ ef ar ambell noson waith, a Gorphenaf 27ain, o'r flwyddyn hono, y pregethodd yno gyntaf. Bu Meistri J. Williams, Maentwrog; W. Roberts, Tanygrisiau, a J. Jones, Abermaw, yn ffyddlon i ymweled a'r lle ac i gynorthwyo.[1] Ymwasgodd rhai Annibynwyr oedd wedi aelodi gydag enwadau eraill at eu brodyr, pan ddechreuwyd ymgynull, megis Morgan Evans, y saer, a'i deulu, a chynygiodd cyfaill selog o'r enw Humphrey Lloyd, Cefntrefor, ardrethu ystafell at wasanaeth yr achos am y pris rhesymol o 2p. 2s. yn y flwyddyn. Cafwyd cymorth arianol o'r eglwysi. cylchynol i ddodrefnu yr ystafel yn gryno a destlus, ac addewid gan undeb chwarterol y sir, i dalu ardreth yr ystafell, yn nghyda swm penodol at gynal

  1. Ysgrif Mr. E. Morris, Penrhyn.