Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/513

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffith, Mynhadogisaf, plwyf Dolyddelen, a Lowry ei wraig, wedi eu derbyn yn aelodau yn Nolyddelen cyn hyny, a byddai pregethu achlysurol yn eu tŷ hwy, a buont yn gefn mawr i'r achos yno. Yr oedd gan Lowry Griffith frawd, o'r enw William Evans, yn byw yn Nghwmbywydd, Ffestiniog, a chymellai ei brawd i agor ei dŷ i'r efengyl. Amlygodd yntau ei barodrwydd i hyny, os cawsai bregethwr. Yn mhen pythefnos wedi i Mr. Roberts, Bangor, fod yn pregethu yn Nhaly waunydd, yr oedd Mr. Edward Davies, Rhoslan—Trawsfynydd yn awr—yn myned am Sabboth i Ddolyddelen, a nos Sadwrn gofynodd Lowry Griffith iddo, a wnai efe bregethu ar ei ddychweliad ddydd Llun yn nhŷ ei brawd yn Cwmbywydd. Addawodd Mr. Davies gyda'r parodrwydd mwyaf, ac anfonodd hithau yno i'w hysbysu y pregethai Mr. Davies yno ganol dydd Llun; ac felly bu. Nid oedd ond dau heblaw teulu y tŷ yn yr oedfa; ac Ellis Edwards, Penrhostad Mr. Edwards, Aberdare—oedd un o honynt. Daeth Meistri D. Griffith, Bethel; J. Lewis, Bala; W. Jones, Penstryd; J. Roberts, Capelgarmon; a J. Jones, Bancog, yn fuan i bregethu i Gwmbywydd, ac i dai eraill yn y gymydogaeth; a dechreuwyd cynal cyfeillachau crefyddol fel rhagddarpariaeth i gorpholiad eglwys yn y lle. Ar un prydnhawn Sabboth, yn y flwyddyn 1817, yr oedd Mr. Davies, Rhoslan, yn pregethu yn Maenofferen, ac ar ddiwedd yr oedfa ffurfiwyd yno eglwys, a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Mae enwau y personau a ymffurfiodd yn eglwys yma yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth; dyma hwy—William Davies, Maenofferen; Jenet Morris, gweddw John Hughes, Cefnfaes, am yr hwn y crybwyllasom; Catherine Evans, Hafodfraith; Catherine Edwards, Penrhos, (mam Mr. Edwards, Aberdare); William Jones, brawd Catherine Edwards; William Evans, Cwmbywydd, a William Hughes, Fronlas. Er nad oeddynt ond saith o rifedi, etto, dyna flaguryn yr achos sydd erbyn heddyw wedi ymganghenu trwy yr holl blwyf; ac wedi myned yn bren mawr, a llawer saith yn nythu arno. Yn fuan wedi hyn darfu i Ellis Edwards, Penrhos, a David Williams, Maenofferen, a'i wraig, yn nghyd ag amryw eraill, ymuno a'r achos; a chyn pen nemawr o amser aeth y tai lle y cynhelid y moddion yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuent yn nghyd. Yr un flwyddyn ag y corpholwyd yr eglwys, gwelwyd yn angenrheidiol cael capel, a chafwyd tir ar ystad Tanymanod, a chodwyd addoldy cyfleus arno, yr hwn a alwyd Bethania. Aeth yr achos rhagddo yn siriol iawn, ac yr oedd agoriad gweithiau y llechfeini yn peri fod cryn gynydd yn y boblogaeth, fel y codwyd nifer o dai newyddion. Bu hen weinidogion a phregethwyr y cyfnod hwnw yn nodedig o ffyddlon i'r achos; ond y maent oll erbyn hyn wedi myned ond Mr. Griffith, Bethel, a Mr. Davies, Trawsfynydd. Ond fel yr oedd yr achos yn myned rhagddo, teimlid fod angen gweinidogaeth mwy sefydlog. Yn fuan wedi codi y capel rhoddwyd galwad i Mr. Owen Jones, i ddyfod yma i bregethu a chadw ysgol; a bu yma am yn agos i ddwy flynedd. Yr oedd Owen Jones yn ddoniol iawn fel pregethwr, a phe buasai ei gymeriad yn cyfateb i'w ddoniau gallasai fod o ddefnydd mawr. Ymadawodd oddiyma i Lanaelhaiarn, lle yr urddwyd ef. Yn y flwyddyn 1820, daeth Mr. John Williams yma, yr hwn a fuasai am ddwy flynedd yn efrydydd dan addysg Dr. Phillips, Neuaddlwyd; ac wedi i'r eglwys gael boddlonrwydd ynddo, rhoddwyd galwad iddo, ac urddwyd ef Mai 30ain, 1821. Yr oedd amryw o weinidogion sir Feirionydd a sir Gaernarfon yn bresenol yn ei urddiad, yn nghyd a'i athraw, Dr. Phillips, yr hwn a bregethodd i'r