Llanfyllin. Holwyd yr urddedig gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. A. Jones, Bangor. Pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r eglwys. Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd hefyd gan Meistri W. Roberts, Penybontfawr; J. Griffith, Rhydywernen; S. Roberts, Llanbrynmair; J. H. Hughes, Llangollen; ac S. Jones, Maentwrog. Tua phedair blynedd y bu Mr. Fairclough yma, ac nid oedd yr eglwys ac yntau yn cyd-dynu yn rhy dda yn yr yspaid hwnw. Ymadawodd i Cornwall, lle y bu dros ychydig. Rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwys yn Saron, alwad i Mr. Richard Parry, Conwy, yn fuan wedi i Mr. Fairclough ymadael, ac er na chymerodd ofal yr eglwys y pryd hwnw, daeth yma ar ol hyny, a bu yn dra defnyddiol yma dros rai blynyddoedd, nes yn 1854, yr aeth yn ol i Gonwy, ac yr ymgymerodd a sefydlu achos, a chodi capel yn Llandudno, lle y mae yn aros etto. Yn niwedd 1857, rhoddodd yr eglwysi yn Bethania a Saron alwad i Mr. David Lloyd Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef ar ddydd Nadolig y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Thomas, Liverpool. Holwyd y gweinidog gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. John Jones, Green, (tad yr urddedig). Pregethodd Mr. M. D. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. R. Parry, Conway, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri R. Ellis, Brithdir; W. Roberts, Penybontfawr; a J. Jones, Maentwrog.[1] Bu Mr. Jones yma yn llafurus iawn am yn agos i ddeuddeng mlynedd, a gwelodd ffrwyth i'w ymdrechiadau. Rhoddwyd oriel o gylch capel Bethania, ac ad-drefnwyd ef drwyddo, fel y mae yn gapel eang a chyfleus. Ymgymerodd Mr. Jones a bod yn oruchwyliwr i'r Wladychfa Gymreig, a rhoddodd y weinidogaeth i fyny er mwyn hyny; ond er hyny y mae wedi ailgymeryd a gofal gweinidogaethol, ac y mae yn awr yn Rhuthin. Mae yr eglwys er ymadawiad Mr. Jones heb weinidog, ond y mae yr achos yn myned rhagddo yn siriol iawn. Bu yma amryw bersonau mewn cysylltiad a'r eglwys er ei sefydliad, a ennillasant iddynt eu hunain radd dda. Coffeir yn barchus am hen bobl Cwmbywydd, y rhai a fuont yn nodedig o ymgeleddgar i'r achos yn ei wendid. Yr oedd William Evans yn nodedig am danbeidrwydd ei ddawn fel gweddiwr. Rhagorai William Hughes, Fronlas, fel cynghorwr doeth a phwrpasol. Meddai William Jones, Penygelli, ar gallineb mawr i drin dynion; a bu y lle am dymor hir yn gartref cysurus i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Ellis Edwards, Penrhos, oedd bob amser yn barod i bob gweithred dda, ac yn ieuangc ei ysbryd hyd ei ddiwedd. Gwnaeth David Williams, Cwmbywydd, fwy na neb arall yma gydag amgylchiadau allanol yr achos, a chyda chaniadaeth y cysegr.
y cysegr. Gyda chodi y capel, a rhoddi oriel ynddo drachefn, a chynllunio i dalu y ddyled, nid oedd yma neb o gyffelyb feddwl iddo; a chyda chodiad capel newydd Fourcrosses, yr oedd mor dra awyddus am gael pob peth wedi ei orphen, a phe buasai yn gwybod fod amser ei ymadawiad yn ymyl. Nid oes yma yn aros o'r hen deulu ond yr hybarch Pierce Jones, Penygelli, yn unig, ac y mae efe yn parhau yn fywiog fel llange. Coffeir hefyd gyda hiraeth am rai gwragedd rhagorol a fu yma yn famau yn Israel, ac nid yn fuan yr anghofir caredigrwydd a llettygarwch teuluoedd Fronlas, Penrhos, a Chwmbywydd.
- ↑ Dysgedydd, 1843. Tu dal. 286.