Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/516

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

Evan Griffith. Bu dan addysg gyda Dr. Jenkyn, yn Nghroesoswallt. Urddwyd ef yn Llanegryn. Ymfudodd i America er's mwy nag ugain mlynedd, ac y mae yn parhau yn gryf i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab.

William Edwards. Bu am dymor dan addysg yn Liverpool, ac wedi hyny treuliodd bedair blynedd yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Ebenezer, Aberdare, er's saith-mlynedd-ar-hugain yn ol, ac y mae yn parhau yno, a gobeithiwn fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb yn ei aros.

John Isaac. Ganwyd ef yn yr ardal yma, yn y flwyddyn 1813. Ni chafodd nemawr ddim manteision crefyddol pan yn ieuangc, a threuliodd rai o flynyddoedd goreu ei oes i ddilyn rhysedd ac annuwioldeb ei gyfoedion gwyllt ac anystyriol. Daliwyd ef gan Dduw yn nghanol ei wylltineb, a dygodd arwyddion amlwg o gyfnewidiad cyflwr. Derbyniwyd ef yn aelod yn Bethania, pan yn 22 oed. Gwnaeth y fath gynydd mewn gwybodaeth, ac ymagorodd ei ddoniau, fel yr anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu. Cyrhaeddodd boblogrwydd fel pregethwr ieuangc, y fath ag a barai i'w gyfeillion ddisgwyl pethau mawr oddiwrtho. Nid ydym yn meddwl ei fod yn gryf iawn o ran nerth meddyliol a galluoedd dealldwriaethol, ond yr oedd yn llawn iawn o ysbryd pregethu. Cyfansoddai yn drefnus, ac yr oedd ei ddrychfeddyliau yn gyffrous, a'i draddodiad yn hyawdl. Ystyriai rhai ef yn eithafol ei olygiadau, ac yr oedd felly i fesur, ond yr oedd yr eithafion hyny yn ddigon naturiol i ddyn o'i dymheredd ef mewn adeg fywiog ar grefydd, a phe cawsai fyw mae yn bur sicr y daethai allan o honynt, fel y daeth rhai oeddynt mor eithafol ag yntau. Bu am ychydig yn Marton dan addysg, ond buan y gwelwyd nas gallasai ddal i efrydu yn galed, oblegid yr oedd ei iechyd yn rhoi ffordd. Gan fod Bethania heb un gweinidog, anogwyd ef gan ei gyfeillion i aros gartref i'w cynorthwyo hwy. Ymaflodd y darfodedigaeth angeuol ynddo, a deallodd fod ei ddydd gwaith ar ben, ond nid ysigwyd ei hyder yn ei Waredwr. Bu farw Mawrth 19eg, 1841, yn 28 oed. Fel hyn y dywed y diweddar Mr. Samuel Jones, Maentwrog, wrth derfynu bywgraphiad byr iddo, yn Nysgedydd 1842, tu dal. 166.—" Fel yna syrthiodd milwr glew yn y frwydr, a'i arfau yn loywon, gwywodd rhosyn prydferth o ardd yr eglwys, cyn cyflawn agor i daenu arogl peraidd o'i gwmpas. Wrth weled ei haul yn codi mor foreu, ac yn tywynu mor ddysglaer, gallesid meddwl yr aethai yn fuan dan gwmwl. Bu ei farwolaeth yn alar i'w berthynasau, yn siomedigaeth i ddisgwyliadau ei gyfeillion, ac yn golled i eglwys Dduw am dalentau gwerthfawr a dysglaer, ond yn ennill bythol iddo ef."

John Morris. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Bwlchyffridd, ond siomodd ddisgwyliadau ei gyfeillion goreu.

Griffith Griffith. Addysgwyd ef yn athrofa Hackney, Llundain, ond ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, ymfudodd i'r America, ac y mae yno yn weinidog cymeradwy. Mae yn frawd i Mr. E. Griffith a enwyd gyntaf.

Richard Solomon Williams. Addysgwyd ef yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn weinidog yn y lle olaf a enwyd, ac y mae yn aros yno yn dra derbyniol.

Isaac J. Evans. Bu yn fyfyriwr yn athrofa y Bala, ac y mae newydd gael ei urddo yn Penheolgerig, Merthyr Tydfil.