Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/517

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLAN, FFESTINIOG

Dechreuwyd pregethu yma tua'r flwyddyn 1834, yn nhymor gweinidogaeth Mr. Thomas Davies, yn Bethania. Yr oedd pregethu cyn hyny yn y Coedbach, Cwmcynhafal, er's amryw flynyddoedd, a chynnulleidfa dda yn dyfod yn nghyd bob Sabboth. Pregethid yno yn gyson gan Mr. Davies, neu gan un o'r gwyr ieuangc oedd newydd ddechreu pregethu yn Bethania. Ond trwy ryw amgylchiadau, rhoddwyd i fyny bregethu yno, a daeth y rhai oedd yn aelodau ac ymunasant a'r achos oedd erbyn hyn er's blynyddau wedi ei ddechreu yn y Llan. Dechreuwyd pregethu yma mewn tŷ bychan oedd yn sefyll y tu ol i'r man lle y mae yr Abbey Arms yn sefyll. Gwnaed ef ar lun capel bychan, ond yr oedd yn anghyfleus iawn, y tu cefn i'r tai, ac o olwg yr heol, fel nas gallasai neb feddwl fod yno le i addoli, oddigerth eu bod yn gwybod hyny eisioes. Gelwid y lle yn Saron. Yn nglyn a gweinidogaeth Bethania y bu y lle hyd ymadawiad Mr. Davies, yn y flwyddyn 1839. Yn y flwyddyn hono hefyd, gan fod y lle y cyfarfyddent yn anghysurus, a'r achos wedi casglu mesur o nerth, penderfynwyd codi capel newydd mewn lle mwy manteisiol. Gan fod y tir yn llechweddog ac anwastad, cynlluniwyd i gael anedd-dai o dan y capel, ac elid i mewn i'r capel un ochr, ac i'r anedd-dai yr ochr arall. Costiodd swm mawr o arian, ac aeth y gweinidogion cymydogaethol, ac eraill, yn gyfrifol am y ddyled, a chafwyd llawer o helbul a gofid o'i herwydd. Ar sefydliad Mr. Samuel Jones yn Maentwrog, yn niwedd 1840, cymerodd hefyd ofal Llan, Ffestiniog, ac ni bu yr un fam erioed yn fwy ei phryder am blentyn afiach, nag y bu Mr. Jones am yr achos egwan hwn. Pan yn casglu ato yr ymaflodd afiechyd ynddo, yr hwn a derfynodd yn ei farwolaeth. Wedi bod am dymor ar ol marwolaeth Mr. Jones heb weinidog, yn y flwyddyn 1844, rhoddodd yr eglwys yma mewn cysylltiad a'r eglwys yn Nhanygrisiau alwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Rhagfyr 11eg a'r 12fed, y flwyddyn hono. Ychydig gyda dwy flynedd yr arosodd Mr. Jones yma, canys symudodd i Berea, Mon, a bu wedi hyny yn Llangollen a Llanfaircaereinion, ac y mae yn America er's llawer o flynyddoedd bellach. Ar sefydliad Mr. Richard Parry, yn Bethania, cymerodd hefyd ofal y Llan, a bu ei weinidogaeth yma yn dra derbyniol. Siriolodd yr achos yn fawr yn yr yspaid y bu yma, ac yr oedd yr egni a wneid i dalu dyled y capel, yn rhoddi bywyd newydd yn yr eglwys. Wedi ymadawiad Mr. Parry, bu y lle am ychydig dan ofal Mr. O. Evans, mewn cysylltiad a Maentwrog; ond symudodd Mr. Evans yn fuan i Lundain. Wedi sefydliad Mr. David Ll. Jones, yn Bethania, cymerodd hefyd ofal y Llan, a pharhaodd yr achos i fyned rhagddo yn dra llwyddianus hyd derfyn gweinidogaeth Mr Jones. Yn niwedd y flwyddyn 1867, penderfynodd yr eglwys yma gael gweinidog iddi ei hun, a rhoddodd alwad i Mr. Zachariah Mathers, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef ddydd Nadolig, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jenkins, Pentreestyll; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Roberts, Tanygrisiau; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. J. Williams, Maentwrog; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr. W. Roberts, Tanygrisiau. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan i'r gynnulleidfa, ac yn y flwyddyn 1869, adeiladwyd yma gapel newydd eang