Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/518

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn man cyfleus yn mhen uchaf y pentref, yn ymyl y Tollborth sydd ar y ffordd o Ffestiniog i Drawsfynydd. Galwyd y capel newydd yn Bethel, ac agorwyd ef yn gyhoeddus Nadolig, 1869, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri D. Ll. Jones, Manchester; M. D. Jones, Bala; W. Edwards, Aberdare; R. Jones, Llanidloes, a J. Thomas, Liverpool. Mae Mr. Mathers yn parhau i lafurio yma, a'r achos mewn gwedd obeithiol, ac y mae yma lawer o bersonau gweithgar, y rhai a wir ofalant am yr achos.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

Edward Jones, Tŷ'nyrynys. Codwyd ef i bregethu yn Coedbach. Yr oedd yn ddyn ieuangc crefyddol iawn. Bu farw o'r frechwen yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu.

Edward Stephen. Bu yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Dwygyfylchi. Mae yn awr yn Carmel a Bethlehem, ac y mae yn hysbys i holl Gymru fel cerddor a phregethwr.

Robert Hughes. Mae yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Four crosses.

John Cadwaladr. Addysgwyd ef yn y Bala, urddwyd ef yn Birmingham, ac y mae yn awr yn yr America.

Morris Cadwaladr. Bu yn athrofa Aberhonddu, ond y mae etto heb ymsefydlu yn unrhyw le penodol.

Thomas Morris. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa y Bala.

Aelod o'r eglwys hon hefyd oedd David Parry (Dewi Moelwyn), ond yn Nghaernarfon y dechreuodd bregethu, ac yn nglyn a'r eglwys hono y bydd ein crybwyllion am dano.

TANYGRISIAU.

Dechreuwyd pregethu yn y gymydogaeth yma o gylch yr un amser ag y dechreuwyd yn Llan, Ffestiniog, gan weinidog Bethania a'r rhai a'i cynorthwyent. Yn nhŷ William Owen y pregethid fynychaf, a thua'r flwyddyn 1835, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol mewn tŷ a elwir Hen Danygrisiau. Cynorthwyid yn y gwaith hwn gan David Evans, William Owens, H. S. Parry, a'i fab Richard Parry, ac eraill. Elai yr aelodau i Bethania un pen o bob Sabboth dros rai blynyddau, a changen o'r eglwys yno yr ystyrid yr achos yma. Yr oedd Cadwaladr Roberts, Buarthmelyn, yn un o'r aelodau cyntaf yma, ac yn un o'r rhai a wnaeth fwyaf yma yn nghychwyniad yr achos. Yr oedd yn ddihafal am ei ffyddlondeb, ac yn noddi yr achos yn Nhanygrisiau, fel pe ei eiddo personol ef a fuasai. Ffurfiwyd yma eglwys cyn hir yn nhŷ Richard Llwyd, Risgenfawr, ac yno y cadwyd y cymundeb cyntaf, pryd y gweinyddai Mr. David Griffiths, Talysarn, (gynt). Yr oedd pedwar-ar-ddeg o aelodau Bethania yn ymgorphori yn eglwys yma yn y cymundeb cyntaf; ac ar y Sabboth hwnw, derbyniwyd dau fachgen ieuangc yn aelodau, y rhai a droisant allan yn ddynion rhagorol, sef Richard Roberts, Buarthmelyn, a William Williams, Beudymawr. Bu y cyntaf o'r ddau a enwyd farw trwy ddisgyniad darn o'r graig arno pan gyda'i orchwyl yn chwarel y Moelwyn, ar ol bod am lawer o flynyddoedd yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon gweithgar yn yr eglwys, ac y mae yr olaf etto yn parhau yma yn ddefnyddiol fel aelod a diacon. Yn y flwyddyn 1837, adeiladwyd yma gapel a thy wrth ei dalcen, mewn yr oedd lle serth ar y graig. Dringid i fyny iddo ar hyd rhes o risiau, fel yr oedd