yn lle costus i'w adeiladu, ac yn lle trafferthus i fyned iddo ar ol ei adeiladu. Ond dyna yr unig le yn yr ardal a allesid gael ar y pryd, ac yr oedd yn rhaid ei godi yno, neu fod heb un man. Daeth y ffordd haiarn heibio iddo ar ol hyny, a gwnaeth hyny ef yn llawer mwy anghyfleus i fyned iddo, ac o hono. Costiodd y capel 400p. Pregethwyd ynddo yn gyntaf gan Mr. W. Edwards, yn awr o Aberdare; ac yn nghyfarfodydd yr agoriad pregethwyd gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog; R. Ellis, Rhoslan, a J. Williams, Llansilin. Arosodd pymtheg o newydd yn y gyfeillach noson y cyfarfod. Bu gofal yr eglwys ar Mr. Davies hyd ei ymadawiad a Bethania, ac wedi hyny dros ychydig ar Mr. R. Fairclough, ond yn mhen amser torwyd y cysylltiad a Bethania, ac yn niwedd y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad i Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog yma ac yn y Llan, Ffestiniog, ac urddwyd ef Rhagfyr 11eg a'r 12fed. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Bala; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Evans, Maentwrog; pregethodd Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r gweinidog, a Mr. W. Ambrose, Porthmadog, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri T. Edwards, Ebenezer, ac R. Ellis, Brithdir.[1] Ni bu Mr. Jones yma ond dros dymor byr, canys ymadawodd yn 1847, i Berea, Mon. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog ar ol hyny am yn agos i ugain mlynedd, ac er hyny, parhaodd yr achos i fyned rhagddo a chasglu nerth. Yr oedd Cadwaladr Roberts yn gofalu fel tad am yr achos, a phawb yn gadael iddo gael ei ffordd, oblegid ei fod yma o'r dechreuad, ac yn ffyddlon dros fesur. Ni chai yr un pregethwr lonydd ganddo heb addaw Sabboth yn Nhanygrisiau, os tybiai y byddai ei wasanaeth o werth, ac nid yn waglaw y gollyngid ymaith y rhai a ddeuai; ac ar ddiwedd gwaith un Sabboth yr oedd yn rhaid addaw Sabboth arall. Yr oedd Robert Williams, Tanygrisiau, hefyd, a'i deulu; Cadwaladr Williams, Beudymawr, a'i feibion, a meibion Buarthmelyn, ac eraill, yn aelodau o'r fath fwyaf gweithgar, fel na theimlodd yr eglwys anfantais fawr er ei hir amddifadrwydd o weinidog. Bu Mr. Davies, Trawsfynydd, yn dyfod yma am flynyddau bob mis i gadw cymundeb, ar un cyfnod. Yn wyneb fod y capel wedi ei adeiladu ar fan anfanteisiol, ac agoriad y ffordd haiarn wedi gwneyd y lle yn fwy anfanteisiol fyth, meddyliwyd am gael capel newydd ar lanerch mwy cyfleus, a chanolog i'r holl eglwys. Ffurfiwyd pwyllgor adeiladu er dwyn y gwaith i ben, a chytunwyd am ddarn o dir ar y ffordd cydrhwng Tanygrisiau a Rhiwbryfdir; ond wedi adystyriaeth, cydfarnodd y pwyllgor mai gwell fuasai adeiladu dau gapel, un yn Rhiwbryfdir, ac un arall yn Nhanygrisiau. Adeiladwyd capel y Rhiw yn gyntaf, ac yna yn mhen y flwyddyn adeiladwyd capel yn Nhanygrisiau. Yn mis Mai, 1862, pregethodd R. Thomas, Bangor, ar y gareg sylfaen i gynnulleidfa luosog, ac erbyn y flwyddyn 1863, yr oedd y capel newydd yn barod. Galwyd ef Carmel. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; ac agorwyd et yn nglyn a chyfarfod chwarterol sir Feirionydd, yr hwn a gynhaliwyd yma y flwyddyn hono. Mesurai y capel ugain llath wrth un-ar-ddeg, ac aeth y draul yn agos i 850p. Prynodd yr eglwys dŷ drachefn, yr hwn trwy y cyfnewidiadau a wnaed ynddo, a gostiodd 161p., ond trwy ymdrechion haelionus yr eglwys a'r gynnulleidfa symudwyd ymaith y rhan fwyaf o'r
- ↑ Dysgedydd, 1845. Tu dal. 57.