Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

broffes. Aeth trwy holl ranau y gwasanaeth yn Saesoneg ac yn Gymraeg yn olynol. Mynegwyd y peth dranoeth i'r gwr ieuangc, ac effeithiodd mor ddwys ar ei feddwl fel y dymunodd gael cymuno gyda yr eglwys y Sul canlynol, yr hyn a ganiatawyd iddo, ac ystyriwyd ef yn aelod heb ychwaneg o dderbyniad.

PENMAIN.

Dan yr enw "Eglwys Mynyddislwyn" yr adwaenid yr eglwys hon am lawer o flynyddau wedi ei ffurfiad. Yr oedd Mr. Henry Walter yn pregethu yn Eglwys plwyf Mynyddislwyn rai blynyddau cyn i'r rhyfel cartefol dori allan, ac mae yn ymddangos iddo fod yn foddion i enill llawer o bobl at yr Arglwydd yn y plwyf hwn, a'r plwyfydd cylchynol, yr amser hwnw. Nid oes genym hanes iddo ef gael ei wahardd i bregethu yn y llanau pryd y cafodd Mr. Wroth, Mr. Erbery, a Mr. Cradock eu troi allan, ond mae yn lled debygol iddo gael yr un driniaeth a hwythau, canys y mae yn sicr iddo gorpholi ei bobl yn eglwys Annibynol yn fuan ar ol corpholiad yr eglwys yn Llanfaches, tua diwedd y flwyddyn 1639, neu ddechreu 1640. Cafodd yr eglwys hon, fel eglwys Llanfaches, ei maeddu a'i thrin yn dost yn amser y rhyfel, ond cadwyd hi fel y berth yn llosgi heb ei llwyr ddifa. Pan sefydlwyd rhyddid, ar derfyniad y rhyfel, cafodd rhyw nifer o'r aelodau eu hanfon allan yn bregethwyr teithiol dan nawdd y Senedd, a derbynient £17 y flwyddyn bob un am eu gwasanaeth. Fel y nodasom yn barod yn hanes Llanfaches oedd y rhai a anfonasid allan o'r ddwy eglwys yn ugain, neu ychwaneg, o rif. Nis gwyddom pa nifer o honynt a berthynent i bob un o'r eglwysi.

Nid oes genym unrhyw hanes pennodol am yr eglwys hon yn amser y werinlywodraeth o 1646 hyd 1660, ond y mae pob sail i gredu fod ei gweinidogion a'i haelodau yn gweithio ar eu goreu i daenu gwybodaeth grefyddol yn mysg eu cydwladwyr tywyll. Yn yr amser hwnw yr oeddynt at eu rhyddid i ymgynull i'r Eglwysi plwyfol i addoli. Yn fuan wedi adferiad Siarl II. darfu y rhyddid a fwynhesid am agos i un ar bymtheg o flynyddau, a chafodd Ymneillduwyr Mynyddislwyn, fel eu brodyr yn mhob rhan arall o'r wlad, eu rhan o'r erlidigaethau a barhausant agos yn ddiattal o 1662 hyd 1688. Ond yn y tymor maith a blin hwn daliodd lluaws yn ffyddlon i'w hegwyddorion. Yr ydym yn cael fod addoliad yn cael ei gynnal yn 1669 mewn pump o wahanol fanau yn mhlwyfydd Mynyddislwyn a Bedwellty, ac mewn dau dŷ yn mhlwyf Bedwas, sef tai Evan Lewis, Phillip Rees, Evan William, a Watkin John Evan, Mynyddislwyn; tŷ Edmund Morgan, Bedwellty, a thai William Evan a Thomas Morgan o Fedwas. Rhif y gwrandawyr yn y tri phlwyf hyn y pryd hwnw oedd 350, a'r pregethwyr oeddynt Evan William a Watkin John Evan, neu Watkin Jones, Mynyddislwyn, Morgan Lewis Laurence, o Fedwas, William Lewis, o Gelligaer, a Thomas Quarrell, y pryd hwnw o blwyf yr Eglwys-newydd, ger Caerdydd. Gwyddis hefyd fod yr aelodau a breswylient yn mhlwyf Aberystruth, neu y Blaenau, yn addoli mewn dau neu dri o anedd-dai yn y plwyf hwnw.

Pan roddodd Siarl II. ryddid i'r Ymneillduwyr i addoli yn 1672, darfu i aelodau yr eglwys fawr a gwasgaredig hon drwyddedu amryw anedd-dai mewn gwahanol blwyfydd at bregethu ynddynt. Mae y tai canlynol yn cael eu henwi mewn cof-lyfr sydd yn swyddfa Papurau y llywodraeth, fel