Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/520

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyled yr aed iddi. Yn niwedd y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma mewn cysylltiad a'r eglwys yn Rhiwbryfdir, alwad i Mr. William Roberts, Penybontfawr, a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1866, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yn niwedd Hydref y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri C. R. Jones, Llanfyllin; D. Evans, Penarth; H. James, Llansantffraid; J. Roberts, Llanerchymedd; D. Roberts, Caernarfon; J. Roberts, Conwy, ac E. Morris, Penrhyn. Yn nglyn a'r cyfarfodydd hyn, amlygodd y brodyr yn y lle eu gwerthfawrogiad o Mr. Roberts, ar ei sefydliad yn eu plith, trwy ei anrhegu ag oriawr a chadwen aur, a gwydr-ddrychau aur. Mae Mr. Roberts yn parhau yma yn gysurus a llwyddianus. Gwelwyd yn angenrheidiol helaethu y capel, trwy ei godi yn uwch a rhoddi oriel o'i amgylch, ac y mae yn awr yn un o'r capeli harddaf a ellid ei weled, a chynnulleidfa luosog ac eglwys weithgar ynddo. Aeth traul yr helaethiad yn 660p., ac er ei fod yn cynwys lle i lawer mwy nag a gynwysai o'r blaen, etto, y mae yr eisteddleoedd gan mwyaf oll wedi eu cymeryd. Agorwyd ef y Sabboth olaf yn Medi, 1870, a phregethwyd ar y pryd gan Meistri R. Thomas, Bangor; D. Roberts, Caernarfon; D. Griffith, Portdinorwic, a J. Rowlands, Rhos. Mae tŷ helaeth a chyfleus wedi ei godi i'r gweinidog, trwy gydymroddiad yr eglwys yma ac eglwys Rhiwbryfdir, yn ymyl capel y Rhiw, fel y gwelir yn eglur fod gan y bobl hyn "galon i weithio." Mae capel bychan perthynol i Danygrisiau wedi ei godi yn Cwmorthin. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Nhanygrisiau, dechreuodd Mr. Roberts bregethu ar nosweithiau o'r wythnos yn nhŷ Mr. D. Jones, goruchwyliwr yn y gloddfa yno, ond gwelwyd yn angenrheidiol codi addoldy yn y lle. Gwnaed cais trwy Mr. D. Jones, y goruchwyliwr, am dir gan berchenogion y gloddfa yma, y rhai a deimlent yn llawen i gydsynio. Rhoddodd y chwarelwyr eu llafur yn rhad i dori y sylfaen, cludo y cerig, a gwneyd ffordd ato, ac nid hir y buwyd cyn cael y capel yn barod, ac er iddo gostio 100p. mewn arian, heblaw y llafur rhad a roddwyd, agorwyd ef yn rhydd o ddyled trwy haelioni y chwarelwyr yn y Cwm, a chyfeillion Tanygrisiau. Enwyd ef Tiberias, am y rheswm ei fod yn sefyll ar lân llyn mawr, yr hwn sydd dros ddwy filltir o amgylchedd. Bu Mr. D. Jones, a'i fab, yr hwn sydd gydoruchwyliwr a'i dad, yn egniol yn y gorchwyl o gael y capel i fyny a thalu am dano; ac nid llai ei ymdrech chwaith y bu John Jones. Cynhelir ynddo Ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol. Fel y cynydda y lle, y mae yn debyg y bydd yn rhaid corpholi eglwys Annibynol yma.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon:—

David Cadwaladr. Dangosodd arwyddion gobeithiol, ond lluddiwyd ef trwy farwolaeth i barhau.

Elias Morris. Mae yn awr yn Penrhiwddolion, Dolyddelen, ac yn parhau i bregethu yn achlysurol.

John Roberts. Mab i Cadwaladr Roberts, Buarthmelyn. Derbyniwyd ef i athrofa y Bala, ac yr oedd yn argoeli dyfod yn mlaen yn obeithiol, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn y Bala, cyn gorphen ei dymor yn yr athrofa, a dygwyd ei gorph i'w gladdu yn meddrod y teulu, yn mynwent Ffestiniog.

John Hughes. Mae yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys.

Aelod o'r eglwys hon hefyd oedd Mr. Robert Evans, Bethel, Aberdare, ond yn Abermaw, pan yno yn yr ysgol, y dechreuodd bregethu.