Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/522

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TOWYN.

Bu y rhan yma o'r wlad, rhwng y ddwy afon, Mawddach a Dyfi, yn hwy heb ei darostwng dan ddylanwad yr efengyl na'r rhan fwyaf o sir Feirionydd. Mae yn wir fod Bronyclydwr o fewn llai na phedair milldir i'r Towyn, ac nid oes dim yn fwy sicr na bod yr efengylwr llafurus, Hugh Owen, wedi pregethu llawer trwy yr holl ardaloedd hyn, ond nid oes yma er hyny, gymaint ag un eglwys ag y gellir ei holrhain hyd ei ddyddiau ef. Nis gall yr eglwysi Annibynol yma ddilyn eu hanes yn ddim pellach na dechreuad y ganrif bresenol, ac ni chafodd y Methodistiaid Calfinaidd ond ychydig o flaen arnynt. Pregethwyd ar y maes yn agos i'r Towyn gan Mr. William Jones, Machynlleth, fel y crybwyllasom yn ein cofnodiad of hono yn nglyn a'r eglwys yno, (tu dal. 296,) a therfysgwyd yr addoliad, a dychrynwyd y pregethwr, trwy ddyfodiad gweision Mr. Corbet, Ynysmaengwyn, gyda haid o fytheuaid i aflonyddu. Yr oedd hyn o gylch y flwyddyn 1789, ond nid oes genym hanes am yr Annibynwyr yn cynyg pregethu yma ar ol hyny, hyd ddechreu y ganrif bresenol. Mae yn ymddangos mai Meistri Hugh Pugh, Brithdir, a J. Roberts, Llanbrynmair, oedd a'r llaw flaenaf yn sefydliad yr achos yma. Yr oedd gan Mr. Pugh berthynasau yn byw yn y gymydogaeth hon, a hyny, fel yr ymddengys, a fu yr achlysur i'w arwain yma. Fel hyn yr ysgrifena y diweddar Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn nghofiant Mr. Pugh, o'r Brithdir.—" Yn ffurfiad yr eglwys Ymneillduedig yn Nhowyn, yr oedd Mr. Pugh, ac ysgrifenydd y cofiant hwn, yn bresenol, a chanddynt hwy y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd y tro cyntaf yn y dref, yn ol trefn yr Anymddibynwyr. Yr wyf yn meddwl fod hyn yn y flwyddyn 1803. Y rhai fu yn benaf yn offerynol i ddechreu yr achos yn Nhowyn oeddynt, Hugh Edwards, o Lanyrafon, a Miss Mary Jones, chwaer Hugh Jones, o Dowyn, y rhai a rodiasant yn deilwng o efengyl Crist hyd derfyn eu hoes."[1] Yr oedd David Jones, tad Mr. Daniel C. Jones, Abergwyli, hefyd yn un o'r aelodau cyntaf yn y lle, a pharhaodd yn ffyddlon am ei oes faith, a chyn hir, daeth John Davies, Glasbwll, wedi hyny, i'r gymydogaeth i wasanaethu, ac fel canwr cryf, a gweddiwr doniol, bu o help mawr i'r achos. Cyfarfyddent mewn tŷ yn Lion-street, yr hwn a gymerasid dan ardreth. Heblaw y gweinidogion a enwyd, ymwelai Mr. Azariah Shadrach a'r lle ar ol ei sefydliad yn Nhalybont. Yn nechreu y flwyddyn 1807, urddwyd Mr. James Griffith, yn weinidog yn Machynlleth, a chymerodd ef ofal yr achos bychan yn Nhowyn, a'r achosion oedd erbyn hyn wedi eu cychwyn yn Llanegryn a Llwyngwril. Bu Mr. Griffith yn hynod o lafurus i ymweled a'r lle, ond oblegid eangder maes ei lafur, nis gallasai ddyfod ond yn anfynych. Yn fuan ar ol hyn, dechreuodd Mr. David Morgan, Talybont, ei ymweliadau misol a'r lleoedd hyn, a pharhaodd felly am bedair blynedd. Yn Ꭹ flwyddyn 1811, barnodd Mr. Griffith yn angenrheidiol, oblegid eangder y maes, i roddi y Towyn a'r lleoedd cysylltiedig i fyny, ac anogwyd Mr. David Morgan, o'r hwn yr oeddynt eisioes wedi cael blynyddoedd o brawf, i gymeryd eu gofal. Cydsyniodd Mr. Morgan a'r cymhelliad, ac urddwyd ef mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar wyneb yr heol yn y Towyn,

  1. Dysgedydd, 1824. Tu dal. 355.