Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/523

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn mis Mawrth, 1813. Deuai yma ar ol hyn ddwy waith y mis, ond ni symudodd i fyw o Cerigcaranau, (neu Cerigtaranau, fel yr ysgrifena rhai ef,) sir Aberteifi. Ymdrechodd Mr. Morgan yma a'i holl egni er gwaned oedd yr achos, hyd ddiwedd 1814, pryd y symudodd i Fachynlleth, fel olynydd i Mr. Griffith, ar ei ymadawiad i Dyddewi. Wedi ymadawiad Mr. Morgan, bu Mr. Titus Jones yn aros am ychydig yma. Symudodd i sir Fon, ac aeth at y Methodistiaid, a bu yn pregethu gyda hwy am dymor hir. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn Morganwg, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, fel hen gymeriad gwreiddiol, ac y mae llawer o'i ffraeth-ddywediadau yn aros ar gof a chadw. Yn y flwyddyn 1816, cafodd Mr. Hugh Lloyd, alwad gan yr eglwys yma, a'r eglwysi yn Llanegryn a Llwyngwril, ac urddwyd ef yn Llanegryn Hydref 3ydd, 1817, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; M. Jones, Llanuwchllyn; D. Morgan, Machynlleth; A. Shadrach, Talybont; W. Hughes, Dinas; J. Lewis, Bala; James Davies, Aberhafesp, a C. Jones, Dolgellau.[1] Gan fod yr achos yn wan, ychwanegodd Mr. Lloyd, fel y gwnai y rhan fwyaf o weinidogion y cyfnod hwnw, y swydd o ysgolfeistr at y weinidogaeth, ac yn y naill a'r llall, gwnaeth fwy o les i eraill nag a wnaeth o elw iddo ei hun. Yr oeddynt dan anfantais fawr o eisiau lle mwy cyfleus i addoli. Yr oedd anhawsder mawr i gael tir, ac yr oedd yr eglwys yn ychydig mewn nifer, ac yn dlodion agos oll, fel nad oedd calon ynddynt at y gwaith, ac nid oedd ond ychydig o ysbryd anturio yn Mr. Lloyd ei hun. Cafodd dir ar werth, a phrynodd ef am 74p., a phenderfynodd y mynai gael 200p. i law cyn dechreu adeiladu, a llwyddodd yn hyny. Codwyd capel prydferth a chyfleus. Galwyd ef Bethesda, ac agorwyd ef Mehefin 21ain, 1820, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Davies, Cutiau; R. Jones, Llanfyllin; R. Roberts, Brithdir; W. Jones, Caernarfon; D. Griffith, Bethel; E. Davies, Rhoslan; J. Davies, Llanfair; J. Lewis, Bala; O. Thomas, o sir Fon; W. Hughes, Dinas, a C. Jones, Dolgellau.[2] Teithiodd Mr. Lloyd trwy Yorkshire, a pharthau eraill o Loegr i gasglu ato, a chyn diwedd y flwyddyn 1820, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, ac yn nglyn a hanes yr agoriad yn yr Evangelical Magazine, y mae Mr. Lloyd yn cymeryd y cyfle i ddiolch i'r cyfeillion caredig yn Lloegr, y rhai yn haelfrydig a roisant iddo Ꭹ fath gynorthwy amserol. Bu Mr. Lloyd yn gyson a dyfal yn ei lafur yma, ac ennillodd yr achos dir yn raddol, ac yr oedd cymeriad uchel a difrycheulyd y gweinidog a'r eglwys, yn rhoddi iddo safiad parchus yn ngolwg trigolion y lle. Yn nechreu y flwyddyn 1849, barnodd Mr. Lloyd yn ddoeth i gael gwr ieuange i gydlafurio ag ef, a chydsyniodd ef a'r eglwys i roddi galwad unfrydol i Mr. Isaac Thomas, aelod o Carmel, Cendl, ac urddwyd ef Medi 27ain, 1849. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Lloyd, Towyn; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. E. Davies, o Drawsfynydd; pregethodd Mr. C. Jones, i'r gweinidog, a Mr. E. Evans, Maentwrog, i'r eglwys. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri R. Ellis, Brithdir; W. Davies, (gynt o Rymni), J. Jones, Abermaw; S. Edwards, Machynlleth; O. Thomas, Talybont; R. Roberts, Clarach; J. Williams, Aberhosan; G. Evans, Pennal; J. Owen,

  1. Evangelical Magazine, 1817. Tu dal. 535.
  2. Evangelical Magazine, 1820. Tu dal. 390.