Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/524

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nefin, ac E. Williams, Dinas.[1] Llafuriodd Mr. Thomas fel plentyn gyda thad hyd farwolaeth Mr. Lloyd yn mis Medi, 1861, ac er hyny y mae y gofal yn gwbl arno ef, a'r achos yn myned rhagddo yn siriol iawn. Yn 1866, helaethwyd y capel, fel y mae yn dŷ eang a chyfleus, y fath ag y sydd yn cyfateb i'r lle prydferth a chynyddol y mae ynddo.

Mae yma lawer o bobl dda wedi bod o bryd i bryd yn nglyn a'r achos, heblaw y rhai a enwyd yn nglyn a'i gychwyniad. Nid ydym wedi cael rhestr o'u henwau, gan hyny, ymataliwn rhag crybwyll enwau yr ychydig a adwaenem, rhag i ni adael allan eraill llawn mor deilwng, ond gwyddom na bydd yn dramgwydd i neb i ni grybwyll am enw Mrs. Lloyd, gwraig y gweinidog, yr hon oedd nid yn unig "yn rhodd gan yr Arglwydd" i Mr. Lloyd, ond hefyd i'r achos yn Nhowyn. Mae yr engraifft a ddyru Dr. W. Rees, Liverpool, o'i chraffder a'i thynerwch, yn nghofiant Mr. Pugh, Mostyn, yn dangos mai un yn mysg mil ydoedd, ac nid heb achos y gofyna, "A oes yn mysg merched Seïon yn awr lawer o'r ddelw hon o Gristionogion?"

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :—

Hugh Pugh. Urddwyd ef yn Llandrillo, a symudodd i Mostyn, lle y daw ei hanes dan ein sylw.

John Humphrey. Bu am ysbaid yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys hon. Ymfudodd i'r America, lle y daliodd ei ffordd yn anrhydeddus, a bu farw mewn oedran teg.

David S. Thomas. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Glandwr, Penfro, lle y mae etto.

John E. Thomas. Brawd i'r uchod. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin.

Yn yr eglwys hon y magwyd D. C. Jones, Abergwyli, ond fel y crybwyllasom yn nglyn a'r Graig, Machynlleth, yno y dechreuodd bregethu. Mae Thomas Davies, a Hugh P. Jones, yn awr yn bregethwyr cynorthwyol yn yr eglwys.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

. HUGH LLOYD. Ganwyd ef Medi 11eg, 1790, mewn amaethdy bychan o'r enw Bryngoleu, o fewn dwy filldir i'r Bala. Yr oedd ei dad, William Llwyd, yn ddiacon yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhalybont, gerllaw y Bala. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond wyth oed, ac ar ol bod am dymor yn yr ysgol yn y Bala, rhwymwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd. Ar ol dyfod yn rhydd, aeth i Swinton, yn agos i Manchester, ac yno fel y tybir y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr.[2] Dychwelodd yn ol i'w wlad oblegid sefyllfa ei iechyd, a bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau, a phan yn cadw ysgol yn Mhenystryd anogwyd ef i ddechreu pregethu. Symudodd oddiyno i'r Groeslon, Mon, i gadw ysgol ac i bregethu, ond yn y flwyddyn 1816, cafodd alwad gan yr eglwysi yn y Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, y rhai oeddynt er's yn agos i ddwy flynedd heb fugail, oblegid symudiad Mr. Morgan, i Fachyn-

  1. Dysgedydd, 1849. Tu dal. 346
  2. Cofiant y Parch. Hugh Lloyd, Towyn.—Annibynwr, 1862. Tu dal. 146.