Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/525

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lleth. Urddwyd Mr. Lloyd yn Llanegryn, Hydref 3ydd, 1817. Ymroddodd a'i holl egni i wneyd ei waith, ac ni bu ei ymdrechion yn ofer. Cododd yn ei oes gryn nifer o gapeli, ond nid oedd mewn un modd am ddal ei afael ynddynt, ond cyn gynted ag y gwelai eu bod yn alluog i gynal gweinidog eu hunain, anogai hwy i wneyd hyny. Yn y flwyddyn 1836, rhoddodd yr eglwysi yn Llanegryn, Llwyngwril, a Llanfihangel i fyny, ond parhâi i ymweled a hwy tra y gallodd. Yn y flwyddyn 1824, priododd a Miss Thomas, merch ieuangc rinweddol o Abergwaun, yr hon a fu iddo yn "ymgeledd gymhwys." Ymgymerodd a masnach oblegid fod yr eglwysi dan ei ofal yn rhy wan i'w gynal, a pha faint bynag o anfantais a fu hyny iddo fel pregethwr, etto bu o fantais fawr i'w ddylanwad fel dyn cyhoeddus yn y dref, a rhoddodd gyfle iddo i gymeryd ei ran yn amlwg gyda phob peth, a chyfranu at bob achos, yr hyn nis gallasai pe gorfodasid ef i fyw ar yr hyn a allasai ei eglwysi gyfranu at ei gynhaliaeth. Gyda Bwrdd Iechyd y lle, a'r Ysgol Frutanaidd, a Chymdeithas y Biblau, nid oedd neb yn fwy blaenllaw nag ef, ac yr oedd ei wybodaeth gyffredinol, a'i synwyr cyffredin cryf yn rhoddi iddo ddylanwad mawr gyda'r fath bethau. Yr oedd yn ofnus a gochelgar yn mhob peth, ac yn wastad am gadw ar yr ochr ddiogelaf, a chadwodd hyny ef rhag rhuthro i bethau y tu allan i'w derfynau. Yr oedd yn gyfaill cywir a didwyll, ac yn cael ei garu fwyaf gan ei bobl ei hun, a'r rhai a'i hadwaenent oreu. Nid ymgododd yn uchel fel pregethwr, ac nis gallasai ychwaith, gan nad oedd ei alluoedd yn gryfion na'i ddoniau yn helaeth, ond yr oedd yn bregethwr sylweddol, a chanddo yn wastad genadwri i'w thraddodi a "fyddai da i adeiladu yn fuddiol." Profodd ei fod yn fugail ffyddlon a gofalus. Er nad ymddibynai ar bobl ei ofal am ei gynhaliaeth, ac er ei fod yn eu gwasanaethu yn rhad trwy ei oes, etto, nid oedd hyny yn peri ei fod yn ddiofal yn eu cylch, ond teimlai mai goruchwyliwr cyfrifol i'w feistr ydoedd, ac fel y cyfryw, gofalai am fod yn ffyddlon. Yr oedd wedi cael ergyd o'r parlys rai blynyddau cyn ei farw, yr hyn a'i hanalluogai i siarad yn gyhoeddus, ond yr oedd mor llawn o ysbryd ei waith fel y mynai gael pregethu er nad oedd ei wrandawyr yn deall fawr ddim o'r hyn a lefarai. Yn ei gystudd diweddaf teimlai fod ei angor yn dal yn ddiysgog. Y Sabboth cyn ei farw, gofynwyd iddo gan un o'i gyfeillion, a oedd yn gallu mentro ei hun ar Grist? "Mentro," ebe yntau, "nid mentro, ond ymddiried fy hun yn gwbl i'w ofal." Bu farw Medi 25ain, 1861, yn 71 oed, ac yn mhen tri diwrnod rhoddwyd ei weddillion marwol i orwedd yn y llanerch oedd yn gysegredig yn ei olwg yn ei flynyddoedd olaf, oblegid mai yno yr oedd lle beddrod ei anwyliaid.

BRYNCRUG.

Mae y lle hwn o fewn dwy filldir i Dowyn. Dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn Rhydyronen, pentref o fewn haner milldir i'r fan lle y saif y capel presenol. Bu yr achos yn y lle hwnw mewn gwedd flodeuog dros flynyddau, ac er y cynhelid yno bregethu cyson a chyfeillachau crefyddol yn rheolaidd, etto, elai yr aelodau i Dowyn i gymundeb. Trwy lafur Mr. Lloyd, Towyn, ac eraill o'r cyfeillion, yn enwedig Mr. Hugh Davies, Gwyndy, cafwyd lle i adeiladu addoldy ar brydles.[1] Mae y capel yn mesur wyth llath yn ysgwar. Galwyd ef Saron.

  1. Llythyr Mr. Isaac Thomas