Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/526

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Agorwyd ef Awst 1af, 1837, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Jones, Aberhosan; J. Williams, Dinas; E. Evans, Abermaw; J. Roberts, Llanbrynmair, a J. Parry, Machynlleth. Ffurfiwyd eglwys yma yn ddioed wedi codi y capel, ac y mae y lle o'r dechreuad wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Towyn, ac felly y mae yn parhau. Ni bu yr achos yma. erioed yn gryf, ac nis gellir disgwyl iddo fod, oblegid cyfyng yw y maes, ond y mae yn cryfhau ac yn ennill tir yn raddol, a'r eglwys a'i gweinidog yn cydweithio yn galonog.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

John Thomas. Aelod o Machynlleth ydoedd, ond yma yn cadw ysgol yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Dinasmawddwy, ac y mae yn awr yn Abertawy.

Hugh D. Pughe. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Meifod. Symudodd i'r Drefnewydd, lle y bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Yr ydym eisioes yn nglyn a'r eglwys hono wedi gwneyd byr grybwylliad am dano.

Robert Thomas. Bu yn efrydydd yn athrofa y Bala, ac y mae wedi ei urddo yn Llanelltyd.

Lewis Jones. Yr oedd yn wr ieuangc cymeradwy, ond bu farw yn ieuangc.

PENNAL.

Pentref bychan mewn dyffryn prydferth ar y ffordd o Fachynlleth i Aberdyfi ydyw Pennal, o fewn pedair milldir i'r lle blaenaf a enwyd. Megis y crybwyllasom yn hanes Machynlleth, y mae yn ymddangos i Mr. William Jones bregethu yma yn ystod y tymor byr y bu yno, ac wedi hyny, pregethwyd yma gan Mr. John Evans, a Mr. Edward Francis. Yr oedd yma un hen wraig o'r enw Jane Davies, yr hon a fu farw tua phymtheng mlynedd yn ol, ac wedi bod gyda chrefydd am dair blynedd-a-thriugain.[1]

Nid oedd yma eglwys wedi ei ffurfio y pryd hwnw, ac ychydig flynyddoedd cyn hyny yr oedd yr eglwys yn Machynlleth wedi ei chorpholi. Pregethid mewn gwahanol dai yn yr ardal, a choffeir yn arbenig y byddai pregethu weithiau yn Nantygwasanaeth, tŷ bychan ar dir y foneddiges ragorol, Mrs. Anwyl, Llugwy. Mae y tŷ y dechreuwyd pregethu yn sefydlog ynddo yn Mhennal yn sefyll etto yn nghanol y pentref. Dŷwedir y byddai yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn cydaddoli ynddo, ac yn gwbl heddychlawn a brawdol. Elai yr aelodau oedd yma i'r Graig, Machynlleth, i gymundeb, ac arferai yr hen frodyr a'r chwiorydd sydd wedi blaenu, adrodd mor felus fyddai y gyfeillach ar y ffordd wrth fyned i a dychwelyd o Fachynlleth, ac yr elai y pedair milldir heibio bron heb yn wybod iddynt. Ar sefydliad Mr. James Griffith yn Machynlleth, yr 1807, y dechreuodd yr achos yma ymffurfio i ryw drefn, a dechreuwyd cynal moddion yn rheolaidd, er na ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Wedi ymadawiad Mr. Griffith, nid oedd y gangen yn Pennal, yn ol adroddiad un hen frawd o'r enw Hugh Dafydd, yn gwbl unol a Machynlleth ac Aberhosan, i roddi galwad i Mr. D. Morgan, ond ymddengys iddynt yn fuan syrthio i mewn ar dewisiad, ac ni bu un gangen o'r eglwys

  1. Llythyr Mr. Morris Davies, Pennal.