Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/527

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ffyddlonach i Mr. Morgan, nag y bu y gangen yn Pennal dros holl ystod ei arosiad yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu capel yn y man lle y saif y capel presenol, ar brydles o gan' mlynedd, gan Mr. John Jones, siopwr, Machynlleth, am yr ardreth flynyddol o saith swllt. Dyddiad y weithred ydyw, Mawrth 9fed, 1816, a'r ymddiriedolwyr cyntaf oedd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair, a D. Morgan, Machynlleth. Aeth traul adeiladiad y capel yn 120p. Agorwyd ef yn nechreu haf 1816, a phregethwyd gan Dr. Lewis, Llanfyllin, Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; A. Shadrach, Talybont; M. Jones, Llanuwchllyn, a W. Morris, a J. Ridge, myfyrwyr yn Llanfyllin. Yn y flwyddyn 1833, helaethwyd y capel, a chostiodd hyny 92p., yr hyn a deimlid yn faich, gan fod yr hen ddyled heb ei chwbl dalu. Talwyd ychydig o'r ddyled cyn ymadawiad Mr. Morgan, ond yr oedd 90p. yn aros rhwng yr hen a'r newydd, pan symudodd ef yn niwedd 1836. Cafwyd ail brydles, gydag ymddiriedolwyr newyddion, a dyddiad hono ydyw, Tachwedd 9fed, 1836, a'r ymddiriedolwyr newyddion oedd Meistri D. Morgan, Machynlleth; Thomas Jones, Pumwern; Daniel Evans, Penmaenisaf; Morris Davies, Cefnllecoediog; John Harri, Cwrt; Samuel Roberts, a John Roberts, Llanbrynmair; John Williams, Dinas; Hugh Morgan, Sammah, ac Evan Griffith, Llanegryn. Bu gweinidogaeth Mr. Morgan o wasanaeth anmhrisiadwy i'r ardal hon am y ddwy-flynedd-ar-hugain y llafuriodd yma. Gwreiddiwyd yma lawer yn y gwirionedd trwy ei offerynoliaeth, ac y maent yn parhau i ddal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

Yn haf 1837, daeth Mr. John Parry, i fod yn weinidog yn Salem, Machynlleth, a chymerodd ofal yr eglwys yma, a bu yn egniol a gweithgar yma am fwy na blwyddyn. Talwyd 60p. o'r ddyled yn y cyfamser, ac ar gais Mr. Parry, y dechreuwyd myned trwy y gymydogaeth i gasglu at yr achos Cenhadol, ac y mae yr arfer yn parhau etto. Rhoddodd Mr. Parry yr eglwys hon a'r eglwys yn Rhiwgwreiddyn i fyny, oblegid fod y maes yn rhy eang iddo, a rhoddwyd galwad i Mr. William Roberts, myfyriwr yn Marton. Daeth yma y Sabboth cyntaf o Ionawr, 1839, a phregethodd oddiar y geiriau "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw?" gyda nerth mawr. Urddwyd ef Mehefin 15fed, 1839. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddiwyd gan Mr. H. Lloyd, Towyn; pregethodd Mr. J. Williams, Aberhosan, i'r gweinidog, a Mr. M. Jones, Llanuwchllyn, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri E. Hughes, Penmain; T. Griffith, Rhydlydan; H. Morgan, Sammah; O. Thomas, Talysarn; D. Price, Penybontfawr; M. Ellis, Talybont; J. Roberts, Llanbrynmair; R. Jones, Ruthin; E. Griffith, Llanegryn; R. Jones, Llwyngwril; J. Humphreys, Towyn; H. James, Dinas, ac eraill.[1] Bu Mr. Roberts yma yn llwyddianus iawn, cynyddodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd ugeiniau at rifedi yr eglwys. Cynhelid cyfarfodydd gweddio am chwech o'r gloch y boreu ddyddiau gwaith, a deuai dynion iddynt o fodd eu calon cyn myned at eu gorchwylion. Ymadawodd Mr. Roberts i Benybontfawr yn nechreu 1841.

nechreu 1841. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Roberts, rhoddwyd galwad i Mr. Grey Evans, yr hwn a fuasai am dymor yn yr ysgol gyda Mr. R. P. Griffith, Pwllheli. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Awst, ac urddwyd ef Hydref 15fed, 1841; ar yr achlysur, preg-

  1. Dysgedydd, 1839. Tu dal. 256