Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/529

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae yma amryw o bersonau wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, a adawodd ddylanwad er daioni ar y cylchoedd y buont yn troi ynddynt. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am y foneddiges rinweddol, Mrs. Anwyl, Llugwy, yn nglyn a Machynlleth. Hugh Pugh, o'r Ynys, a'i deulu, a fuont hefyd yn golofnau o dan yr achos yma. Crybwyllir yn arbenig am John Lloyd, hefyd, fel dyn deallgar yn mhethau yr efengyl. Yr oedd wedi astudio golygiadau Dr. Edward Williams, gyda llawer o fanylwch, ac yn deall Penarglwyddiaeth a Dwyfol Lywodraeth yn well na'r rhan fwyaf. Crefyddwr gwastad ydoedd—rhedai yn gyffelyb bob amser. oedd brawd iddo o gyffelyb dymer, Thomas Lloyd, yn aelod a diacon yn eglwys y Towyn.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

William Rees. Un o gymydogaeth Aberhosan ydoedd. Dywedir iddo fyned i'r athrofa i Wrecsam, ond nis gallasom gael dim o'i hanes ar ol hyny.

Robert Edwards. Mab Cefncynafal fach. Ni bu nemawr o lwyddiant arno fel pregethwr. Ymadawodd at yr Eglwys Sefydledig, a bu yn ysgolfeistr, ac o'r diwedd ymfudodd i America.

Derbyniwyd yma amryw eraill yn aelodau, ond ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu—John Humphreys, Towyn; John Williams, Aberhosan; David Knowles, yn awr o Iowa, America, yr ydym yn deall mai yn Mhenybontfawr y dechreuodd ef bregethu pan yno yn cadw ysgol. David Edwards, Pilton Green, ac eraill, a dderbyniwyd yn aelodau yma, er mai ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt, Meistri Morris Davies, a J. Jones, Felinganol.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

GREY EVANS. Ganwyd ef yn Llanerchymedd yn y flwyddyn 1815, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod. Symudodd i sir Gaernarfon i ddilyn ei alwedigaeth, ac ymaelododd yn Mhenygroes, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu am rai blynyddoedd yn pregethu yn gynorthwyol, heb fod neb yn meddwl yr ymgodai yn ddim uwch na hyny. Yn 1839, aeth ar daith trwy y Deheudir, ac ar ol dychwelyd, aeth i'r ysgol i Bwllheli, at Mr. R. P. Griffith, lle y bu dros ychydig, ond ni wnaeth ond ychydig gynydd mewn dysgeidiaeth. Yn 1841, cafodd alwad o Pennal, ac urddwyd ef Hydref 15fed, y flwyddyn hono. Bu yn ddiwyd a ffyddlon yn y weinidogaeth tra y parhaodd ei dymor. Yr oedd yn ddyn cywir a diddichell, unplyg iawn yn mhob peth. Er nad oedd ei ddarlleniad yn eang, na'i dalentau yn gryfion, etto yr oedd ganddo ddawn rhwydd, a rhyw dynerwch yn ei lais, a phregethai ar brydiau yn dra effeithiol. Yn ei amser ef y codwyd capel yn Aberdyfi, a bu yn dra ymdrechgar i gasglu ato, ac er i ryw anghydwelediad godi rhyngddo a rhai cyfeillion yn Aberdyfi, fel y barnodd yn oreu i ddatod ei gysylltiad a'r lle, etto yr oedd ei ofal yn fawr am dano, a dymunodd ar weinidogion Towyn i gymeryd ato. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac ar ol ychydig fisoedd o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar, bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Cymerwyd ei weddillion marwol i fynwent Hen Gapel, Llanbrynmair, a chladdwyd ef yn barchus. Cyn cychwyn o Bennal, ac yn Llanbrynmair, gweinyddodd Meistri S. Roberts, Llanbrynmair; H. Morgan, Sammah; J. Owen, Llan-