Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai a drwyddedwyd at gynnal addoliad gan yr Annibynwyr:—Tŷ Thomas James o blwyf Mynyddislwyn, Awst 10, 1672; tŷ Evan William o'r un plwyf, Awst 10; tŷ Watkin Jones o'r un plwyf, Awst 10; tŷ Raynold Morgan o blwyf Bedwas, Awst 10; tŷ Llewellyn Rosser o blwyf Aberys- truth, Awst 10; tŷ John James, Aberystruth, Awst 10; tŷ Lewis Rees, Gelligaer, Awst 10; tỷ William Rowlands, Llanfabon, Awst 10; a thŷ William John, Eglwysilan, Awst 10. Ar yr un dydd hefyd cymerodd Watkin Jones, Mynyddislwyn, a Thomas John, Eglwysilan, drwyddedaui bregethu fel gweinidogion Annibynol. Yr oedd rhai o'r Ymneillduwyr y pryd hwnw yn petruso i gymeryd trwyddedau rhag y gallasai hyny agoryd y drws i'r Pabyddion i gael rhyddid, yr hyn yn ddiau oedd prif amcan Siarl wrth estyn hyn o ffafr i'r Annghydffurfwyr. Mae yn bosibl mai dyna y rheswm paham nad ydym yn cael enwau Henry Walter, John Powell, A.M., Thomas Quarrell, ac ereill y gwyddis eu bod yn pregethu yn yr eglwys hon, yn mysg y rhai a gymerasant drwyddedau i bregethu.

Mae Mr. Henry Maurice yn yr hanes a roddodd am eglwysi Cymru, mewn llythyr at Mr. Edward Terril, o Gaerodor, yn y flwyddyn 1675, yn dyweyd mai Mr. Henry Walter, ei sylfaenydd oedd gweinidog yr eglwys hon y flwyddyn hono, a bod Mr. Watkin Jones, a Mr. John Powell, A.M., yn athrawon neu henuriaid athrawiaethol ynddi. Dywed fod ei haelodau yn wasgaredig o blwyfydd y Blaenau a Mynyddislwyn i lawr mor belled a'r Casnewydd, a'u bod oll yn Annibynwyr yn eu barn, ond y gallasai fod ychydig o Fedyddwyr yn cymuno gyda hwynt. Mae yn debygol mai pregethwyr cynnorthwyol oedd Evan William, Mynyddislwyn, Morgan Lewis Laurence, Bedwas, a William Lewis, Gelligaer.

Tebygol yw i Mr. Henry Walter farw yn fuan ar ol y flwyddyn 1675, ac mai Mr. Watkin Jones a Mr. John Powell, A.M., a'i dilynodd yn y weinidogaeth, y rhai o'r blaen, fel y gwelsom, oeddynt yn gynnorthwywyr iddo. Bu Mr. Powell farw yn y flwyddyn 1691, a Mr. Watkin Jones yn 1692 neu 1693.

Mewn anedd-dai y bu yr eglwys yn gorfod addoli trwy yr oll o dymor yr erlidigaeth o 1662 hyd 1688, ac nid yw yn debygol i'r holl eglwys allu cyfarfod yn yr un man unrhyw bryd yr amser hwnw. Ar ol cael rhyddid dan ddeddf y Goddefiad yn 1688, aethant i ddarparu at adeiladu addoldy, ond buont chwe' mlynedd cyn ei gael yn barod. Dichon mai o herwydd fod eglwys mor wasgaredig yn cyrhaedd o gyrau uchaf plwyf y Blaenau, i lawri Risca, Machen, a Bedwas; ac o Bontypool hyd Gelligaer a Llanfabon—y buwyd cyhyd heb benderfynu pa le yr adeiladesid yr addoldy. Yn y flwyddyn 1694 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Mhenmain. Yr oedd y ddau weinidog wedi marw cyn gosod yr arch yn ei phabell newydd. mhen ychydig amser ar ol adeiladu y capel, rhoddodd yr eglwys alwad i wr ieuangc, genedigol o ryw barth o sir Gaerfyrddin, o'r enw John Harries. Yr oedd y gwr hwn yn bregethwr anarferol o boblogaidd, a bu ei weinidogaeth am rai blynyddau yn nodedig o effeithiol fel y cynyddodd yr eglwys i'r fath raddau mewn rhif a doniau, nes nad oedd un eglwys Ymneillduol yn sir Fynwy yn gyffelyb iddi o ran rhifedi a dylanwad crefyddol. Ond dilynwyd yr haf dymunol hwn gan anaf du, maith, ac ystormus. Aeth y gweinidog, yr hwn o bosibl, a hanner addolid gan y bobl, yn ddiottwr, ac o radd i radd yn feddwyn anniwygiadwy, fel y gorfu i'r eglwys ei ddiaelodi. Rhoddodd hyny ergyd trwm i'r achos, ac i ychwanegu at y gofid bu y frawdoliaeth am gryn amser yn croes dynu gyda golwg ar ddewisiad gwein-